Stamp amser presennol: 03/08/2026 06:00:06
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleol[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-location' for 'Welsh (United Kingdom)']UchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Allanfa Gyflym

Cwcis

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.

Derbyn cwcis Gwrthod cwcis Addasu cwcis

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

Dyfed Powys force crest

  • Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio bod person ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Sbeicio
    • Stelcio neu aflonyddu
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
    • Trosedd gasineb
  • Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith, protest neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
    • Cysylltu â ni i riportio trosedd, digwyddiad neu amheuaeth
    • Cysylltu â ni am rywbeth arall
  • Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Adborth am y wefan
    • Cwynion
    • Dweud diolch
  • Eich ardal chi

CARCHAR | Dynion o Gasnewydd wedi’u carcharu am ladrata o glybiau golff yng ngorllewin Cymru

Cynnwys y prif erthygl

Ceredigion Powys Sir Benfro Sir Gaerfyrddin
Cyhoeddwyd: 00:00 04/03/2026

CARCHAR | Dynion o Gasnewydd wedi’u carcharu am ladrata o glybiau golff yng ngorllewin Cymru

Mae dau ddyn wedi’u carcharu ar ôl lladrata o ddau glwb golff yng ngorllewin Cymru, un ar ôl y llall.

Plediodd Mikael Bourkhari, 45 oed, a Simon Dickey, 38 oed – ill dau o Gasnewydd, de Cymru – yn euog i ladrata mewn gwrandawiad llys fis Ionawr.

Ar Dydd Llun, yn Llys y Goron Abertawe, carcharwyd Boukhari am ddwy flynedd a chwe mis, a charcharwyd Dickey am ddwy flynedd ac wyth mis.  

Clywodd y llys sut y galwyd Heddlu Dyfed-Powys am oddeutu 12.45 o’r gloch fore ddydd Sul 18 Ionawr, yn adrodd bod y larwm lladron yn canu yng Nghlwb Golff Hwlffordd.  

Pan gyrhaeddodd swyddogion chwe munud yn ddiweddarach, roedd hi’n amlwg bod yr adeilad wedi’i dargedu’n fwriadol a bod grym wedi’i ddefnyddio i dorri i mewn iddo.

Â’r larwm dal yn canu a golau’n tywynnu o’r tu mewn, aeth swyddogion i mewn i’r clwb golff, yn barod i ddal yr ymwthiwr.

Yn lle hynny, fe wnaethon nhw ddarganfod bod yr olygfa wedi cael ei gadael a'i difrodi'n ddrwg.

Cyrhaeddodd perchnogion y clwb yn fuan wedi hynny, gan nodi bod sawl clwb golff gwerth £100 - £500 yr un wedi’u cymryd o siop y clwb. Amcangyfrifwyd bod cyfanswm gwerth yr eitemau a gafodd eu dwyn tua £36,000.

Tra bod swyddogion yn diogelu tystiolaeth yn lleoliad y digwyddiad, casglodd staff yr ystafell reoli ym Mhencadlys yr Heddlu gudd-wybodaeth ar gerbydau yn yr ardal a allai fod yn gysylltiedig â’r drosedd.

Nodwyd fan Vauxhall goch fel rhan o’u hymholiadau, a rhannwyd disgrifiad o’r cerbyd â swyddogion yn Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin.

Gyda swyddogion dros y ffin wedi’u hysbysu am y fyrgleriaeth, penderfynodd unedau lleol batrolio’r clwb golff yng Nghaerfyrddin er mwyn bod yn ddiogel. Ar ôl iddynt gyrraedd, roedd hi’n amlwg bod clwb golff Caerfyrddin wedi ei dargedu hefyd.

Roedd difrod helaeth i’r drws ffrynt, a throsol melyn wedi ei adael yn lleoliad y digwyddiad. Amcangyfrifwyd bod clybiau golff gwerth tua £7,000 hefyd wedi cael eu dwyn o'r safle. Amcangyfrifwyd hefyd fod difrod gwerth tua £5,000 wedi'i achosi i'r adeilad.

Ychydig ar ôl 2 o’r gloch y bore, daeth Swyddogion Plismona’r Ffyrdd o hyd i’r cerbyd dan sylw yn teithio ar hyd yr A48 i gyfeiriad Pont Abraham, er gwaethaf platiau rhif ffug wedi’u gosod ar y cerbyd.

Stopiwyd y fan, a daethpwyd o hyd i nifer anarferol o fagiau a chlybiau golff tu mewn. Arestiwyd y gyrrwr a’i deithiwr – a ddywedodd mai “Richard Smythe” a “Michael Hale” oedd eu henwau – ar amheuaeth o fyrglera.

Nôl yn y ddalfa, cyfaddefodd y pâr eu bod wedi rhoi enwau ffug ac fe’u harestiwyd ymhellach ar amheuaeth o rwystro’r heddlu.

Cafodd yr holl eitemau a gafodd eu dwyn eu hadfer a'u dychwelyd i'r clybiau golff.

Ymddangosodd Mikael Bourkhari a Simon Dickey yn Llys Ynadon Llanelli’r bore canlynol (19 Ionawr), gan bledio’n euog i’r ddau achos o fyrglera ac un achos o rwystro’r heddlu.

Ar Dydd Llun (2 Mawrth), cafodd y pâr eu dedfrydu i garchar:

  • Mikael Bourkhari, 45 oed – dwy flynedd a chwe mis
  • Simon Dickey, 38 oed – dwy flynedd ac wyth mis

Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Kate Williams: “Diolch i waith ardderchog y swyddogion a ymatebodd ar y noson ei hun, a’r ymchwiliad a ddilynodd, mae Boukhari a Dickey wedi wynebu canlyniadau eu gweithredoedd haerllug yn awr. 

“Mae’r perchnogion clwb golff lleol hyn wedi gweithio’n galed iawn i adeiladu a chynnal cyfleusterau sy’n dod ag aelodau o’r gymuned golffio at ei gilydd. Ni ddylent byth ddod yn darged trosedd mor drychinebus. 

“Mae canlyniad heddiw’n tanlinellu’r ffaith y byddwch chi’n cael eich dal os fyddwch chi’n teithio i ardal Dyfed-Powys i gyflawni trosedd.  

“Byddwn ni’n cymryd pob cam gofynnol i’ch adnabod a’ch arestio a’ch dwyn i gyfiawnder.

“Rwyf nawr yn gobeithio gall y dioddefwyr yn yr achos hwn symud ymlaen o’r digwyddiadau ofnadwy hyn a dychwelyd i’r clybiau golff mae cymaint yn eu caru.”

Rhannu

Llywio troedyn

Heddlu Dyfed-Powys

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Gyrfaoedd
  • Amdanom ni
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Ystadegau a data
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Adborth

Partneriaid

  • Comisiynydd Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2026. Cedwir pob hawl.