Stamp amser presennol: 03/08/2026 05:59:07
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleol[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-location' for 'Welsh (United Kingdom)']UchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Allanfa Gyflym

Cwcis

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.

Derbyn cwcis Gwrthod cwcis Addasu cwcis

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

Dyfed Powys force crest

  • Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio bod person ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Sbeicio
    • Stelcio neu aflonyddu
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
    • Trosedd gasineb
  • Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith, protest neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
    • Cysylltu â ni i riportio trosedd, digwyddiad neu amheuaeth
    • Cysylltu â ni am rywbeth arall
  • Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Adborth am y wefan
    • Cwynion
    • Dweud diolch
  • Eich ardal chi

Rhyddhau delwedd ddigidol mewn ymchwiliad i adnabod dyn y daethpwyd o hyd iddo mewn cronfa ddŵr

Cynnwys y prif erthygl

Powys
Cyhoeddwyd: 12:01 09/03/2026

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi rhyddhau delwedd ddigidol o ddyn y daethpwyd o hyd i’w gorff mewn cronfa ddŵr ym mis Hydref 2024 wrth i ymdrechion barhau i’w adnabod.

Mae’r heddlu wedi gweithio gyda Face Lab ym Mhrifysgol John Moore, Lerpwl, i gynhyrchu delwedd realistig o wyneb y dyn ar ôl bron 16 mis o ymholiadau i sefydlu pwy ydyw.

Adroddwyd am ddarganfyddiad corff dyn yng Nghronfa Ddŵr Claerwen wrth yr heddlu gan gerddwr ar 17 Hydref 2024. Roedd y dyn, sydd heb ei adnabod, yn gwisgo siwt wlyb, fodd bynnag, ni ddaethpwyd o hyd i unrhyw ddillad arall, gemwaith, na thrafnidiaeth yn yr ardal, ac nid oedd ganddo unrhyw farciau gwahaniaethadwy megis creithiau neu datŵau.

Amcangyfrifwyd ei fod wedi bod yn y dŵr am hyd at 12 wythnos cyn cael ei ganfod.

Yn y misoedd a ddilynodd, cynhaliodd ditectifs pob ymholiad posibl i adnabod y dyn, â’r nod o hysbysu ei anwyliaid am ei farwolaeth.

Er gwaethaf pob ymdrech, mae’r dirgelwch dal heb ei ddatrys.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Anthea Ponting, sydd wedi arwain yr ymchwiliad: “Pan adroddwyd am y darganfyddiad wrthym, aethom ati’n syth i geisio sefydlu pwy oedd y dyn hwn.

“Yn absenoldeb unrhyw eitemau personol heblaw’r siwt wlyb yr oedd yn ei gwisgo, diffyg dogfennau adnabod a dim cerbydau gerllaw, dechreuom weithio gyda heddluoedd cyfagos i gynnal gwiriadau ar gyfer pobl ar goll neu yn eisiau nad oedd wedi’u canfod.

“Pan oedd hyn yn aflwyddiannus, estynnom ein hymholiadau i gysylltu â phob heddlu yn y DU, chwilio Cronfa Ddata Genedlaethol yr Heddlu, a chyhoeddi bwletinau i wasanaethau heddlu tramor drwy Interpol.

“Rydyn ni hefyd wedi chwilio cofnodion DNA, olion bysedd a deintyddol am gyfatebiadau posibl, a chyhoeddi apeliadau cyhoeddus ac apeliadau yn y cyfryngau am wybodaeth.

“Bob tro yr ydym wedi estyn allan i’r cyhoedd, rydyn ni wedi derbyn rhai llwybrau ymholi i’w dilyn, ond yn anffodus, nid oes un wedi’n harwain at adnabod y dyn hwn.”

Mae ymholiadau hyd yn hyn wedi galluogi’r heddlu i gyhoeddi disgrifiad ysgrifenedig o’r dyn – a oedd rhwng 30 a 60 oed, tua 6 troedfedd (1.83 medr), yn pwyso rhwng 202 pwys a 220 pwys (91.5 cilogram - 99.5 cilogram), ac o dras Ewropeaidd. Mae swyddogion nawr wedi cymryd cam pellach o ran gofyn am ail-luniad wyneb gan Face Lab ym Mhrifysgol John Moore, Lerpwl.  

Y gobaith yw y gall rhyddhau delwedd realistig gyrraedd rhywun a all helpu i ddatrys yr achos hwn.

Rhoddwyd ffotograffau, adroddiad post mortem, adroddiad deintyddol fforensig a sgan CT o’r dyn ymadawedig i dîm Face Lab er mwyn cynhyrchu’r disgrifiad o’r wyneb.  

  • Digitised facial depiction of a man
    Delwedd ddigidol o ddyn y daethpwyd o hyd i’w gorff mewn cronfa ddŵr ym mis Hydref 2024
  • Claerwen reservoir wetsuit
    Wetsuit claerwen
  • Sleid flaenorol
  • Sleid nesaf
  • Delwedd ddigidol o ddyn y daethpwyd o hyd i’w gorff mewn cronfa ddŵr ym mis Hydref 2024

  • Wetsuit claerwen

Dechreuodd eu gwaith gyda data o’r sgan CT, a ddefnyddiwyd i greu model 3D gan ddefnyddio meddalwedd delweddu meddygol. Nesaf, fe wnaethant ddefnyddio’r adroddiad deintyddol a delweddau i greu siâp o ran isaf wyneb a cheg y dyn, gan nodi fod ganddo ddannedd a oedd yn ymwthio allan a chamfrathiad ar yr ochr chwith.

Yn dilyn hyn, amcangyfrifwyd siâp wyenb, gwefusau a thrwyn y dyn, ac ychwanegwyd cyhyrau i’r model. Sefydlwyd bod ganddo ên gron a llinell gên sgwâr, gyda thrwyn sy’n troi i lawr.

Unwaith yr oedd yr ail-luniad 3D wedi’i gwblhau, defnyddiodd Face Lab gyfeiriadau ffotograffig – yn ôl rhyw, oed a nodweddion – i greu cyfres o haenau. Ychwanegwyd gweadau i’r model o’r wyneb i greu ymddangosiad realistig, a phylwyd ymylon yr wyneb lle’r oedd llai o sicrwydd o gwmpas nodweddion y dyn.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Ponting: “Tan nawr, yr unig eitem oedd ar gael inni ar gyfer datblygu ein hymchwiliad oedd y siwt wlyb roedd y dyn yn gwisgo, a roddodd gwybodaeth gyfyngedig inni o gwmpas ei daldra a’i bwysau.

“Diolch i Face Lab, rydyn ni nawr wedi cael amcangyfrif clir a manwl iawn o edrychiad posibl y dyn, a mawr obeithiaf y bydd yn arwain at dderbyn gwybodaeth gadarnhaol.

“Mae’r ddelwedd eisoes wedi ei phrosesu drwy Gyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu ar gyfer unrhyw gyfatebiadau, ac mae wedi’i rhannu gydag Interpol, ac rydyn ni’n gofyn i’r cyhoedd unwaith eto am eu cymorth.

“Credwn mai hwn yw’r cyfle gorau i adnabod y dyn oherwydd gellir rhannu’r ddelwedd hon ledled y DU a thramor yn ein hymdrechion i’w adnabod.

“Anogaf unrhyw un sy’n credu y gall fod yn ei adnabod i ddod ymlaen. Dyma aelod o deulu rhywun – anwylyn rhywun – a byddwn wir yn hoffi ei ddychwelyd i’w anwyliaid, a allai fod yn ei golli.”

DI Anthea Ponting with Claerwen facial depiction
Y Ditectif Arolygydd Anthea Ponting

Ychwanegodd yr Athro Caroline Wilkinson, Cyfarwyddwr Face Lab ym Mhrifysgol John Moore, Lerpwl: “Mae Face Lab yn gweithio gyda heddluoedd ar draws y byd a gall darluniad o wyneb o weddillion dynol weithredu fel arf ar gyfer adnabod, gan ddarparu llwybrau ymchwilio newydd mewn perthynas â hunaniaeth.   

“Gobeithio bydd rhywun a oedd yn adnabod y dyn hwn nawr yn adnabod ei wyneb a gall ein darluniad o wyneb gefnogi’r heddlu i’w adnabod o’r diwedd.”

Os ymweloch chi â Chronfa Ddŵr Claerwen rhwng mis Gorffennaf a 18 Hydref 2024, a gweld unrhyw beth a allai helpu â’n hymholiadau, neu os ydych chi’n gwybod am rywun sydd heb ei weld ers cryn amser ac sy’n ateb y disgrifiad uchod, cysylltwch â Heddlu Dyfed-Powys drwy un o’r dulliau canlynol:

Ar-lein: Porthol Cyhoeddus

E-bost: [email protected]

Ffôn: 101

Fel arall, cysylltwch â’r elusen annibynnol Crimestoppers yn ddienw drwy alw 0800 555111, neu drwy alw heibio i crimestoppers-uk.org.

Rhannu

Llywio troedyn

Heddlu Dyfed-Powys

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Gyrfaoedd
  • Amdanom ni
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Ystadegau a data
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Adborth

Partneriaid

  • Comisiynydd Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2026. Cedwir pob hawl.