Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Aflonyddwyd ar bymtheg o leoliadau cogio a chafwyd gwared ar gyffuriau dosbarth A o’r strydoedd diolch i waith rhagweithiol gan Heddlu Dyfed-Powys yn ystod Wythnos Dwysáu Ymdrechion i Daclo Llinellau Cyffuriau ddechrau Mawrth.
Cydlynodd swyddogion ym Mhowys dair gwarant gyffuriau gadarnhaol mewn eiddo yn Llandrindod, gan arwain at atafaelu a difa cyffuriau dosbarth A, ac ymyrryd ar 15 lleoliad cogio i ddod i ben â’r defnydd ohonynt ar gyfer gweithgareddau troseddol. Gwnaeth swyddogion arést hefyd, ac aeth unigolyn i gyfweliad gwirfoddol yn dilyn y gwarantau.
Cynhaliwyd Wythnos Dwysáu Ymdrechion i Daclo Llinellau Cyffuriau o 2 - 8 Mawrth, er mwyn rhwystro troseddwyr trefnedig sy’n cludo cyffuriau anghyfreithlon ar draws ffiniau heddluoedd ac awdurdodau lleol, fel arfer drwy gamfanteisio ar blant neu bobl eraill sydd mewn perygl o niwed.
Mae troseddwyr yn aml yn meddiannu eiddo unigolion bregus drwy ddychrynu, ac yna’n ei ddefnyddio i weithredu gweithgarwch troseddol ohono, sy’n cael ei adnabod fel cogio.
Dywedodd y Rhingyll Sarah Evans o’r Tîm Plismona Bro ac Atal yng nghanolbarth Powys: “Cyflenwom gynllun llwyddiannus fel rhan o Wythnos Dwysáu Ymdrechion i Daclo Llinellau Cyffuriau, gyda chefnogaeth ardderchog gan gydweithwyr, megis yr Uned Troseddau Difrifol a Throseddu Trefnedig ym Mhowys, swyddogion ymateb ac arfog, yr heddlu gwirfoddol a’r adran gŵn, a weithiodd yn agos gyda’n swyddogion Plismona Bro ac Atal.
“Ymysg yr eiddo a dargedwyd y gwnaethom ganolbwyntio arnynt, roedd un arést a chyfweliad gwirfoddol mewn perthynas â throseddau cyffuriau, gyda’r cyffuriau’n cael eu hatafaelu a’u symud o gylchrediad. Cynhaliwyd pymtheg ymweliad â lleoliadau cogio gan swyddogion bro, gan arwain at gyfeirio a chefnogi’r unigolion hyn sy’n agored i niwed. Roedd hyn yn cynnwys cyfeiriadau at asiantaethau partner er mwyn helpu i ddiogelu unigolion rhag unrhyw gamfanteisio pellach.
“Mae rhwystro’r gangiau troseddol hyn yn parhau’n flaenoriaeth i Heddlu Dyfed-Powys drwy gydol y flwyddyn, gyda gweithgarwch gorfodi a gwaith diogelu i godi ymwybyddiaeth yn digwydd bob wythnos. Mae cyfnodau dwysâd yn helpu i daflu sbotolau ar y materion hyn ac anfon negeseuon clir i’r rhai sy’n benderfynol o achosi niwed.”
Am ragor o wybodaeth am gogio, gan gynnwys arwyddion i chwilio amdanynt a phwy yw’r dioddefwyr, cliciwch yma.