Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae arolygon a gyflwynwyd ar Gyswllt Dyfed-Powys yn cael eu cyfuno â data gwrthdrawiadau a chudd-wybodaeth leol i ffurfio ymgyrchoedd plismona’r ffyrdd.
Mae Timoedd Plismona Bro ac Atal, Unedau Plismona’r Ffyrdd a GanBwyll yn defnyddio ymagwedd ar y cyd i fynd i’r afael â materion diogelwch y ffyrdd a godwyd gan y cyhoedd. Adolygir pryderon a godir ar Gyswllt Dyfed-Powys, ynghyd â data gwrthdrawiadau a chudd-wybodaeth leol, mewn cyfarfodydd misol. Mae hyn yn arwain at ymgyrchoedd diogelwch y ffyrdd targedig.
Maen nhw’n canolbwyntio ar oryrru, yfed/cymryd cyffuriau a gyrru, peidio â gwisgo gwregys, a defnyddio’ch ffôn wrth yrru. Mae pobl hefyd wedi mynegi pryderon am yrru gwrthgymdeithasol.
Bydd y Tîm Plismona Bro ac Atal ac Uned Plismona’r Ffyrdd yn stopio modurwyr sy’n troseddu yn ystod ymgyrchoedd ac yn defnyddio cyfuniad o ymgysylltu ar ochr y ffordd a gorfodi.
Bydd gyrwyr yn cael dewis ymgysylltu ar ochr y ffordd am ddim neu gosb benodedig. Ar hyn o bryd, mae dirwy o £100 yn y fan a’r lle am drosedd gwregys neu £100 a thri phwynt ar eich trwydded am drosedd goryrru. Ni fydd pobl sydd ddim yn ymgysylltu â swyddogion, neu sy’n gyrru’n gynt o lawer na’r terfyn cyflymder, yn gymwys ar gyfer sesiwn ymgysylltu, a byddant yn cael eu herlyn.
Bydd GanBwyll yn cynorthwyo â gorfodi targedig yn yr ardaloedd cyfagos. Bydd troseddau a gofnodir gan GanBwyll yn arwain at gyrsiau addysgiadol neu Hysbysiadau o Fwriad i Erlyn.
Dywedodd y Prif Arolygydd Dominic Jones o Heddlu Dyfed-Powys: “Mae’r wybodaeth mae pobl yn rhoi inni drwy Gyswllt Dyfed-Powys yn amhrisiadwy. Mae’n gadael i’n timoedd fynd i ganol cymunedau sy’n cael trafferth â’r materion hyn.
“Ffordd newydd inni siarad â phobl yn uniongyrchol a chael sgyrsiau sy’n ffurfio’r hyn mae ein swyddogion yn ei wneud yw Cyswllt Dyfed-Powys.
“Po fwyaf y cawn gan bobl ar Gyswllt Dyfed-Powys, po fwyaf y gallwn dargedu’r ymddygiad hwn a gwneud ein ffyrdd yn fwy diogel i bawb.”
Does dim tâl i gofrestru ar gyfer Cyswllt Dyfed-Powys, a chewch hyd iddo ar-lein neu fel ap. Mae’n rhoi hysbysiadau ardal leol am weithgarwch plismona cyffredinol, ymddygiad gwrthgymdeithasol, digwyddiadau, negeseuon atal a mwy.
Cyhoeddir gweithgarwch a chanlyniadau ymgyrchoedd diogelwch y ffyrdd ar Gyswllt Dyfed-Powys. Cewch gofrestru fan hyn : Hafan – Cyswllt Dyfed-Powys