Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Lansiodd yr heddlu ei Strategaeth Iechyd Meddwl ac Atal Hunanladdiad ddydd Mawrth 5 Mai, sy'n nodi ymrwymiad parhaus i ddarparu ymateb i broblemau iechyd meddwl ac atal hunanladdiad sy’n dosturiol, sy’n cael ei arwain gan dystiolaeth, ac sy’n canolbwyntio ar bartneriaethau.
Lansiodd yr Uwch-arolygydd Chris Neve, ynghyd â Sian Rees, Cydlynydd Hunanladdiad a Hunan-niwed Iechyd Meddwl, y strategaeth ym mhencadlys yr heddlu yn Llangynnwr.
Ymunodd y Prif Gwnstabl, Ifan Charles, y Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dafydd Llewellyn, y Prif Gwnstabl Cynorthwyol dros dro Ross Evans, yn ogystal â nifer o swyddogion o bob rhan o'r heddlu â nhw.
Bydd unigolion sydd â phrofiadau bywyd o afiechyd meddwl a phrofedigaeth o ganlyniad i hunanladdiad - gan gynnwys teuluoedd ac aelodau staff yr heddlu - yn rhan o'r gwaith parhaus, a fydd yn cynorthwyo i sicrhau bod eu hadborth yn llywio arferion gorau.
Dywedodd yr Uwch-arolygydd Neve, Pennaeth Atal yn Heddlu Dyfed-Powys:
“Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi ymrwymo i leihau nifer y marwolaethau y gellir eu hatal o ganlyniad i hunanladdiad a hunan-niweidio difrifol a gwella ein hymateb plismona i argyfyngau iechyd meddwl.
“Rydym yn poeni’n fawr bod unigolion sy’n profi argyfwng yn cael y gefnogaeth gywir, ond rydym yn derbyn nad yw swyddogion heddlu yn weithwyr iechyd meddwl proffesiynol.
Er y byddwn yn parhau i chwarae rhan hanfodol mewn diogelu, mae yna adegau pan fydd asiantaethau eraill yn rhwydwaith cymorth mwy priodol i unigolion sy'n profi afiechyd meddwl.
“Dyma pam rydyn ni’n lansio’r strategaeth hon, sy’n rhedeg tan 2030, oherwydd bod pob galwad am gymorth yn gofyn am ddull amlasiantaeth fel y gall pob unigolyn gael y cymorth wedi’i deilwra orau posibl.
“Mae iechyd meddwl ac atal hunanladdiad yn ganolog i’n nod o gadw cymunedau’n ddiogel, wrth sicrhau bod ein gweithlu’n cael ei gefnogi, ei fod yn wydn, ac yn gallu darparu plismona o ansawdd uchel.”
Dywedodd Sian Rees, Cydlynydd Hunanladdiad a Hunan-niwed Iechyd Meddwl yn Heddlu Dyfed-Powys: “Rwy’n falch o’r hyn rydym wedi’i gyflawni yn yr heddlu dros y pum mlynedd diwethaf ac ni fyddai dim o hynny wedi bod yn bosibl heb y cydweithio rhagorol sy’n digwydd rhwng Heddlu Dyfed-Powys a phartneriaid.
“Ni all unrhyw asiantaeth na sefydliad weithio ar ei ben ei hun yn y maes hwn, felly mae gweithio mewn partneriaeth mewn ffordd gref yn hanfodol a dyna sy’n helpu’r person mewn argyfwng yn y pen draw.
“Bydd dysgu a gwella cyson, ond rhaid inni hefyd gydnabod bod ein swyddogion yn gwneud gwaith anhygoel i ddiogelu’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau.”
Gall unrhyw un sy'n profi argyfwng iechyd meddwl, neu sy'n adnabod rhywun arall sydd yn profi argyfwng o’r faith, gysylltu â'r GIG drwy'r rhif 111 ac yna dewis opsiwn 2. Yn ogystal, gallwch gysylltu â rhwydweithiau cymorth eraill megis y Samaritans, Papyrus, neu linell iechyd meddwl ‘Call’.
Os oes argyfwng diogelu brys neu risg uniongyrchol, ffoniwch 999 a gofynnwch am gymorth priodol.