Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Mae grŵp o ddynion a gynllwyniodd i ddwyn ingotau tun o Ddur TATA yn Llanelli wedi’u dedfrydu am ladrad metel gwerth dros £1,000,000.
Cynllwyniodd Thomas Ashford, Stewart Jones a Richard Jones, a oedd yn gweithio i’r cwmni, ynghyd â’u cyd-ddiffynnydd, Matthew Membury, i ddwyn tun o’r safle yn Nhrostre, gan ddefnyddio pas diogelwch wedi’i glonio i gael mynediad at ddanfoniadau’r diwrnod ar ôl eu derbyn.
Cafodd Heddlu Dyfed-Powys wybod am y troseddau ym mis Hydref 2024, pan wnaed adroddiad am ‘ladrad ar raddfa fawr’. Adroddodd y galwr bod blociau un neu ddwy dunnell o ingotau tun ar goll erbyn y diwrnod canlynol bob tro yr oeddent yn cael eu derbyn gan safle Dur TATA yn Nhrostre, Llanelli, dros y pum mis diwethaf.
Pan wnaed yr adroddiad, amcangyfrifwyd bod ingotau gwerth tua £500,000 wedi’u dwyn dros 13 digwyddiad.
Amheuwyd bod fan yn cael ei gyrru ar y safle gan ddefnyddio pas diogelwch wedi’i glonio o dan yr enw David Davies yn gynnar yn y bore'r diwrnod ar ôl derbyn y danfoniadau. Honnwyd bod y goruchwylydd diogelwch Stewart Jones a’r goruchwylydd todd-dy Thomas Ashford yn caniatáu mynediad ac yn agor y storfa, lle’r oedd un neu ddau o flociau tun yn cael eu llwytho ar y fan gan ddefnyddio fforch godi.
Trefnodd yr heddlu i fonitro danfoniadau a gweithrediadau cerdyn mynediad ar y safle, ac am 5.31y.b. ar 11 Hydref 2024, cafodd swyddogion wybod bod y cerdyn amheus wedi’i ddefnyddio. Gwelwyd fan yn mynd mewn i’r safle a chafodd ei hatal wrth iddi adael. Daethpwyd o hyd i dunnell o ingot tun, gwerth £30,000, tu mewn.
Arestiwyd y gyrrwr, a gafodd ei adnabod yn ddiweddarach fel Matthew Membury – ynghyd ag Ashford a Jones – ar amheuaeth o gynllwynio i ladrata. Daethpwyd o hyd i dunnell o ingot tun gwerth £30,000 yn y fan.
Sefydlodd ymchwiliad a arweiniwyd gan yr Adran Ymchwilio i Droseddau drwy ymholiadau digidol, ariannol a theledu cylch cyfyng fod y lladradau’n cymryd rhwng 3 a 18 munud i’w cyflawni, a bod Ashford a Jones wedi bod yn cyrraedd y gwaith yn gynnar ar y diwrnodau dan sylw i hwyluso’r troseddau. Datgelodd hefyd bod y lladradau wedi bod yn digwydd sbel cyn y gwnaed yr adroddiad cychwynnol i’r heddlu, a’u bod wedi cychwyn ym mis Gorffennaf 2023.
Darganfu swyddogion hefyd bod gweithiwr arall – Richard Jones – yn gysylltiedig â’r lladrad tun ac nad oedd wedi bod i’r gwaith ers i Membury, Ashford a Stewart Jones gael eu harestio. Canfu bod y dyn 39 oed wedi bod yn rhoi’r ingotau i’w dwyn naill ochr, yn barod ar gyfer Membury. Derbyniodd £62,000 am ei ran ef.
Daethpwyd o hyd iddo yn ei gartref ar Heol Ceri, Abertawe, ym mis Ionawr 2025, a chafodd ei arestio ar amheuaeth o ladrata.
Sefydlodd ymholiadau ariannol mai’r elw a wnaed rhwng pob parti ar gyfer yr ingotau wedi’u dwyn oedd £743,826. Roedd yr ingotau’n cael eu toddi a’u gwerthu mewn ierdydd sgrap ledled Cymru a Lloegr.
Cyhuddwyd y pedwar dyn o gynllwynio i ladrata, ac fe gyfaddefon nhw i’r troseddau yn Llys y Goron Abertawe. Derbynion nhw’r dedfrydau canlynol ddydd Mawrth 2 Mehefin:
Bydd Matthew Membury, 32 oed, o Glos Cathan, Porthfedd, yn cael ei ddedfrydu ar ddyddiad hwyrach.
Dywedodd swyddog yr achos, y Ditectif Ringyll Jake Thomas: “Dyma enghraifft ardderchog o waith rhagweithiol a oedd yn cynnwys sawl adran, a arweiniodd at adnabod nifer o droseddwyr a gafodd eu dal yn troseddu.
“Hoffwn ddiolch i bawb a weithiodd ar yr ymchwiliad hwn, yn ogystal â staff Dur TATA am eu cymorth wrth inni gynnal ymholiadau. Rwy’n falch bod cyfiawnder wedi’i sicrhau ar ôl cynllwyn hir a chymhleth, a arweiniodd at golled fawr i gwmni adnabyddus lleol.”