Stamp amser presennol: 25/06/26 04:37:04
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleol[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-location' for 'Welsh (United Kingdom)']UchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Allanfa Gyflym

Cwcis

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.

Derbyn cwcis Gwrthod cwcis Addasu cwcis

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

Dyfed Powys force crest

  • Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio bod person ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Sbeicio
    • Stelcio neu aflonyddu
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
    • Trosedd gasineb
  • Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith, protest neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
    • Cysylltu â ni i riportio trosedd, digwyddiad neu amheuaeth
    • Cysylltu â ni am rywbeth arall
  • Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Adborth am y wefan
    • Cwynion
    • Dweud diolch
  • Eich ardal chi

Sceptre: Heddlu Dyfed-Powys yn cymryd rhan mewn wythnos genedlaethol o weithredu yn erbyn troseddau cyllyll.

Cynnwys y prif erthygl

Ceredigion Powys Sir Benfro Sir Gaerfyrddin
Cyhoeddwyd: 12:00 18/05/2026 Diweddarwyd: 12:00 18/05/2026

Mae Heddlu Dyfed-Powys unwaith eto’n ymuno â chydweithwyr ledled y wlad i fynd i’r afael â throseddau cyllyll fel rhan o ymgyrch genedlaethol Sceptre.

Mae’r wythnos weithredu sy’n digwydd ddwywaith y flwyddyn yn rhedeg o 18 Mai i 24 Mai ac yn rhoi cyfle i aelodau’r cyhoedd gael gwared ar gyllyll diangen wrth gownteri’r heddlu ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys.

Bydd biniau amnest wedi’u lleoli yn y gorsafoedd heddlu canlynol:

  • Caerfyrddin
  • Aberystwyth
  • Aberteifi
  • Hwlffordd
  • Aberhonddu
  • Y Drenewydd

Eleni, cynhelir Sceptre yr un pryd ag Wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Cyllyll Ymddiriedolaeth Ben Kinsella. Mae Ymddiriedolaeth Ben Kinsella yn sefydliad annibynnol sy’n anelu at fynd i’r afael â throseddau cyllyll drwy addysgu pobl ifanc, cynnal gweithdai a gweithio gydag asiantaethau partner a rhieni.

Dywedodd yr Arolygydd Darren Crockford: “Mae hon yn wythnos hanfodol o weithredu yr ydym ni, ynghyd â heddluoedd ledled y DU, yn cymryd rhan ynddi ddwywaith y flwyddyn. Serch hynny, nid yw ein hymdrech penodol yn erbyn troseddau sy’n gysylltiedig â chyllyll byth yn lleihau.

“Mae atafaelu cyllyll ac arestio yn rhan bwysig o’r dull plismona, ond mae ffocws hefyd ar atal gwerthu a chyflenwi cyllyll sydd wedi’u bwriadu’n unswydd i niweidio, ynghyd â’u cyflenwi i bobl ifanc.

“Rydym hefyd yn gweithio’n galed i nodi cludwyr cyllyll posibl ac yn ymgysylltu â phobl i ddeall pam eu bod yn dewis cario cyllell, yna cynnig y gefnogaeth briodol.

“Mae’n gwbl ddealladwy ei bod yn destun pryder mawr i’n cymunedau pan glywant am bobl yn cael eu hanafu neu eu lladd gan gyllyll, ond nid yw cario cyllell yn gwneud unrhyw un yn fwy diogel – mae cyllell fel arfer yn gwneud sefyllfa’n llawer gwaeth. 

“Yn ogystal â’n biniau amnest, bydd ein timau plismona ac atal bro ymroddedig hefyd yn cynnal gweithgareddau ymgysylltu ac atal yn ystod yr wythnos.

“Fodd bynnag, ni all plismona fynd i’r afael â’r broblem hon ar ei ben ei hun, felly byddwn yn ymgysylltu â’n partneriaid i gyfeirio pobl at waith ymyrryd/dargyfeirio i leihau’r bygythiad a’r risgiau o droseddau cyllyll.

“Cofiwch, os oes gennych bryderon am unrhyw un yn cario cyllell, gallwch adrodd am hyn i’r heddlu neu’n ddienw drwy Crimestoppers ar 0800 555 111. Yn ogystal, os oes ardaloedd lle rydych chi’n byw neu’n treulio amser nad ydych chi’n teimlo’n ddiogel ynddynt, gallwch chi roi gwybod am hyn ar wefan o’r enw StreetSafe. Caiff yr wybodaeth a roddwch ei throsglwyddo i’r heddlu perthnasol a all wedyn asesu eich adroddiad a chymryd y camau angenrheidiol.

“Mae adnoddau rhagorol ar gael hefyd i bobl ifanc a rhieni gan Ymddiriedolaeth Ben Kinsella, y gallwch ddod o hyd iddynt ar eu gwefan.

“Mae atgyfnerthu peryglon cario cyllyll yn gam hanfodol wrth geisio atal y canlyniadau dinistriol y gall troseddau cyllyll eu cael, nid yn unig i ddioddefwyr a’u teuluoedd ond i’r gymuned gyfan.”

Yn ogystal â biniau amnest sydd ar gael yn ystod ymgyrch Sceptre, mae canolfannau ailgylchu yn lle diogel i gael gwared ar gyllyll a llafnau nas defnyddiwyd. Gallwch ddod o hyd i’ch canolfan ailgylchu agosaf drwy edrych ar wefan y cyngor lleol perthnasol.

Cyngor Sir Caerfyrddin: https://www.sirgar.llyw.cymru/

Cyngor Sir Ceredigion: https://www.ceredigion.gov.uk/

Cyngor Sir Penfro https://www.sir-benfro.gov.uk/

Cyngor Sir Powys: https://cy.powys.gov.uk/

Rhowch wybod am unrhyw bryderon ynghylch troseddau cyllyll drwy gydol y flwyddyn i’r heddlu drwy gysylltu â ni ar 101, neu 999 os oes argyfwng neu drosedd barhaus.

I adrodd am drosedd ar-lein, cliciwch yma: https://www.dyfed-powys.police.uk/cy-GB/riportio/riportio/

Rhannu

Llywio troedyn

Heddlu Dyfed-Powys

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Gyrfaoedd
  • Amdanom ni
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Ystadegau a data
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Adborth

Partneriaid

  • Comisiynydd Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2026. Cedwir pob hawl.