Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Roedd Martin Slezak, 25 oed, o Stanley Street yn y Trallwng, wedi gwadu llofruddio Young John Mongan ond cafwyd yn euog o ddynladdiad, yn dilyn treial pythefnos yn Llys y Goron Caernarfon.
Clywodd y llys fod Mr Mongan wedi teithio i’r Trallwng o’i gartref yn Walsall gyda’i deulu ar 27 Mehefin i nodi dyweddïad ei fab. Roedd y dyn 49 oed gyda’i wraig a’i blant sy’n oedolion am y noson pan fu digwyddiad rhyngddo ef a Slezak mewn siop gebab ar Stryd yr Eglwys.
Dangoswyd darn ffilm TCC i’r llys. Gellid gweld Mr Mongan yn camu allan o’r siop gebab i’r stryd, a Slezak yn ei ddilyn. O fewn eiliadau, gwelwyd Slezak yn pwno pen Mr Mongan, â’r ergyd yn ymddangos fel pe bai’n bwrw’r tad i 12 o blant yn anymwybodol yn syth.
Parhaodd i bwno Mr Mongan tra’i fod yn gorwedd yn llonydd ar yr heol, cyn i ffrind i’r dioddefydd ymyrryd. Yn dilyn ffrae fer, trodd Slezak a chicio pen Mr Mongan, tra bod ei deulu’n gwylio.
Er waethaf ymdrechion gorau aelodau o’r cyhoedd a’r gwasanaethau brys, cyhoeddwyd bod Mr Mongan yn farw yn ystod oriau mân y bore ddydd Sadwrn 28 Mehefin.
Cychwynnodd ymchwiliad heddlu yn syth, gyda Slezak yn cael ei adnabod fel y drwgdybyn. Cafodd ei arestio yn ei gartref ar Stanley Street ychydig ar ôl 6.30a.m., a chafodd ei gyhuddo o lofruddiaeth y diwrnod canlynol.
Yn dilyn y dyfarniad euog heddiw, rhoddodd y Barnwr Geraint Walters ddedfryd bron yn syth.
Cafodd Slezak ei garcharu am 10 mlynedd.
Dywedodd yr Uwch Swyddog Ymchwilio, y Ditectif Uwch-arolygydd Dros Dro Rhys Jones: “Roedd hwn yn ymosodiad parhaus a threisgar gan Martin Slezak, a arweiniodd at farwolaeth Young John Mongan.
“Drwy barhau i ymosod ar Mr Mongan ag yntau’n gorwedd yn anymwybodol, dangosodd Slezak fwriad syfrdanol i achosi niwed difrifol i rywun nad oedd yn gallu amddiffyn ei hun. Drwy gydol ein hymchwiliad, y mae wedi gwadu’r bwriad hwn, gan arddangos diffyg edifeirwch llwyr am ei weithredoedd a’r effaith ar wraig a phlant Mr Mongan.
“Dylai 27 Mehefin fod wedi bod yn noson o ddathlu i deulu Mr Mongan, gan nodi dyweddïad rhwng ei fab a’i ddyweddi newydd. Fodd bynnag, oherwydd pwl o gynddaredd Martin Slezak, maen nhw nawr yn galaru ac yn gorfod dod dros dystio i farwolaeth anwylyn yn y ffordd fwyaf drawmatig.
“Er na fydd dedfryd heddiw’n cael gwared ar y boen honno, rwy’n gobeithio ei bod yn cynnig sicrwydd y bydd cyfiawnder yn digwydd, ac yn cadarnhau eu bod nhw wedi rhoi cymorth hollbwysig i ymchwiliad yr heddlu.”
Yn dilyn y ddedfryd, dywedodd teulu Mr Mongan: “Young John Mongan oedd popeth i ni – gŵr i Margaret a oedd yn ei garu â’i holl galon, tad i 12 o blant y byddai’n gwneud unrhyw beth drostynt, a thad-cu a oedd yn addoli’r tir roedd ei wyrion yn cerdded arno.
“Newidiwyd ein bywydau mewn chwinciad ar noson a ddylai fod wedi bod mor hapus. Yn hytrach na dathlu, chwalwyd ein bywydau pan gollom ein ffrind gorau a’n hamddiffynnwr.
“Mae ein calonnau wedi torri ac ry’n ni’n gweld ei eisiau bob dydd. Ni fydd byth yn cael ei anghofio.”
Dywedodd Margaret Mongan, gwraig Mr Mongan: “Rwyf eisiau esbonio pwy oedd John. Nid rhywun i’w wylio’n cael ei ladd ar ddarn o ffilm TCC yn unig ydyw.
“Roedd John a minnau wedi bod gyda’n gilydd ers oeddem yn 16 a 17 oed. Tyfom i fyny gyda’n gilydd, adeiladom fywyd gyda’n gilydd. Magom deulu gyda’n gilydd. Dim ond 48 oed ydw i, ac rwyf nawr yn wraig weddw.
“Mae’n rhaid imi wynebu gweddill fy mywyd heb John wrth fy ochr. Yn ogystal â bod yn ŵr imi, John oedd fy ffrind gorau, fy enaid hoff cytûn, fy ngwarchodwr a rhywun ro’n i’n gwybod y gallwn droi ato bob amser.
“Roedd John yn ŵr arbennig, doeddwn i byth yn brin o ddim, rhoddodd bopeth ro’n i angen imi. Ni ddychmygais i erioed y byddai’n rhaid imi wynebu gweddill fy mywyd hebddo.
“Ni ddychmygais i erioed y gallai rhywun ddod heibio a mynd â phopeth yr oeddem wedi treulio’n bywydau’n adeiladu gyda’n gilydd.
“Mae fy mywyd wedi’i ddinistrio’n llwyr gan yr hyn sydd wedi digwydd. Dydw i ddim yn adnabod y bywyd rwy’n byw rhagor.
“Gwn y bydd cymaint o bethau’n digwydd am y tro cyntaf heb John. Eleni bydd y Nadolig cyntaf hebddo. Byddai bob amser yn dod â phawb ohonom at ein gilydd adeg unrhyw achlysur teuluol. Mae gennyf gymaint o atgofion arbennig o’r achlysuron hyn. Mae pob pen-blwydd priodas, pen-blwydd neu ddyddiad pwysig mae’n colli, yn gwneud y boen yn fwy i mi. Gwn fod llawer mwy i ddod.
“Mae pawb ohonom yn cofio am Young John Mongan, ac yn teimlo’r boen o’i golli, bob un dydd. Yr oedd mor bwysig i bob un ohonom. Roedd pawb ohonom angen John, ef oedd popeth i’n teulu ni. Ry’n ni’n teimlo’n bod ni dal ei angen bob dydd. Bydd yr atgof am John yn parhau yn ein calonnau am byth.”