Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Mae gwerthwr cyffuriau wedi’i garcharu ar ôl i swyddogion ddod o hyd i lawer iawn o gocên a theclynnau yn ymwneud â chyffuriau, a thua £5,500 mewn arian parod, yn ystod gwarant gyffuriau.
Arweiniodd sawl cofnod cudd-wybodaeth Heddlu Dyfed-Powys i ymchwilio i Ian Stanton, dyn 58 oed o Faes-y-Glyn, Rhydaman. Fe wnaethant gynnal gwarant a defnyddio grym i gael mynediad i’w eiddo ddydd Gwener 14 Awst.
Daeth swyddogion o hyd i lawer iawn o bowdwr gwyn (cadarnhawyd yn ddiweddarach mai cocên oedd y powdwr hwn), tafol, pecynnau plastig, sawl ffôn, a thua £5,500 mewn arian parod mewn gwahanol fagiau a bocsys. Ni ddaethant o hyd i Ian Stanton.
Er nad oedd Stanton yn y cyfeiriad ar y pryd, daethpwyd o hyd i Margaret Lewis, dynes 63 oed o Lôn Tir-y-Dail, Rhydaman, yn yr eiddo. Honnodd i gychwyn ei bod hi’n edrych ar ôl y tŷ ar gyfer y gwerthwr cyffuriau. Cafodd ei harestio a’i chyhuddo o feddu ar gyffuriau dosbarth A â’r bwriad o werthu.
Daethpwyd o hyd i Stanton yn ardal Heddlu Sussex. Cafodd ei arestio a’i drosglwyddo i ddalfa yn ardal Heddlu Dyfed-Powys. Cafodd ei gadw yn y ddalfa ynghyd â Margaret Lewis. Plediodd y ddau’n euog i feddu ar gyffuriau dosbarth A â’r bwriad o werthu yn Llys y Goron Abertawe ddydd Iau 17 Medi.
Ymddangosodd y ddau yn Llys y Goron Abertawe ddydd Gwener 2 Hydref. Dedfrydwyd Ian Stanton i 38 mis o garchar. Dedfrydwyd Margaret Lewis i 18 mis o garchar, wedi’i gohirio am ddwy flynedd. Mae’n rhaid iddi gwblhau 200 awr o waith di-dâl hefyd fel rhan o’i Gofyniad Gweithgarwch Adsefydlu.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Steven Thomas o Heddlu Dyfed-Powys: “Mae hon yn enghraifft arall o blismona a arweinir gan gudd-wybodaeth yn gwneud Dyfed-Powys yn ardal elyniaethus i bobl sy’n gwerthu cyffuriau.
“Roedd hon yn ymgyrch wedi’i threfnu a welodd Stanton a Lewis yn cyflwyno llawer iawn o gyffuriau dosbarth A i’n cymunedau. Mae aflonyddu ar y gweithgarwch hwn wedi’n helpu i’w gwneud nhw’n fwy diogel i bawb.”