Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn treisgar wedi’i garcharu am 52 mis ar ôl ymddwyn yn rheolaethol a bygwth trais yn erbyn cyn bartner, ac ymosod yn ffyrnig ar ddynes nad oedd wedi cwrdd â hi o’r blaen.
Dedfrydwyd Cameron Morgan, 24, heb gyfeiriad sefydlog, yn Llys y Goron Abertawe ddydd Iau 22 Hydref ar ôl iddo bledio’n euog i achos o ymddygiad gorfodaethol a rheolaethol, ac achos o niwed corfforol difrifol.
Roedd Morgan wedi ymddwyn yn orfodaethol a rheolaethol tuag at gyn bartner, gan gynnwys ei galw’n enwau sarhaus, bygwth ei niweidio hi ac anifeiliaid roedd hi’n berchen arnynt sawl gwaith, a’i chyhuddo o fod yn anffyddlon iddo.
Yn ogystal, ar 20 Mehefin eleni, ymosododd Morgan yn ffyrnig ar ddynes a oedd wedi ei wrthod ar ôl iddo gwrdd â hi ym Mrynaman un noson. Pwnodd Morgan hi dro ar ôl tro, ac yna fe’i taflodd yn erbyn wal. Ar ôl i rywun ymyrryd, llwyddodd y dioddefydd i ddianc, a rhoddodd wybod i’r heddlu am yr ymosodiad. Aed â hi i’r ysbyty am driniaeth ar gyfer sawl anaf i’w hwyneb.
Yn ogystal â’r ddedfryd o garchar, gwnaed Morgan yn destun dau orchymyn atal sy’n ei rwystro rhag cysylltu â’r dioddefwyr.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Dros Dro Anna Morgan, o Uned Ymchwilio Leol Sir Gaerfyrddin: "Yn gyntaf, hoffwn dalu teyrnged i’r dioddefwyr yn yr achos hwn. Mae’r ddwy wedi dangos dewrder aruthrol o ran dod ymlaen ac adrodd am Morgan.
"Mae gorfod ail-fyw’r profiadau trawmatig hyn yn cymryd dewrder ac urddas, ac roedd eu cael nhw’n dod ymlaen yn gwbl allweddol inni fedru ymchwilio Morgan a dod ag ef i’r llys.
"Mae Morgan yn amlwg yn ddyn peryglus, ac roedd y ffordd y gwnaeth ymddwyn tuag at y menywod hyn yn gwbl annynol. Rwyf i a’m cydweithwyr yn Heddlu Dyfed-Powys wedi ymrwymo i erlid troseddwyr sy’n ymddwyn yn dreisgar tuag at fenywod a merched yn ddiflino.”
Mae cyngor ar wefan ein heddlu ar gyfer unrhyw un sydd wedi’i effeithio gan ymddygiad gorfodaethol a rheolaethol neu gam-drin domestig.