Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn falch o gefnogi Wythnos Genedlaethol Ystafell Reoli (26 Hydref – 3 Tachwedd).
Mae ymgyrch fyd-eang wythnos o hyd sy’n taflu goleuni ar waith amhrisiadwy timoedd ystafell reoli’n cychwyn heddiw.
Yn aml y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ein cymunedau, mae Ystafell Reoli’r Heddlu’n ateb cannoedd o alwadau ac yn ymateb i nifer di-rif o gysylltiadau digidol bob dydd.
Mae Canolfan Gyfathrebu’r Heddlu bob amser ar gael; mae hi ar agor 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn. Gan ateb galwadau 999 ac 101 o fewn eiliadau, mae’r timoedd yn cydweithio i anfon unedau lleol ac adnoddau arbenigol yn effeithlon mewn ymateb i ddigwyddiadau ar draws ardal ddaearyddol anferth.
Dywedodd Peter Roderick, Pennaeth Canolfan Gyfathrebu’r Heddlu:
“Pobl gyffredin yn gwneud swydd anghyffredin yw ein harwyr pob dydd, Gweithredwyr Canolfan Gyfathrebu’r Heddlu.”
“Rwy’n falch dros ben o’r staff medrus ac ymroddgar sy’n gweithio mor galed i sicrhau bod pob un galwad yn cael ei hateb yn brydlon, fel ein bod ni’n medru anfon swyddogion mewn modd amserol at y digwyddiadau hynny sydd angen presenoldeb heddlu pan fod angen.
“Mae’r sgil, gallu a chadernid a ddangosir bob dydd wrth wasanaethu’r cyhoedd bob awr o’r dydd wir yn arbennig.”
“Mae ein hystafell reoli’n fwrlwm o weithgarwch; p’un a ydyn nhw’n derbyn adroddiad am argyfwng lle mae bygythiad i fywyd, yn cydlynu staff i ddod o hyd i unigolyn coll, neu’n ateb ymholiad cyffredinol, mae ein staff yn trin pob galwad yn fanwl a phroffesiynol, ac mae pob diwrnod yn wahanol.
Dywedodd y Prif Uwch-arolygydd Jolene Mann, sydd â rheolaeth plismona strategol cyffredinol dros Ystafell Reoli’r Heddlu:
“Rwy’n falch iawn o’r hyn maen nhw’n gwneud ac yn cyflawni ddydd ar ôl dydd. Eu dyfalbarhad wrth ymdrin â galwadau mor amrywiol, a pha mor gyflym maen nhw’n gweithredu ac ymateb.
“Yn aml, Canolfan Gyfathrebu’r Heddlu yw’r ochr o blismona dydych chi ddim yn gweld, er mai nhw yw’r bobl gyntaf mae’r cyhoedd yn siarad gyda nhw mewn argyfwng yn aml iawn.”
“Rwyf mor falch bod yr wythnos hon yn rhoi’r cyfle iddynt gael y gydnabyddiaeth maen nhw’n haeddu’n gyhoeddus.”
Aeth Mr Roderick yn ei flaen i ddisgrifio llwyddiannau arbennig Ystafell Reoli’r Heddlu drwy ddweud:
“Drwy ymroddiad ein holl aelodau staff, yn ystod y 12 mis diwethaf, mae Ystafell Reoli Heddlu Dyfed-Powys wedi bod yn un o’r ystafelloedd rheoli sy’n perfformio orau o holl heddluoedd y DU, gan gynnal hyn fis ar ôl mis.
“Rwy’n falch o fedru dweud bod ein Hystafell Reoli wedi bod yn un o’r goreuon ymysg y 44 heddlu’n gyson am ei hymateb effeithiol i’r cyhoedd, a gyflawnwyd drwy’r amser mae’r gweithredwyr yn cymryd i ateb galwadau 999 ac 101, a’r safon gwasanaeth uchel maen nhw wedi cyflwyno.
“Cadarnhawyd statws ein Canolfan Gyfathrebu fel un o’r rhai sy’n perfformio orau yn dilyn archwiliad diweddar gan AHGTAEF. Cydnabu bod y mesurau sicrhau ansawdd a oedd mewn grym yn cynnal y safon uchel a gyflawnir. Fe wnaeth tîm archwilio annibynnol Ei Fawrhydi hefyd gydnabod mai hwn oedd yr arfer gorau a mwyaf arloesol i heddluoedd eraill ei efelychu.
“Mae’r tîm yma yn Nyfed-Powys yn haeddu pob canmoliaeth am yr acolâd hwn. Mae eu hymrwymiad i’w swydd heriol yn neilltuol.”
Yn rôl unigryw a heriol, ni ddylid tanbrisio effaith a phwysigrwydd Gweithredwyr Canolfan Gyfathrebu’r Heddlu. Nhw yw ein harwyr pob dydd mewn setiau pen.