Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Mae Kara Racuoco, 41, o Stryd Elisabeth, Llanelli, wedi’i charcharu am bedair blynedd ar ôl pledio’n euog i ddau achos o ysbeiliad a dau achos o siopladrata yn dilyn digwyddiadau yr adroddwyd amdanynt yn Asda, Home Bargains a Tesco.
Plediodd Racuoco yn euog i siopladrata o Home Bargains a Tesco yn ystod dau ddigwyddiad ar wahân ym mis Mai 2026, ond gwadodd y ddau gyhuddiad ar wahân o ysbeiliad i gychwyn.
Roedd achos llys fod cael ei gynnal ddiwedd Hydref 2026, ond newidiodd Racuoco ei phle yn gynnar ym mis Awst, gan gyfaddef i’r ysbeiliadau.
Clywodd y llys sut yr oedd Racuoco wedi dwyn dau fotel o win o Asda ar Stryd Murray, Llanelli, ddydd Mawrth 7 Ebrill, a bygwth trywanu gweithiwr siop â nodwydd ar ôl cael ei herio am y lladrad.
Clywyd bod y ddynes 41 oed hefyd wedi mynd mewn i Home Bargains ddydd Mawrth 5 Mai a rhoi potel o win yn ei phoced cyn gadael y siop, heb wneud unrhyw ymdrech i dalu.
Roedd y trydydd cyhuddiad yn ymwneud â digwyddiad ddydd Sadwrn 16 Mai lle y gwnaeth Racuoco fygwth gweithiwr siop yn Asda, ar ôl dwyn cig eidion o’r siop.
Clywodd y llys sut y gwnaeth Racuoco siopladrata eto ddydd Sul 17 Mai o Tesco Extra, Parc Trostre, pan ddygwyd gwerth tua £95 o gig o’r siop.
Gwelodd ymchwiliad a arweiniwyd gan Adran Ymchwilio i Droseddau Heddlu Dyfed-Powys Racuoco’n cael ei chyhuddo â dau achos o siopladrata a dau achos o ysbeiliad.
Ar ddydd Gwener 2 Hydref, dedfrydwyd Racuoco i bedair blynedd o garchar.
Dywedodd y Ditectif Ringyll Kevin Allen, o Adran Ymchwilio i Droseddau Llanelli: “Mae’r canlyniad hwn yn dangos ein hymrwymiad i fynd i’r afael ag ymddygiad troseddol ar lefel leol. Mae siopladrata ac ysbeiliad yn droseddau difrifol, ac ni fyddwn yn goddef ymddygiad mor anneddfol yn ein hardal heddlu.
“Hoffwn ddiolch i’r tîm am eu hymdrechion, sydd wedi arwain at y droseddwraig luosog hon yn cael ei dedfrydu i garchar yn y pen draw.”