Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn cefnogi ymgyrch genedlaethol Athletau Cymru yn dychwelyd. Mae’n anelu i godi ymwybyddiaeth o ddiogelwch menywod wrth redeg gyda'r nos neu’n gynnar yn y bore, addysgu pobl am ffyrdd ymarferol o gefnogi menywod, a grymuso menywod i barhau i redeg yn hyderus yn ystod misoedd y gaeaf.
Mae’r ymgyrch hefyd yn annog grwpiau a chlybiau i ‘adennill y strydoedd’ ddydd Sul 25 Hydref, sef y diwrnod bydd y clociau’n mynd nôl, drwy gynnal digwyddiad rhedeg grŵp.
Cychwynnodd ymgyrch llynedd sgyrsiau ystyrlon o gwmpas y rhwystrau mae menywod yn wynebu wrth redeg yn y tywyllwch. Mae eleni’n ceisio cychwyn sgyrsiau tebyg yn y gofod cynghreiriaid ac annog pobl i gefnogi menywod, cael sgyrsiau agored ac onest gyda chynghreiriaid ac ysbrydoli eraill i wneud yr un peth.
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Wayne Bevan, arweinydd yr heddlu ar gyfer diogelu pobl sy’n agored i niwed:
“Mae’n dda gennym gefnogi’r ymgyrch hon yn dychwelyd. Byddwn ni’n ymweld â chlybiau rhedeg lleol eto eleni ac yn edrych ar adeiladu ar lwyddiant yr ymgyrch ddiwethaf. Mae pawb yn haeddu bod yn ddiogel, a theimlo’n ddiogel, pan maen nhw’n gofalu am eu llesiant corfforol a meddyliol.
“Os ydych chi’n profi aflonyddu neu ymddygiad bygythiol pan fyddwch chi allan yn rhedeg, rhowch wybod inni fel ein bod ni’n medru ymchwilio iddo. Gallwch hefyd roi gwybod inni am ardaloedd sy’n gwneud ichi deimlo’n anniogel oherwydd pethau fel diffyg golau neu offer wedi torri drwy’r wefan StreetSafe.”