Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ni fydd ffurflenni ar-lein ar gael rhwng 3am a 7am ar ddydd Iau, 22 Hydref tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol. Bydd y wefan hefyd allan o wasanaeth am tua phum munud rywbryd yn ystod y cyfnod hwn.
Os oes angen i chi riportio trosedd yn ystod y cyfnod hwn, ffoniwch ni ar 101, neu 999 mewn argyfwng.

Dwy flynedd ers darganfod y corff yng nghronfa ddŵr Claerwen ym Mhowys, mae’r heddlu’n annog unrhyw un a allai helpu i sefydlu pwy ydyw i ddod ymlaen.
Adroddwyd bod cerddwr ci wedi dod o hyd i’r dyn ar 17 Hydref 2024. Roedd yn gwisgo siwt wlyb ddu ‘ZONE3 Agile’ maint mawr iawn, ac amcangyfrifwyd ei fod wedi bod yn y dŵr am hyd at 12 wythnos.
Mae ymchwiliad a arweinir gan CID Powys wedi gweld pob llwybr ymholi rhesymol a chymesur yn cael ei ddilyn, fodd bynnag, ar hyn o bryd, nid yw’n hysbys pwy yw’r dyn.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Anthea Ponting, sydd wedi arwain yr ymchwiliad: “Mae hon yn sefyllfa anarferol iawn o ran bod dwy flynedd wedi mynd heibio a dydyn ni dal ddim tamaid yn nes at wybod pwy yw’r dyn hwn.
“Rydyn ni wedi cysylltu â phob heddlu yn y DU i gynnal gwiriadau am unigolion coll neu yn eisiau a oedd heb eu canfod, chwilio Cronfa Ddata Genedlaethol yr Heddlu, a chyhoeddi bwletinau i heddluoedd tramor drwy Interpol.
“Rydyn ni hefyd wedi chwilio cofnodion DNA, olion bysedd a deintyddol am gyfatebiadau posibl, ac wedi gweithio gyda Face Lab ym Mhrifysgol John Moore Lerpwl i greu delwedd ddigidol o wyneb rhag ofn y byddai hynny’n helpu rhywun i’w adnabod.
“Rydyn ni wedi estyn allan i’r cyhoedd am wybodaeth sawl gwaith, a bob tro, rydyn ni wedi adolygu’r wybodaeth a roddwyd inni, a mynd ar ôl cysylltiadau lle mae angen gwybodaeth bellach i adolygu, yn y gobaith o’i ddychwelyd i’w deulu neu anwyliaid. Yn anffodus, nid yw hyn wedi’n harwain at ganfod pwy yw’r dyn.”
Rhoddodd ymholiadau cychwynnol syniad cyffredinol i swyddogion o oed, taldra a maint corff y dyn. Y mae rhwng 30 a 60 oed, tua 6 troedfedd (1.83 medr), yn pwyso rhwng 202 pwys a 220 pwys (91.5kg-99.5kg), ac o dras gwyn Ewropeaidd.
Nododd y gwaith darluniad o wyneb dilynol fod ganddo ddannedd yn ymwthio allan a chamfrathiad ar yr ochr chwith, gên gron a llinell gên sgwâr, â thrwyn sy’n troi i lawr.


Nid oedd ganddo unrhyw farciau gwahaniaethadwy megis creithiau neu datŵau, ac ni ddaethpwyd o hyd i unrhyw ddillad arall, gemwaith, na thrafnidiaeth yn yr ardal.
Tra bod apeliadau cyhoeddus blaenorol wedi cyrraedd llawer iawn o bobl yn y DU a thramor, mae’r Ditectif Arolygydd Ponting yn gobeithio bydd y neges yn cyrraedd yr unigolyn iawn ddwy flynedd ar ôl darganfod y corff.
“Mae’n rhaid bod rhywun yn gwybod pwy yw’r dyn hwn,” meddai. “Efallai’ch bod chi’n ei adnabod o’r ddelwedd ddigidol, neu efallai’ch bod chi wedi ymweld â chronfa ddŵr Claerwen a gweld rhywbeth sy’n aros yn y cof – beth bynnag ydyw, gallai’n helpu i fwrw ymlaen â’n hymholiadau.
“Ein nod yn y pen draw yw adnabod y dyn hwn fel ein bod ni’n gallu ei ddychwelyd i’w deulu neu anwyliaid er mwyn iddo gael ei roi i orffwys yn briodol.
“Mae ein safle apêl dal ar agor ar gyfer cyflwyniadau, felly os ydych chi’n gwybod rhywbeth a allai helpu a dydych chi ddim wedi rhoi gwybod i’r heddlu yn barod, ystyriwch gysylltu â ni.
“Hoffwn ddiolch eto i bawb sydd wedi estyn allan dros y ddwy flynedd ddiwethaf â gwybodaeth a’ch sicrhau y byddai’ch adroddiad wedi’i ystyried, a chamau gweithredu wedi’u cymryd pan oedd modd.”
Os wnaethoch chi ymweld â chronfa ddŵr Claerwen rhwng mis Gorffennaf a 18 Hydref 2024, a gweld unrhyw beth a allai helpu â’n hymholiadau, neu os ydych chi’n gwybod am rywun sydd heb ei weld ers cryn amser ac sy’n ateb y disgrifiad uchod, cysylltwch â Heddlu Dyfed-Powys drwy un o’r dulliau canlynol:
Ar-lein: Porthol Cyhoeddus
E-bost: [email protected]
Ffôn: 101
Fel arall, cysylltwch â’r elusen annibynnol Crimestoppers yn ddienw drwy alw 0800 555111, neu drwy alw heibio i crimestoppers-uk.org.