Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Mae dyn wedi ei garcharu am 24 mlynedd am drywanu dynes ym Mharc Caerfyrddin
Mae James McKenna, 58 oed, wedi ei garcharu am 24 mlynedd ar ôl iddo gael ei ganfod yn euog o geisio lladd ei gyn bartner mewn digwyddiad ddydd Iau 29 Ionawr.
Plediodd McKenna, sydd o Gaerfyrddin, yn euog i feddu ar eitem â llafn mewn man cyhoeddus a chlwyfo bwriadol, ond gwadodd ymgais i lofruddio.
Yn dilyn achos llys wythnos o hyd yn Llys y Goron Abertawe, canfu McKenna’n euog o ymgais i lofruddio, a dychwelodd i’r llys heddiw i gael ei ddedfrydu.
Derbyniodd yr heddlu adroddiad tua 4 o’r gloch brynhawn ddydd Iau 29 Ionawr bod dyn wedi trywanu dynes sawl gwaith, gan arwain at sawl rhwygiad ac anafiadau trywanu i’w brest, braich a llaw.
Rhedodd y drwgdybyn i ffwrdd o’r lleoliad, ac aeth yr heddlu ati i chwilio amdano i’w arestio. Wrth chwilio, daethpwyd o hyd i sach deithio a oedd yn cynnwys cyllell â gwaed arni mewn rhandir cyfagos – ond doedd dim golwg o’r drwgdybyn.
Yn dilyn ymdrech galed i olrhain ei symudiadau i ardal Ceredigion, arestiodd yr heddlu James McKenna ar amheuaeth o ymgais i lofruddio ddydd Llun 2 Chwefror yn Aberystwyth. Wedi hynny, cafodd ei gyhuddo a’i gadw yn y ddalfa ddydd Mercher 4 Chwefror.
Heddiw (9 Hydref), dedfrydwyd James McKenna i 24 mlynedd yn y carchar am geisio llofruddio, ac i ddedfryd gydamserol o 12 mis am fod ag arf â llafn yn ei feddiant. Rhoddwyd gorchymyn atal pellter am gyfnod amhenodol yn ei erbyn hefyd.
Dywedodd yr uwch swyddog ymchwilio, y Ditectif Brif Arolygydd Siân Davies: “Rydyn ni’n croesawu dedfryd heddiw, ac yn diolch i bawb a oedd yn gysylltiedig â’r broses lys, a arweiniodd at James McKenna’n wynebu cyfiawnder yn y pen draw am ei weithred dreisgar erchyll.
“Hoffwn ddiolch i’r gymuned leol yng Nghaerfyrddin am eu cefnogaeth yn ystod ein hymateb cychwynnol i’r digwyddiad ysgytiol hwn. Rwy’n gobeithio bod hyn yn atgoffa pobl y byddwn ni’n gweithredu’n gadarn yn erbyn unrhyw un sy’n ceisio gwneud niwed yn ein cymunedau.
“Mae heddiw’n nodi diwedd ymchwiliad cymhleth, a hoffwn ddiolch i’r tîm a weithiodd yn galed i ddwyn yr achos hwn gerbron y llysoedd.
“Yn olaf, mae fy meddyliau’n parhau gyda’r dioddefydd yn yr achos hwn. Gobeithiaf ei bod hi’n teimlo ei bod hi’n gallu symud ymlaen yn ei hadferiad o’r digwyddiad trawmatig hwn.”