Stamp amser presennol: 15/09/2026 19:33:16
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleol[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-location' for 'Welsh (United Kingdom)']UchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Allanfa Gyflym

Cwcis

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.

Derbyn cwcis Gwrthod cwcis Addasu cwcis

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

Cau y bar cyhoeddiad

Rhybudd Hysbysiad

Oherwydd problemau technegol, nid yw ein ffurflenni ar-lein ar gael dros dro. Yn y cyfamser, ffoniwch ni ar 101, neu 999 mewn argyfwng.

Dyfed Powys force crest

  • Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Riportio camdriniaeth drwy ddefnyddio delweddau personol heb gydsyniad (pornograffi dial)
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio bod person ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Sbeicio
    • Stelcio neu aflonyddu
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
    • Trosedd gasineb
  • Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith, protest neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
    • Cysylltu â ni i riportio trosedd, digwyddiad neu amheuaeth
    • Cysylltu â ni am rywbeth arall
  • Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Adborth am y wefan
    • Cwynion
    • Dweud diolch
  • Eich ardal chi

Carcharu troseddwr rhyw gwyrdröedig am pedair blynedd

Cynnwys y prif erthygl

Powys
Cyhoeddwyd: 00:00 11/09/2026

Spalding Jailed.jpg

Carcharu troseddwr rhyw gwyrdröedig am pedair blynedd

Mae ymdrechion di-ildio gan swyddogion Heddlu Dyfed Powys wedi arwain at garcharu troseddwr rhyw gwyrdröedig yn dilyn ymchwiliad chwe blynedd.

Dechreuodd yr ymchwiliad pan wnaeth Thomas Spalding, 47 oed o Aberhonddu, ei ddinoethi ei hun i blentyn 11 oed ar Snapchat.

Roedd Spalding eisoes yn droseddwr rhyw cofrestredig pan ddinoethodd ei hun i’r plentyn a chyflawni gweithredoedd rhywiol o flaen y camera. Gwadodd Spalding y drosedd, ond, gan feddwl yn sydyn, recordiodd y plentyn y sgrin gan ddal y delweddau erchyll a’i riportio i Heddlu Swydd Gaerloyw.

Cadarnhaodd Snapchat gysylltiad Spalding i’r cyfrif a oedd yn ymwneud â hyn. Sbardunodd hyn yr ymchwiliad a ddatgelodd natur y troseddwr rhyw. Bu’n gyson yn dweud celwydd, yn cuddio tystiolaeth, ac yn gwneud ymdrechion amaturaidd i darfu ar yr ymchwiliad yn barhaus. Parhaodd i droseddu ac wrth newid ei amddiffyniadau’n barhaus llusgodd y broses yn un chwe blynedd.

Honnodd Spalding ei fod yn ‘dyst arbenigol’, ac roedd ei amddiffyniadau a oedd yn newid yn dragwyddol yn cynnwys:

  • Beio’r plentyn 11 oed am ei ychwanegu ef at sgwrs grŵp,
  • Cyfaddef mai ef oedd y person ar y recordiad sgrin (er iddo wadu hyn i gychwyn) ond honni ei fod wedi ei recordio o flaen llaw ac yn cael ei chwarae gan rywun arall,
  • Honni bod yn rhaid mai fideo wedi ei recordio o flaen llaw ydoedd gan nad oedd ‘yn rhyngweithio gyda’r plentyn’ pan oedd yn ei ddinoethi ei hun,
  • Defnyddio data a allai fod wedi ei manipiwleiddio i ddangos nad ydoedd yn y lleoliad ar adeg y drosedd.

Gwrthbrofodd y tîm ymchwilio bob amddiffyniad a gyflwynwyd yn fanwl. Fe wnaethant adnabod y lleoliad ar y recordiad sgrin fel fflat o eiddo perthynas hŷn i Spalding. Roedd y perthynas yn yr ysbyty tra roedd yr unigolyn gwyrdröedig yn ei ddinoethi ei hun i blant yn eu cartref.

Yna fe wnaethant atafaelu dillad o eiddo Spalding a oedd yn cyfateb i’r rhai a wisgwyd yn y recordiad sgrin.

Defnyddiodd Uned Fforensig Ddigidol Heddlu Dyfed Powys ddata o ffôn Spalding i brofi ei fod yn y lleoliad ar adeg y drosedd. Ceisiodd wadu hyn gyda data lleoliad ffug ond methodd â darparu’r data amrwd er mwyn i’r tîm gadarnhau ei alibi.

Drwy gydol y broses, gwnaeth y troseddwr gwyrdroëdig hefyd dargedu swyddogion gyda llifeiriant o achosion o aflonyddu a arweiniodd at fesurau diogelu’n cael eu gweithredu. Canlyniad y llifeiriant di-ildio hwn oedd bod dros 100 o negeseuon e-bost difrïol wedi eu hanfon at nifer o aelodau’r tîm ymchwilio a Gwasanaeth Erlyn y Goron. Roedd mor ddyfalbarhaus fel y cafwyd ef yn euog o droseddau dan A.127 Deddf Cyfathrebiadau 2003.

Er gwaethaf yr ymdrechion cyfeiliornus hyn i frawychu’r tîm, defnyddiodd y swyddogion yr adnoddau o’u hamgylch mewn ymchwiliad di-ildio i sicrhau cyfiawnder.

Cychwynnodd y treial yn Llys y Goron, Merthyr ar 21 Gorffennaf 2026. Parhaodd ymdrechion aneffeithiol Spalding yn y llys wrth iddo newid ei amddiffyniadau mewn ymdrech i ddirmygu’r system cyfiawnder. Cododd y tîm ymchwilio i herio pob ymgais ac roeddent yn parhau i gyflwyno tystiolaeth i wrthbrofi ei dystiolaeth wrth i’r treial fynd rhagddo.

Daeth y treial i ben gyda’r rheithgor yn canfod Spalding yn euog o gymryd rhan mewn gweithred rywiol gyda phlentyn a thri achos o dorri ei Orchymyn Atal Niwed Rhywiol.

Rhoddwyd dedfryd estynedig o garchar o pedair blynedd i Spalding, sy’n cynnwys pediar blynedd o garchar a chyfnod estyniad o 4 blynedd.

Rhannu

Llywio troedyn

Heddlu Dyfed-Powys

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Gyrfaoedd
  • Amdanom ni
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Ystadegau a data
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Adborth

Partneriaid

  • Comisiynydd Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2026. Cedwir pob hawl.