Stamp amser presennol: 15/09/2026 19:33:08
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleol[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-location' for 'Welsh (United Kingdom)']UchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Allanfa Gyflym

Cwcis

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.

Derbyn cwcis Gwrthod cwcis Addasu cwcis

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

Cau y bar cyhoeddiad

Rhybudd Hysbysiad

Oherwydd problemau technegol, nid yw ein ffurflenni ar-lein ar gael dros dro. Yn y cyfamser, ffoniwch ni ar 101, neu 999 mewn argyfwng.

Dyfed Powys force crest

  • Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Riportio camdriniaeth drwy ddefnyddio delweddau personol heb gydsyniad (pornograffi dial)
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio bod person ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Sbeicio
    • Stelcio neu aflonyddu
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
    • Trosedd gasineb
  • Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith, protest neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
    • Cysylltu â ni i riportio trosedd, digwyddiad neu amheuaeth
    • Cysylltu â ni am rywbeth arall
  • Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Adborth am y wefan
    • Cwynion
    • Dweud diolch
  • Eich ardal chi

Diwrnod Gwasanaethau Brys 2026: Swyddogion arwrol yn derbyn medalau dewrder am achub o dân mewn tŷ

Cynnwys y prif erthygl

Sir Gaerfyrddin
Cyhoeddwyd: 10:00 09/09/2026

imagetc292c.png

Mae Cwnstabl Taylor Rees a Chwnstabl Guto Dafydd o Gaerfyrddin wedi derbyn medalau dewrder efydd ar ôl achub dynes a oedd yn cysgu o dŷ a oedd ar dân.  

Yn ystod oriau mân y bore ddydd Llun 17 Tachwedd 2025, derbyniodd yr heddlu alwad 999 anghyflawn lle dywedodd y galwr, “Heol Mansel. Heol Mansel Caerfyrddin. Mae’n rhaid ichi fynd yno nawr,” cyn dod â’r alwad i ben.

Eiliadau’n ddiweddarach, derbyniwyd ail alwad gan alwr gwahanol yn dweud ei fod yn poeni am les unigolyn mewn eiddo ar Heol Mansel, Caerfyrddin.

Rhuthrodd swyddogion i’r lleoliad, â’u goleuadau glas yn fflachio. Pan gyrhaeddon nhw, gwelsant dân yn lledaenu’n gyflym ar lawr cyntaf yr eiddo preswyl.

Cyflwynodd yr unigolyn a oedd yn destun pryder ei hun yn ddiogel tu allan i’r eiddo.

 hwythau’n poeni y gallai pobl eraill dal fod yn yr eiddo, aeth Cwnstabl Rees a Chwnstabl Dafydd i mewn i’r adeilad a oedd yn llosgi yn ddi-oed.

Daeth swyddogion o hyd i ddynes ifanc yn cysgu mewn gwely tra bod yr ystafell wely drws nesaf ar dân, ac fe wnaethant ei deffro.  

Ar ôl cael y ddynes ifanc allan o’r eiddo’n ddiogel, ceisiodd Cwnstabl Rees ddiffodd y tân, ond cafodd drafferth anadlu, a sylweddoli bod y mwg yn ormod iddo fynd i’r afael ag ef ar ben ei hun.

Eiliadau ar ôl cyfrif am bob deiliad, ffrwydrodd y ffenestri llofft oherwydd y gwres aruthrol, a syrthiodd darnau o wydr ar y stryd islaw.

Cyrhaeddodd y gwasanaeth tân y lleoliad i reoli’r tân, gan ei ddiffodd yn fuan. Arestiwyd dyn a chafodd ei euogfarnu’n ddiweddarach o gynnau tân yn fwriadol heb boeni p’un a oedd bywyd yn cael ei beryglu ai peidio.

Dioddefodd y ddau swyddog effeithiau anadlu mwg a llosgiadau, ac fe wnaethant dderbyn triniaeth feddygol cyn aros ar ddyletswydd i gwblhau eu sifft.

Derbyniodd Cwnstabl Rees a Chwnstabl Dafydd fedalau dewrder efydd gan y Gymdeithas dros Ddiogelu Bywydau rhag Tân, a gyflwynwyd iddynt gan y Prif Gwnstabl Ifan Charles ym Mhencadlys yr Heddlu.

Cyflwynodd y Prif Gwnstabl Charles gymeradwyaeth Prif Gwnstabl i’r swyddogion am eu gweithredoedd dewr hefyd.

Dywedodd y Prif Gwnstabl Ifan Charles: “Dangosodd Cwnstabl Taylor Rees a Chwnstabl Guto Dafydd ddewrder aruthrol, proffesiynoldeb a thosturi mewn amgylchiadau anodd. Helpodd eu parodrwydd i weithredu’n gyflym a rhoi anghenion eraill yn gyntaf i sicrhau diogelwch a lles aelod bregus o’r cyhoedd.

“Mae eu gweithredoedd yn ein hatgoffa am y gwaith neilltuol sy’n cael ei gyflawni gan swyddogion ar draws ein heddlu bob dydd. Rwy’n falch iawn o’r ddau swyddog ac yn falch o weld eu hymrwymiad a’u hymroddiad yn cael ei gydnabod drwy’r gwobrau a chymeradwyaethau hyn.”

Dywedodd Cwnstabl Guto Dafydd: “Roedd mynychu’r digwyddiad hwn o fewn deufis ar ôl cwblhau fy hyfforddiant yn y dosbarth wir yn agoriad llygad. Rydyn ni’n cael ein paratoi i ymdrin â phob math o senarios yn ystod ein hyfforddiant, ond dydych chi ddim wir yn gwybod beth fyddwch chi’n wynebu tan eich bod chi yno yn y lleoliad. Rwy’n ddiolchgar iawn i Gwnstabl Rees, fy nhiwtor, am arwain ar y digwyddiad hwn, a ddaeth i ganlyniad diogel, diolch byth.”  

Dywedodd Cwnstabl Taylor Rees: “Roedd ein ffocws yn llwyr ar ddiogelu bywydau’r bobl yn yr eiddo a sicrhau bod pawb wedi’u tywys yn ddiogel o’r tŷ cyn y gallai’r sefyllfa waethygu.

“Wrth wynebu amgylchiadau annisgwyl, rwy’n credu’ch bod chi’n dilyn eich greddf ac yn gwneud popeth o fewn eich gallu i gadw pawb yn ddiogel. Braint oedd cael fy nghydnabod ochr yn ochr â Chwnstabl Dafydd yn dilyn y digwyddiad hwn."

Rhannu

Llywio troedyn

Heddlu Dyfed-Powys

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Gyrfaoedd
  • Amdanom ni
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Ystadegau a data
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Adborth

Partneriaid

  • Comisiynydd Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2026. Cedwir pob hawl.