Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Dedfrydwyd Dylan Wyn Benjamin, 19 oed, o ardal Bontnewydd yn Aberystwyth, i bum mlynedd o garchar, wedi’i lleihau i dair blynedd a phedwar mis ar ôl iddo bledio’n euog yn gynnar, am achosi marwolaeth Ellie Catherine Bryan drwy yrru’n beryglus.
Fe’i cyhuddwyd hefyd o achosi anafiadau difrifol i Kelsey Jarvis a Tee Jay Lewis drwy yrru’n beryglus yn dilyn ymchwiliad gan Heddlu Dyfed-Powys.
Benjamin oedd gyrrwr Vauxhall Astra yr oedd Ellie, Kelsey a Tee Jay yn teithio ynddo pan gollodd reolaeth ar yr A487 rhwng Aberystwyth a Chommins Coch ddydd Sadwrn 16 Tachwedd 2019.
Gwrthdarodd y car â choeden cyn mynd yn ôl i’r gerbytffordd a tharo cerbyd a oedd yn dod tuag ato.
Roedd Benjamin eisoes wedi pledio’n euog i bob trosedd mewn gwrandawiad ar 6 Tachwedd 2020.
Roedd ei gyd-ddiffynnydd Lena Faye Evans, yn gyrru cerbyd ar wahân y tu ôl i Benjamin adeg y gwrthdrawiad. Cafodd ei rhyddfarnu o bob trosedd yn ei threial yn gynharach eleni.
Dywedodd Ei Anrhydedd y Barnwr Geraint Walters wrth Benjamin bod dedfryd o garchar yn anorfod. Meddai, “Dylai achosion fel hyn ein hatgoffa nad meysydd chwarae yw ffyrdd fel hyn, ond maes chwarae oedd y ffordd i chi ar dop Rhiw Penglais.”
Gan ei ganmol am bledio’n euog yn gynnar, dedfrydodd Ei Anrhydedd y Barnwr Walters Benjamin i dair blynedd a phedwar mis o garchar, a’i wahardd rhag gyrru am bum mlynedd, gan gynnwys y gofyniad i sefyll prawf estynedig.
Darllenodd y swyddog â gofal dros yr achos, Cwnstabl Eleri Edwards, ddatganiad allan ar ran teulu Ellie, a ddywedodd ei bod hi’n ‘berson arbennig’ a bod ei marwolaeth wedi bod yn sioc llwyr iddynt.
Dywedodd y teulu eu bod nhw’n falch bod achos yr erlyniad drosodd a’u bod nhw eisiau llonydd yn awr i ddod i delerau â’u colled.
Ychwanegodd Cwnstabl Edwards, “Yr ydym yn gobeithio bod diwedd ymchwiliad yr heddlu a’r gweithdrefnau llys yn dod â rhywfaint o gysur i deulu Ellie, sydd wedi aros yn hynod o gryf drwy gydol hyn i gyd.
“Roedd y digwyddiad hwn yn drasiedi y gellid fod wedi’i hosgoi, a adawodd teulu’n galaru am ddynes ifanc yr oedd pawb mor hoff ohoni.
“Yr ydym yn annog gyrwyr i gymryd gofal ar y ffyrdd, sydd ddim yn feysydd chwarae, fel y dywedodd y barnwr yn y llys.”