Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Dedfrydwyd dyn 33 oed i 6 mlynedd o garchar am droseddau meithrin perthynas amhriodol ar-lein gyda phlentyn.
Ymddangosodd Simon HOWARD, o Lanybydder, yn Llys y Goron Abertawe ar y 9fed o Hydref 2023 ar gyfer dedfrydu.
Roedd yn flaenorol wedi pledio’n euog i ymgymryd â chyfathrebiadau rhywiol gyda phlentyn, ysgogi plentyn dan 13 oed i ymgymryd â gweithgaredd rhywiol a threfnu / hwyluso comisiynu trosedd rhyw yn erbyn plentyn.
Arweiniwyd yr ymchwiliad i HOWARD gan Tarian, Uned Troseddu Trefnedig Rhanbarthol de Cymru, gyda chefnogaeth Heddlu Dyfed Powys.
Clywodd y llys sut y defnyddiodd HOWARD lwyfannau cyfryngau cymdeithasol i ymwneud gyda phroffil ar-lein rhywun yr oedd yn credu oedd yn ferch 12 oed, ond a oedd mewn gwirionedd yn swyddog Tarian cudd. Mewn sgyrsiau, fe wnaeth yr unigolyn 33 oed gydnabod ei fod yn siarad gyda phlentyn cyn disgrifio mewn modd graffigol nifer o weithredoedd rhywiol, a manylu cynlluniau i gyfarfod gyda’r plentyn.
Cafodd HOWARD hefyd ei orchymyn i lofnodi’r gofrestr troseddwyr rhyw am 10 mlynedd a darparwyd gorchymyn atal niwed rhywiol gydag amodau llym iddo am y 10 mlynedd nesaf.
Meddai’r Ditectif Arolygydd Mathew Davies, o Tarian: “Mae hwn yn gydweithio rhagorol rhwng Tarian a Heddlu Dyfed Powys. Ffocws yr ymgyrch oedd targedu troseddwyr niwed uchel, ac wrth wneud hynny diogelu ac amddiffyn plant.”
Ychwanegodd y Ditectif Arolygydd Leon LEWIS o Adran Ymchwiliadau Troseddol (CID) Dyfed Powys: “Dangosodd Simon HOWARD ymddygiad rheibus a meithrinodd berthynas amhriodol ar-lein gyda rhywun yr oedd yn credu oedd yn ferch 12 oed. Ein blaenoriaeth lwyr ni yw amddiffyn a chadw plant yn ddiogel yn ein cymunedau.”
Mae’r gwaith a gyflawnwyd gan Tarian, yr Uned Troseddu Trefnedig Rhanbarthol a Heddlu Dyfed Powys wedi helpu sicrhau bod plant agored i niwed yn cael eu hamddiffyn rhag y perygl y mae HOWARD yn achosi iddynt.”
“Os oes unrhyw un wedi bod yn ddioddefydd cam-drin plant yn rhywiol, rwyf yn eich annog i’w riportio i’ch heddlu lleol drwy 101. Byddwn bob amser yn dilyn honiadau o gamdriniaeth, a does dim gwahaniaeth pryd y gwnaethant ddigwydd. Gall ddioddefwyr siarad yn gyfrinachol gydag ymchwilwyr profiadol a gallwn hefyd eu helpu i gael mynediad i amrediad o wasanaethau cefnogi eraill.”
“Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich defnydd o’r rhyngrwyd neu feddyliau neu ymddygiad amhriodol ynghylch plant neu os ydych yn bryderus ynghylch sut y mae rhywun rydych chi’n adnabod yn ymddwyn o amgylch plant, neu rydych yn poeni am eu defnydd o’r rhyngrwyd yna mae Sefydliad Lucy Faithfull yn darparu llinell gymorth am ddim, dienw a chyfrinachol Stop It Now! ar 0808 1000 900 am gyngor, cefnogaeth a gwybodaeth.”