Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae gwirfoddolwyr lleol o Dîm Achub Mynydd Aberhonddu wedi derbyn gwobr fawreddog gan Ganolfan Chwilio Genedlaethol Heddlu’r DU.
I gydnabod eu cymorth parhaus, cyflwynodd y Prif Arolygydd Mark Sweeney o’r Coleg Plismona’r wobr ‘Gwasanaeth Neilltuol i Gymuned Chwilio’r Heddlu’ iddynt.
Enwebwyd y tîm gan yr Uwch-arolygydd Dros Dro Andrew Pitt, Comander Heddlu Powys, ar ôl i’r tîm gael ei anfon i chwilio am ddwy ddynes oedrannus yn ardal Aberhonddu yn gynharach eleni.
Meddai’r Uwch-arolygydd Dros Dro Pitt:
“Er bod yr enwebiad yn ymwneud ag ymdrechion y tîm ar gyfer dwy ymgyrch chwilio benodol, y mae hefyd yn adlewyrchu cyfraniad sylweddol y grŵp hwn o wirfoddolwyr mewn blynyddoedd blaenorol a’u hymdrechion parhaus i gefnogi’r gwasanaethau brys, ddydd a nos, er mwyn canfod ac achub pobl goll.”
Ychwanegodd y Prif Arolygydd Sweeney:
“Enwebiadau wedi’u derbyn gan asiantaethau amrywiol ledled y DU, a bod pob un ohonynt yn rhoi cymorth neilltuol i’r heddlu, fodd bynnag, roedd yr enwebiad mewn perthynas â thîm Aberhonddu’n sefyll allan. Mae’n glir cymaint mae Heddlu Dyfed-Powys a'r cymunedau lleol maen nhw’n eu gwasanaethu’n gwerthfawrogi’r tîm.”
Gan dderbyn y wobr ar ran yr aelodau, dywedodd arweinydd y tîm, Dr. Rob Powell:
“Mae’n dda iawn gennym gael ein cydnabod ar lefel genedlaethol ar gyfer y wobr hon. Mae ein gwirfoddolwyr yn rhoi oriau dirifedi o amser ac yn aberthu eu hamser gwerthfawr i wasanaethu ein hardal weithrediadol. Nid ydym yn edrych am ddiolch, ond braint o’r mwyaf yw cael ein cydnabod. Yr ydym yn diolch i Heddlu Dyfed-Powys am eu cefnogaeth barhaus. Mae ein perthynas weithio’n golygu ein bod ni’n medru sicrhau bod anghenion chwilio ac achub y gymuned yn cael eu bodloni.”