Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio i ddigwyddiad a oedd yn ymwneud â sgwter trydanol, a ddigwyddodd tua 1.15 o’r gloch fore ddydd Iau 5 Awst 2021, ar y lôn tu ôl i Deras Sunninghill, Llanelli. Roedd dyn 56 oed yn reidio eSgwter pan syrthiodd oddi ar y sgwter. Doedd dim cerbydau eraill yn gysylltiedig â’r digwyddiad. Yn drist, er waethaf sylw meddygol yn y lleoliad, bu farw’r dyn yn ddiweddarach o ganlyniad i’w anafiadau. Mae Crwner EM wedi’i hysbysu. Mae’r heddlu’n apelio ar dystion, neu unrhyw un sydd â recordiad TCC o ardal Farmfoods, Bryntirion, Heol Abertawe, i gysylltu â nhw.
Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai helpu swyddogion â’u hymchwiliad i gysylltu â nhw ar-lein ar https://www.dyfed-powys.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/cysylltu-a-ni/, drwy anfon ebost at [email protected], neu drwy alw 101. Os ydych chi’n fyddar, yn drwm eich clyw, neu â nam ar eich lleferydd, anfonwch neges destun at y rhif difrys 07811 311 908. Dyfynnwch y cyfeirnod: DP-20210805-014.