Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
I gysylltu â'ch tîm lleol, defnyddiwch ein adnodd cysylltu ar-lein cyflym a syml.
Byddwn yn gofyn ychydig o gwestiynau i sicrhau bod eich ymholiad yn cyrraedd y lle iawn.
Patrolau amlwg o gwmpas ein pentrefi gwledig a ffermydd gan dargedu gweithgarwch troseddol.
Wedi'i roi 01 Medi 2026
Rhwng mis Ionawr a mis Mawrth, cynhaliwyd patrolau amlwg rheolaidd yn y pentrefi gwledig o gwmpas Trefyclo a Llanandras.
Ym mis Chwefror, cynhaliwyd ymgyrch lwyddiannus ar y cyd rhwng Heddlu Dyfed-Powys a Heddlu Gorllewin Mercia ar draws ffin Swydd Amwythig er mwyn targedu’r cynnydd o ran lladradau a byrgleriaethau nad ydynt o gartrefi.
Camau wedi'u cymryd 31 Rhagfyr 2026
Patrolau amlwg o gwmpas ein ffermydd a’n pentrefi gwledig, gan ganolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth a chynnig cyngor atal trosedd ynghylch beiciau cwad a dwyn tanwydd.
Bydd y flaenoriaeth hon yn parhau o fis Ebrill i fis Mehefin 2026.
Wedi'i roi 01 Medi 2026
Cyflwynwyd adroddiad i’r heddlu mewn perthynas â phibellau copr ac estyll yn cael eu cymryd o eiddo gwledig gwag yn ardal Bugeildy. Crëwyd trosedd ac ymchwiliwyd i’r tramgwydd o fwrglera.
Ar 16 Mai, derbyniwyd adroddiad gan ffermwr yn ardal Bugeildy am ladrad dros 1000m o gebl trydan o sied ieir. Cofnodwyd byrgleriaeth ac ymchwiliwyd i’r mater. Cynhaliwyd ymweliad dilynol gan y Tîm Troseddau Gwledig, gan gynnwys arolwg atal trosedd.
Derbyniwyd adroddiad ym mis Ebrill mewn perthynas â lladrad hen emwaith o safle busnes yn ardal Trefyclo. Cofnodwyd trosedd byrgleriaeth a chynhaliwyd ymchwiliad.
Ar 29 Ebrill, aed â dau feic cwad o eiddo gwledig yn ardal Trefyclo – gydag ymgais i ladrata yn yr un lleoliad ar 23 Ebrill. Cofnodwyd trosedd byrgleriaeth a chynhaliwyd ymchwiliad mewn partneriaeth â’r Tîm Troseddau Gwledig.
Mae swyddogion sydd wedi’u hyfforddi mewn atal trosedd o’r Tîm Plismona Bro lleol a’r Tîm Troseddau Gwledig yn parhau i roi cyngor atal trosedd am ddim a chynnal arolygon ac ymweliadau dilynol â dioddefwyr troseddau gwledig fel y rhai a restrir er mwyn hyrwyddo diogelwch a mesurau targedu dwys mewn ardaloedd gwledig ac atal dioddefwyr mynych.
Mae gwaith partneriaeth parhaus hefyd yn mynd rhagddo rhwng Heddlu Dyfed-Powys a heddluoedd cyfagos er mwyn targedu troseddau gwledig a throseddau sy’n gysylltiedig â throseddwyr teithiol ac aflonyddu arnynt.
Camau wedi'u cymryd 31 Rhagfyr 2026
Bydd Swyddogion Plismona Bro’n codi ymwybyddiaeth ynghylch Masnachwyr Twyllodrus a diogelu eich hun rhag dod yn ddioddefydd.
Bydd y flaenoriaeth hon yn parhau o fis Ebrill i fis Mehefin 2026.
Wedi'i roi 01 Medi 2026
To be translated.
Camau wedi'u cymryd 31 Rhagfyr 2026
Bydd patrolau amlwg ac ymweliadau amlasiantaeth yn cael eu cynnal yng Garth Meadow, Trefyclo.
Bydd y flaenoriaeth hon yn para o fis Gorffennaf i fis Medi 2026.
Wedi'i roi 01 Medi 2026
Bydd y tîm plismona bro’n gweithio’n agos â phwyllg cynllun Os Dwyn Cewch Eich Gwahardd Trefyclo er mwyn mynd i’r afael ag ymddygiad troseddol ac afreolus.
Bydd y flaenoriaeth hon yn para o fis Gorffennaf i fis Medi 2026.
Wedi'i roi 01 Gorffennaf 2026