Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae timau plismona bro yn cynnwys swyddogion yr heddlu a Swyddogion Cefnogi Cymunedol yr Heddlu (SCCH). Y rhain yw wynebau cyfarwydd Heddlu Dyfed-Powys yn eich cymunedau chi. Maen nhw’n dimau arbenigol ymroddedig sy’n gweithio gyda’n cymunedau a phartneriaid i sicrhau diogelwch ac ysbryd cymunedol ac i ddatrys problemau er mwyn dod o hyd i atebion cynaliadwy i’r pethau sy’n cael yr effaith fwyaf ar fywydau pobl o ddydd i ddydd.
Mae ein timau plismona ac atal bro wrth wraidd ein gwaith i amddiffyn y cyhoedd, atal troseddu, ac ymateb i heriau plismona heddiw.
Mae pryderon cymunedol wedi’u mynegi mewn perthynas â gweithgarwch cyffuriau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ardal Glan Yr Ithon a Maes Yr Ithon.
Bydd patrolau rheolaidd yn cael eu cynnal er mwyn monitro’r ymddygiad hwn a tharfu arno.
Bydd y flaenoriaeth hon yn para o fis Ebrill i fis Mehefin 2026.
Wedi'i roi 01 Ebrill 2026
Bydd swyddogion bro a phlismona’r ffyrdd yn mynd i’r afael â phryderon a fynegwyd gan aelodau o’r gymuned mewn perthynas â goryrru o gwmpas Heol Fawr, Lôn Cefnllys a Spa Road East, Llandrindod.
Wedi'i roi 01 Ionawr 2026
Cynhaliwyd sesiynau lleihau cyflymder amlwg yn ardal Heol Fawr a Lôn Cefnllys ym mis Ionawr, sy’n cael effaith gadarnhaol ar godi ymwybyddiaeth gyrwyr o’r terfyn cyflymder o 20mya.
Camau wedi'u cymryd 31 Ionawr 2026
Mae pryderon wedi’u mynegi gan y gymuned mewn perthynas â gweithgarwch cyffuriau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol cysylltiedig yng nghyffiniau Glan yr Ithon a Maes yr Ithon.
Bydd patrolau rheolaidd yn cael eu cynnal er mwyn monitro’r ymddygiad hwn ac aflonyddu arno.
Bydd y flaenoriaeth hon yn para o fis Ionawr i fis Mawrth 2026.
Wedi'i roi 01 Ionawr 2026
Cynhaliwyd patrolau amlwg yn rheolaidd o fis Ionawr i fis Mawrth yn yr ystadau hyn a nodwyd. Mae dal pryderon ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol a gweithgarwch cyffuriau. Mae cyfarfodydd wedi’u cynnal gydag asiantaethau partner er mwyn mynd i’r afael â’r materion hyn, a chytunwyd y byddai’r flaenoriaeth hon yn parhau tan ddiwedd Mehefin.
Camau wedi'u cymryd 31 Mawrth 2026
Mae gwahanol fathau o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cael eu hadrodd amdanynt yn ardal y Rock Park. Bydd timau plismona ac atal bro yn cynnal patrolau hawdd eu gweld a phatrolau ar y cyd ag asiantaethau partner yn yr ardal.
Bydd y flaenoriaeth hon yn para o fis Ionawr i fis Mawrth 2026.
Wedi'i roi 01 Ionawr 2026
Rhwng mis Ionawr a mis Mawrth, mae’r tîm bro wedi bod yn cynnal patrolau rheolaidd er mwyn atal ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae cyfarfodydd partneriaeth ar y cyd wedi’u cynnal gydag adrannau Cyngor Sir Powys gydag arwyddion newydd yn cael eu gosod yn yr ardal.
Camau wedi'u cymryd 31 Mawrth 2026