Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
I gysylltu â'ch tîm lleol, defnyddiwch ein adnodd cysylltu ar-lein cyflym a syml.
Byddwn yn gofyn ychydig o gwestiynau i sicrhau bod eich ymholiad yn cyrraedd y lle iawn.
Mewn ymateb i bryderon gan y gymuned bod cerbydau’n goryrru heibio ysgol gynradd Llanelwedd, bydd swyddogion o’r Tîm Plismona Bro ac Atal yn cynnal gweithgarwch targedig achlysurol, gan ddefnyddio dyfais gymeradwy i gipio cyflymder cerbydau.
Bydd y flaenoriaeth hon yn para o fis Ionawr i fis Mawrth 2026.
Wedi'i roi 01 Medi 2026
Cynhaliwyd yr ymgyrch hon ym mis Mehefin gydag aelodau staff GanBwyll, Uned Plismona’r Ffyrdd a Swyddogion Bro lleol, gan gynnal gwiriadau cyflymder ar yr A483 ar Ffordd y Garth, Llanfair-ym-Muallt oherwydd pryderon gan breswylwyr ynghylch cyflymder. Gyrrodd dros 421 o gerbydau ar hyd y ffordd hon i’r ddau gyfeiriad, gan arwain at rybuddio chwe cherbyd nwyddau trwm am oryrru (26mya i 27mya), ac 16 car (26mya i 29mya), un Adroddiad Trosedd Traffig am oryrru (33mya) ac Adroddiad Trosedd Traffig arall am fod cortyn i’w weld ar deiar.
Camau wedi'u cymryd 31 Rhagfyr 2026
Mae swyddogion plismona’n parhau i boeni am ardaloedd y Groe a’r farchnad da byw yn Llanfair-ym-Muallt. Bydd patrolau rheolaidd yn cael eu cynnal er mwyn monitro unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol neu weithgarwch sy’n gysylltiedig â chyffuriau ac aflonyddu arno.
Bydd y flaenoriaeth hon yn para o fis Ebrill i fis Mehefin 2026.
Wedi'i roi 01 Medi 2026
Cynhaliwyd patrolau helaeth gan swyddogion, gan arwain at ostyngiad yn nifer yr adroddiadau am ddifrod troseddol a digwyddiadau ymddygiad gwrthgymdeithasol a oedd yn cael eu derbyn yn yr ardaloedd hyn.
Roedd adborth gan y gymuned yn gadarnhaol a mynychodd swyddogion nifer o’r digwyddiadau’n arwain at garnifal Llanfair-ym-Muallt.
Roedd y tîm bro wrth eu boddau’n croesawu ac yn siarad â chymaint o aelodau o’r gymuned wrth eu stondin fel rhan o ddathliadau carnifal y Gro, a welodd gweithredu cadarnhaol yn erbyn cyffuriau a fêps hefyd.
Camau wedi'u cymryd 31 Rhagfyr 2026
Mae pryderon cymunedol wedi’u mynegi mewn perthynas â gweithgarwch cyffuriau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ardal y Groe .
Bydd patrolau rheolaidd yn cael eu cynnal er mwyn monitro’r ymddygiad hwn a tharfu arno.
Bydd y flaenoriaeth hon yn para o fis Ionawr i fis Mawrth 2026.
Wedi'i roi 01 Medi 2026
Mae patrolau amlwg wedi’u cynnal yn rheolaidd yn yr ardaloedd hyn a nodwyd rhwng mis Ionawr a mis Mawrth, gan gynnwys digwyddiad ‘Cwrdd â’r Stryd’ ar Stryd Fawr Llanfair-ym-Muallt.
Rydyn ni hefyd wedi derbyn adroddiadau am ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y CAFC. Mae’r tîm bro wedi mynd i’r afael â’r mater hwn yn llwyddiannus. Byddant yn parhau i fonitro’r ardal hon.
Camau wedi'u cymryd 31 Rhagfyr 2026
Bydd swyddogion plismona bro’n parhau i batrolio ardaloedd y Groe, y farchnad wartheg ac Eglwys y Santes Ffair, Llanfair-ym-Muallt. Bydd patrolau rheolaidd dal yn cael eu cynnal er mwyn monitro unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol a gweithgarwch troseddol, ac aflonyddu arno.
Bydd y flaenoriaeth yn parhau o fis Gorffennaf i fis Medi 2026.
Wedi'i roi 01 Medi 2026
To be translated
Camau wedi'u cymryd 31 Rhagfyr 2026