Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Efallai nad yw’n amlwg, ond mae diogelu eich gardd ac adeiladau allanol nid yn unig yn cadw eich beiciau ac eitemau gwerthfawr eraill sydd yn eich sied yn ddiogel, gall hefyd atal byrgleriaid rhag cael gafael ar offer i dorri mewn i’ch cartref.
Ffin isel yn y blaen; cadwch wrychoedd a waliau o flaen eich tŷ yn isel (is nag un metr) fel nad oes unman i’r lleidr guddio.
Cloi’r gât ochr; cadwch gatiau ochr ar glo bob amser. Mae gatiau agored yn golygu y gall lladron fynd i mewn i’ch cartref yn hawdd heb i bobl sy’n mynd heibio neu gymdogion eu gweld.
Ffiniau ochr a chefn uchel gyda dellt a phlanhigion pigog; cadwch y gwrychoedd, waliau a ffensys o amgylch eich gardd gefn yn uchel (dros 1.8 metr). Ychwanegwch ddellt ar gatiau a ffensys a phlannwch blanhigion pigog er mwyn ei gwneud hi’n anoddach i ladron ddringo drostynt.
Rhowch gerrig mân ar y dreif a’r llwybr; mae dreif a llwybrau gyda cherrig mân yn ei gwneud hi’n anoddach i ladron beidio cael eu canfod.
Golau diogelwch; gosodwch olau diogelwch tu allan fel na all tresmaswyr ddod at eich cartref heb gael eu gweld.
System larwm lladron; gosodwch system larwm lladron.
Drws a ffenestr sied ddiogel; cadwch eich sied wedi’i chloi ac yn ddiogel bob amser. Yn aml bydd siediau’n cynnwys eitemau fel tŵls trydan a beiciau.
Peidiwch byth â gadael eich tŵls o amgylch y lle; peidiwch byth â gadael eich tŵls o amgylch y lle gan y gellir eu defnyddio i dorri mewn i’ch cartref.
Gall gadael ffenestri’r llawr gwaelod a’r drysau patio ar agor yn yr haf roi’r cyfle delfrydol i ladron. Pan fyddwch yn y llofft neu allan o’r ystafell, os mai dim ond am ychydig funudau, caewch nhw a helpu i gadw’r lladron allan.
Ystyriwch brynu larwm sied. Mae’r rhain fel arfer yn eithaf rhad ond yn effeithiol.
Ychwanegwch haen ychwanegol o ddiogelwch i ffenestri sied gyda haenau o ffilm wedi’i lamineiddio neu griliau metel ar y tu fewn.
Gall plannu llwyni penodol (ar ffurf aeddfed neu rannol aeddfed) ar hyd waliau gardd ei gwneud hi’n anoddach i ladron fynd i mewn i’ch eiddo neu wneud iddynt feddwl eilwaith. I gael yr effaith orau plannwch hwy’n agos i’w gilydd.
Rydym yn argymell plannu unrhyw rai o’r canlynol:
Eurddraenen (Berberis)
Osmanthus
Ysgorpionllys (Forget)
Poncirus
Draenen wen
Tân-ddraenen (Pyracantha)
Aralia
Coeden gwins (Chaenomeles)
Rhyfwydden (Ribes)
Oplopanax
Eleagnus
Coeden robinia
Colletia
Celynnen
Rhosynnau dringo
Maclura
Mahonia
Pryfet (Ligustrum) neu llawryf
Smilacs a Xanthoxylum
Gallwch dal ddefnyddio’r cynghorion hyn drwy blannu o flaen ffenestri llawr gwaelod er mwyn atal mynediad hawdd.