Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Dyfeisiau sy’n cael eu ffitio ar bibellau mwg cerbydau yw troswyr catalytig er mwyn lleihau faint o nwyon peryglus a allyrrir. Bydd lladron yn eu targedu yn aml gan fod ynddynt fetelau gwerthfawr y gellir eu tynnu allan mewn llai na munud.
Bydd lladrad troswyr catalytig yn digwydd fwyaf aml mewn meysydd parcio, ond gallant ddigwydd yn unrhyw le. Yna efallai y bydd lladron yn gwerthu’r troswyr hyn mewn iardiau sgrap, ar-lein neu eu hanfon allan o’r wlad.
Cerbydau hybrid a dargedir yn fwyaf cyffredin, gan fod eu metelau’n fwy gwerthfawr, ond gall unrhyw gerbyd fod mewn perygl o ddioddef lladrad troswr catalytig.
Gwyliwch y fideo isod i weld sut beth yw lladrad troswr catalytig.
Er bod achosion o ladrad troswyr catalytig ar gynnydd, mae camau y gallwch eu cymryd i ddiogelu eich cerbyd.
Er mwyn cadw eich troswr catalytig yn ddiogel, gallwch ofyn i’ch gwerthwr ceir am gyngor ynglŷn â chloeon neu giardiau sydd wedi’u cymeradwyo gan wneuthurwr y cerbyd ac wedi’u profi i safon Sold Secure Gold.
Neu, ceisiwch wneud yn siŵr bod eich cerbyd wedi’i barcio mewn garej dros nos, neu os oes gennych gerbyd masnachol, parciwch ef mewn lle caeedig diogel. Os nad yw hyn yn bosibl, parciwch mewn man sydd wedi’i oleuo’n dda lle mae pobl yn gallu ei weld a cheisiwch barcio mewn modd fel na all darpar ladron gyrraedd y troswr yn hawdd. Mae cerbydau sydd â’u cyrff yn uchel o’r llawr yn arbennig o agored i ddioddef.
Dylech hefyd gofrestru eich troswr a’i farcio gyda marciwr fforensig, a fydd yn ei gwneud hi’n anoddach i ladron gael gwared ohono.
Ewch i Secured by Design neu Sold Secure Gold i gael rhagor o fanylion.