Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae rhywun yn torri mewn i’ch car a cholli eich eiddo i ladron yn gallu bod yn brofiad torcalonnus. Dyma ychydig gamau syml y gallwch eu cymryd i gadw eich cerbyd, a’r hyn sydd ynddo, yn ddiogel.
Mae ei lenwi â phetrol neu bicio’n ôl i’r tŷ i gasglu rhywbeth yn enghreifftiau delfrydol o ba mor hawdd yw hi i droi eich cefn am eiliad ac anghofio nad yw eich cerbyd yn ddiogel. Felly ewch i’r arfer o gloi eich cerbyd, hyd yn oed os mai dim ond am funud y byddwch yn ei adael.
Os oes gan eich cerbyd ddrychau ochr sy’n plygu’n awtomatig pan fydd wedi’i gloi, gwnewch yn siŵr eich bod yn ei gloi’n iawn. Mae gangiau troseddol yn chwilio am gerbydau o’r math hyn lle mae’r drychau yn dal allan gan ei bod yn amlwg nad yw’r cerbyd wedi’i gloi.
Mae gadael eich ffenestri a’r to haul ar agor yn gwahodd rhywun i bysgota am eitemau drwy’r bwlch gyda’i law neu rywbeth fel daliwr dillad wedi’i blygu, a allai hefyd gael ei ddefnyddio i ddatgloi’r drws er mwyn mynd i mewn i’r cerbyd. Gall lladron fod yn ddyfeisgar iawn. Peidiwch â rhoi’r cyfle iddynt.
Y ffordd hawsaf i newid manylion cerbyd sydd wedi’i ddwyn, neu osgoi cael tocyn am oryrru neu am drosedd parcio, yw gosod rhifau cofrestru sydd wedi’u dwyn arno. Mae defnyddio sgriwiau diogelwch i osod platiau rhif cofrestru eich cerbyd yn sownd yn ei gwneud hi’n anoddach i ladron gael gafael ar eich rhif.
Mae olwynion sydd wedi’u dwyn yn werthfawr, naill ai fel rhannau sbâr neu ar gyfer eu gwerth fel sgrap. Mae defnyddio nytiau olwyn sy’n cloi yn lleihau’r siawns y bydd olwynion eich cerbyd yn cael eu dwyn. Hefyd, bydd eich cerbyd bob amser yn edrych yn well ar olwynion nag ar dwmpath o frics.
Mae’n hawdd dwyn unrhyw beth sydd wedi’i adael ar y raciau to, raciau cefn, bocsys to neu mewn cistiau tŵls pan fo cerbyd wedi’i barcio. Mae defnyddio cloeon cebl, cloeon clap a chist tŵls hunan gloi, sy’n sownd i’r cerbyd, yn eu gwneud yn fwy diogel, ond eto, peidiwch â gadael pethau ynddynt os yw hynny’n bosibl.
Mae eich ffôn symudol, arian mân ar gyfer parcio, sbectol haul, pecynnau o feddyginiaethau, neu eitemau eraill y gellir gwneud arian yn gyflym drwy eu gwerthu, yn atyniadol iawn i leidr sy’n manteisio ar gyfle. Cofiwch, bydd cost gosod ffenestr newydd yn fwy na gwerth yr hyn sydd wedi’i ddwyn. A dylai fod yn amlwg na ddylid byth gadael waledi, bagiau llaw, pyrsiau a chardiau credyd mewn cerbyd.
Mae gadael dalwyr system llywio â lloeren, marciau cwpan sugno ar ffenestri neu geblau yn y golwg yn arwydd clir eich bod wedi gadael dyfais llywio â lloeren, ffôn clyfar neu ddyfais arall yn eich car. Hyd yn oed os na allant weld y dyfeisiau efallai y byddant yn torri mewn i weld a ydynt wedi’u cadw o’r golwg.
Mae faniau yn aml yn cael eu targedu gan ladron ar gyfer yr offer sy'n cael eu storio y tu mewn. Os oes rhaid i chi adael offer mewn fan dros nos, mae'n syniad da eu clirio gyda chwistrell lacr clir. Fel arall, gallwch ddefnyddio amrywiaeth o systemau marcio eiddo eraill. Eitemau sydd wedi'u marcio'n glir yn llai ac yn anoddach i'w gwerthu.
Ystyriwch ddefnyddio cabinet y gellir ei gloi yn eich fan i storio offer - mae nifer o gynhyrchion â sgôr diogelwch ar gael. Mae camerâu bach hefyd wedi'u cynllunio i recordio y tu mewn i gerbydau. Ewch i Secured by Design i gael mwy o fanylion.
Gallwch hefyd dynnu lluniau o'r rhifau cyfresol ac ystyried eu cofrestru ar-lein ar safle cofrestr eiddo.
Gall gymryd llai na 30 eiliad i dorri mewn i gerbyd. Mae parcio mewn strydoedd prysur sydd wedi’u goleuo’n dda yn cynyddu’r siawns y caiff lleidr ei weld, felly bydd mwy na thebyg yn cadw draw.
Gallai bod â chofrestriad cerbyd a dogfennau yswiriant adael i leidr esgus bod yn berchennog. Sy'n golygu y gallent ei werthu yn eithaf hawdd. Felly, peidiwch byth â gadael unrhyw ddogfennau yn y cerbyd.
Os yn bosibl, ceisiwch barcio bob amser mewn meysydd parcio sydd wedi’u goleuo’n dda ac wedi’u staffio, neu’r rheini sydd wedi cael dyfarniad parcio diogelach Park Mark. I ddod o hyd i un, ewch i Park Mark.
Mae'r metel gwerthfawr mewn trawsnewidyddion catalytig wedi arwain at gynnydd yn eu lladrad. Dysgu mwy am beth yw lladrad troswyr catalytig a beth allwch ei wneud ynglŷn â’r mater.