Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'r heddlu'n clywed am filiynau o achosion o dwyll a chamddefnyddio cyfrifiaduron bob blwyddyn. Mae'n syfrdanol, ond yn fwy syfrdanol fyth yw'r ffaith y gallai gwneud ambell i newid bach i’n hymddygiad ar-lein fod wedi atal nifer fawr o’r troseddau hyn.
Does dim angen bod yn arbenigydd mewn cyfrifiaduron i osgoi dioddef troseddau ar-lein. Trwy ddatblygu ambell i arfer da ar-lein gallwch leihau'ch tebygolrwydd o ddioddef seiberdroseddau yn sylweddol, eich gwneud eich hun yn llai agored i droseddau a defnyddio'r we'n ddiogel.
Ewch i Cyber Aware i gael cyfarwyddiadau cam wrth gam ar sut i gadw eich dyfeisiau'n ddiogel gyda'r diweddariadau diogelwch diweddaraf, ac i gael rhagor o gynghorion am ddiogelwch ar-lein.
Mae twyll ar-lein, neu seiberdroseddau, yn cynnwys pob math o droseddau sydd:
Byddwch yn ofalus wrth agor negeseuon e-bost a negeseuon testun, yn enwedig os nad ydych chi'n adnabod yr anfonwr. Os cewch neges e-bost neu destun yn annisgwyl, neu os yw’r neges yn edrych yn anarferol, hyd yn oed os yw hi gan rywun rydych chi'n ei adnabod, anwybyddwch hi a chysylltwch â'r anfonwr yn uniongyrchol i ofyn ai nhw anfonodd y neges.
Ni fydd eich banc, yr heddlu na chwmnïau cyfrifol byth yn gofyn am wybodaeth sensitif neu ariannol trwy e-bost, dros y ffôn neu trwy neges destun.
I amddiffyn eich hun rhag twyll:
Mae rhwydweithiau cymdeithasol yn ffordd wych o gadw mewn cysylltiad â ffrindiau a pherthnasau, ond byddwch yn ofalus faint o wybodaeth bersonol rydych chi'n ei rhannu arnynt.
Pan fyddwch chi'n postio neu'n rhannu rhywbeth ar un o blatfformau'r cyfryngau cymdeithasol, mae hi allan o'ch rheolaeth, a gallai gael ei rhannu a'i defnyddio gan bobl eraill, hyd yn oed ar ôl i chi ei dileu.
Cofiwch:
Os yw cynnig ar-lein i’w weld yn rhy dda i fod yn ddilys, mae'n debygol ei fod e. I helpu i adnabod gwefan ffug:
Math o feddalwedd maleisus sy'n bygwth cyhoeddi data'r dioddefwr neu atal mynediad ato am byth oni bai eu bod nhw'n talu pridwerth yw meddalwedd wystlo.
Cadwch gopi wrth gefn o'ch holl ddogfennau a ffotograffau mewn o leiaf un lle arall, a gwnewch hynny’n gyson er mwyn lleihau'r risg o golli popeth os cewch chi feirws meddalwedd wystlo. Gallwch gopïo'ch data i:
Mae'r rhyngrwyd yn caniatáu i blant gysylltu â ffrindiau a dysgu pethau newydd. Ond mae yna beryglon i fynd ar-lein, ac mae plant yn gallu bod yn arbennig o agored i'r peryglon hyn.
Un o'r ffyrdd gorau o gadw'ch plentyn yn ddiogel ar-lein yw siarad â nhw. Trwy ddeall y peryglon a chadw i fyny â'r dechnoleg, y gwefannau a'r rhwydweithiau cymdeithasol diweddaraf, gallwch helpu eich plentyn i fwynhau'r rhyngrwyd yn ddiogel.
I helpu i amddiffyn plant ar-lein:
Os ydych chi'n dioddef ymosodiad seiber byw sy'n digwydd ar hyn o bryd, cysylltwch â ni ar 101.
Os ydych chi'n amau eich bod wedi dioddef sgam, twyll neu seiberdrosedd, yna gall tîm Action Fraud ddarparu'r cymorth, y gefnogaeth a'r cyngor sydd eu hangen arnoch.
Ffoniwch Action Fraud ar 0300 123 2040 (ffôn testun 0300 123 2050).
Rydyn ni'n argymell eich bod chi'n dilysu eich gosodiadau preifatrwydd ac yn atal pobl nad ydych chi'n eu hadnabod rhag eich dilyn ar Facebook.
Dylech ddilysu eich gosodiadau preifatrwydd ar Twitter, Instagram a Snapchat hefyd.
Action Fraud – canolfan genedlaethol y DU ar gyfer adroddiadau o dwyll a seiberdroseddau
Cyber Aware – cyngor hanfodol i'ch amddiffyn eich hun ar-lein
Y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol – yn helpu i wneud y DU yn lle mwy diogel i fyw a gwneud busnes
National cyber resilience centre group - sefydliad nid er elw a arweinir gan blismona sy’n amddiffyn busnesau rhag troseddau sy’n ymwneud â seiber