Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae troseddwyr yn dweud celwydd er mwyn ennill eich ymddiriedaeth a chreu perthynas gyda chi. Maen nhw'n gwneud i bopeth am y rhamant deimlo'n normal ond eu nod nhw yw cael arian neu wybodaeth bersonol.
Mae twyllwyr rhamant yn arbenigwyr ar drin eu dioddefwyr.
Fe fyddan nhw fel arfer:
Mae yna arwyddion i chwilio amdanyn nhw.
Efallai y byddan nhw'n troi sgwrs yn fwy personol i gael gwybodaeth gennych. Ond efallai na fyddan nhw’n sôn rhyw lawer amdanyn nhw eu hunain er mwyn ichi holi neu wirio.
Efallai y byddan nhw'n anfon llun i ennill eich ymddiriedaeth. Gall fod yn ffotograff go iawn, neu gall fod wedi’i ddwyn oddi wrth rywun arall neu wedi’i greu drwy ddefnyddio technoleg. Gallwch ddefnyddio teclyn ar-lein i wirio a ydy’r llun wedi'i ddwyn. Defnyddiwch Google neu TinEye i wneud ôl-chwiliad delweddau.
Efallai y byddan nhw'n rhoi esgus pam na allan nhw gwrdd â chi'n bersonol. Gall yr esgus ymddangos yn rhesymol.
Os ydych chi wedi cwrdd â nhw ar wefan, gêm neu ap detio, efallai y byddan nhw’n eich arwain chi oddi yno. Efallai y byddai'n well ganddyn nhw siarad drwy’r ebost, neges destun a ffôn. Mae twyllwyr yn aml yn dewis rhaglenni negeseua wedi'u hamgryptio, fel WhatsApp.
Weithiau, bydd y twyllwr yn dweud bod angen arian ar gyfer llawdriniaeth feddygol frys neu aelod o'r teulu sy’n sâl. Efallai y dwedan nhw fod angen talu dyled neu fod yna sefyllfa frys er mwyn eich annog i fynd ati’n gyflym. Efallai y byddwch chi’n teimlo mai dim ond chi all eu helpu nhw ac efallai y byddwch chi'n teimlo cyfrifoldeb i wneud hynny.
Efallai y byddan nhw’n gofyn ichi fuddsoddi arian. Neu efallai y gofynnan nhw ichi brynu cardiau rhodd o wefannau fel Amazon neu iTunes i'w hanfon atyn nhw.
Weithiau, mae’n bosib na fyddan nhw’n gofyn am arian yn uniongyrchol ond yn hytrach yn gobeithio y byddwch chi’n anfon arian am eich bod chi’n garedig. Drwy greu sefyllfa lle mae amser i weithredu’n brin, maen nhw am i chithau deimlo'n gyfrifol am ddatrys y broblem. Maen nhw am ichi weithredu oherwydd ymdeimlad o frys yn y gobaith y gwnewch chi rywbeth na fyddech chi'n ei wneud fel arfer. Efallai y byddan nhw hefyd yn addo y bydd pethau'n well cyn hir ac na fydd rhagor o drafferthion ariannol.
Gall y twyllwr anfon eitemau drud atoch chi, neu ofyn am gael anfon arian i'ch cyfrif banc. Gall yr amgylchiadau ymddangos yn ddilys, ond fe allech chi fod yn gwyngalchu arian yn ddiarwybod, sy'n drosedd.
Efallai y byddan nhw’n gofyn ichi gadw'r berthynas yn gyfrinach. Mae hyn yn dacteg i'ch ynysu oddi wrth eich teulu a'ch ffrindiau, a allai adnabod y twyll.
Gall y twyllwr actio’n ofidus neu'n ansicr pan fyddwch chi'n siarad â phobl eraill amdanyn nhw. Efallai y byddan nhw'n gwneud ichi deimlo trueni drostyn nhw neu'n tynnu’ch sylw drwy roi addewidion am ddyfodol gyda'ch gilydd. Efallai y byddan nhw'n actio fel pe baen nhw wedi’u brifo os ydych chi'n eu hamau nhw, a hynny er bod eich amheuon yn rhesymol.
Efallai y byddan nhw'n cyflwyno pobl eraill i helpu'r twyll i ymddangos yn fwy real. Gallai hyn fod yn deulu, cyfreithwyr neu weithwyr meddygol proffesiynol, ond mae hyn hefyd yn rhan o'r twyll.
Os ydych chi'n amau rhywun, soniwch wrth ffrind neu aelod o'r teulu. Weithiau mae'n anodd gweld y gwir pan fyddwch chi mor agos ato, ac mae persbectif rhywun arall yn helpu. Cofiwch fod twyllwyr yn brofiadol ac eisiau ichi deimlo'n ynysig. Efallai y byddan nhw'n ceisio gwneud ichi deimlo'n euog am eich bod chi eisiau dweud wrth rywun.
Peidiwch byth ag anfon arian neu wybodaeth bersonol. Peidiwch byth â buddsoddi arian, trosglwyddo arian ar eu rhan, cymryd benthyciad ar eu rhan, neu anfon cardiau rhodd atyn nhw. Peidiwch ag anfon na derbyn parseli ar eu rhan, hyd yn oed os ydych chi'n gwybod beth sydd ynddyn nhw.
Mae hefyd yn anghyfreithlon i rywun fygwth rhannu lluniau, fideos neu wybodaeth rywiol amdanoch chi oni bai eich bod yn talu arian neu'n gwneud rhywbeth arall nad ydych chi eisiau ei wneud. Darllenwch fwy am flacmel rhywiol a sut y gallwch ei riportio.
Os ydych chi'n amau twyll neu wedi anfon arian at rywun rydych chi’n ei amau erbyn hyn, ffoniwch 159 i siarad â'ch banc. Mae hon yn llinell gymorth genedlaethol ac mae'r rhan fwyaf o fanciau wedi cofrestru arni.
Os cewch chi filiau wedi'u cyfeirio atoch am bethau rydych chi heb eu prynu, efallai fod rhywun yn defnyddio'ch manylion. Rhowch wybod i'ch banc cyn gynted â phosibl.
Gallwch hefyd gysylltu â'ch banc drwy ddefnyddio'r rhif ffôn ar gefn eich cerdyn banc.
Darllenwch ragor am dwyll hunaniaeth. Neu i gael cyngor am gadw'n ddiogel ar-lein, darllenwch ein tudalen seiberdroseddu.
Os ydych chi wedi dioddef twyll, gallwch gael help a chyngor gan Cymorth i Ddioddefwyr. Neu ffoniwch eu Llinell Gymorth 24/7 ar 0808 168 9111. Gallwch gysylltu â nhw p'un a ydych chi wedi riportio'r twyll i'r heddlu ai peidio.
I weld y cymorth sydd ar gael yn eich ardal chi, ewch i Gwybodaeth i ddioddefwyr a Thystion.
Os ydych chi'n ffrind neu'n aelod o deulu dioddefwr posibl, mae gan y Gymdeithas Detio a Darganfod Ar-lein awgrymiadau ar sut i gefnogi.
Mae'n bwysig cofio nad yw twyll rhamant byth yn fai'r dioddefwr.
Os ydych chi, neu rywun rydych chi'n eu nabod, wedi dioddef twyll rhamant, gallwch riportio’r peth.
Neu gallwch riportio'n ddienw ar wefan Crimestoppers neu drwy ffonio 0800 555 111.