Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Dysgwch sut gallwch chi helpu i'w atal a mwy ar yr Adolygiad Achos ymddygiad gwrthgymdeithasol (Sbardun Cymunedol gynt).
Os yw ymddygiad gwrthgymdeithasol yn effeithio ar eich ansawdd bywyd chi, neu'n gwneud ichi boeni am eich diogelwch chi neu ddiogelwch pobl eraill, mae yna bobl a all helpu. Gallwch gysylltu â'r heddlu, Adran Diogelwch Cymunedol eich cyngor lleol neu, os yw'n berthnasol, eich darparwr tai.
Mae gan yr asiantaethau partner hyn rôl i'w chwarae wrth leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol, gan gefnogi'r rhai mwyaf agored i niwed a delio â'r bobl sy'n gyfrifol.
Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ddigwyddiad sy'n syrthio'n fyr o drosedd, lle mae ymddygiad unigolyn neu grŵp yn achosi neu'n debygol o achosi:
Mae'n bwysig cadw cofnodion o ba ymddygiad sy'n digwydd a pha bryd. Peidiwch ag ofni dweud wrth un o'r asiantaethau partner amdano a gofyn am gymorth pan fydd arnoch ei angen. I'ch helpu chi ac eraill:
Mae'r Adolygiad Achos yn grymuso’r rhai sydd wedi dioddef ymddygiad gwrthgymdeithasol yn aml i ofyn am adolygiad o'r camau mae asiantaethau partner wedi'u cymryd i ddatrys eu pryderon. I fod yn gymwys, mae angen ichi:
Mae angen i bob un o’r digwyddiadau fod wedi cael eu riportio o fewn un mis iddynt ddigwydd a rhaid i chi wneud cais am Sbardun Cymunedol o fewn chwe mis i’r digwyddiad diwethaf. Gall y dioddefwr fod yn fusnes, unigolyn neu’n grŵp cymunedol.
Yn ardal Dyfed-Powys ni yw'r pwynt cysylltu unigol ar gyfer y Sbardun Cymunedol.
Gallwch wneud cais ar-lein, drwy anfon neges ebost neu drwy ein ffonio ni ar 101 a gofyn am ffurflen gais y Sbardun Cymunedol.
Gallwch ysgrifennu aton ni hefyd i ofyn am y ffurflen gais:
Y Sbardun Cymunedol
Ganolfan Cymunedau Mwy Diogel
Heddlu Dyfed-Powys
Pencadlys yr Heddlu
Blwch Post 99
Llangynnwr
Caerfyrddin
SA31 2PF
Ar ôl ichi wneud cais, byddwn yn cysylltu â chi i ddweud a ydych chi wedi bodloni'r meini prawf ar gyfer y Sbardun a beth sy'n digwydd nesaf.