Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Os ydych chi neu rywun arall wedi cael anaf, mewn perygl uniongyrchol neu angen cymorth ar unwaith, ffoniwch 999 nawr.
Os oes gennych chi nam ar eich clyw neu ar eich lleferydd, defnyddiwch ein gwasanaeth ffôn testun 18000 neu anfonwch neges destun atom ar 999 os ydych chi wedi cofrestru ymlaen llaw gyda'r gwasanaeth emergencySMS.
Os ydych chi mewn perygl ond nad ydych chi’n gallu siarad ar y ffôn, gallwch ffonio 999, yna dilyn y cyfarwyddiadau hyn.
1. Mynd i rywle diogel |
2. Mynnu sylw meddygol brys, os oes angen |
3. Riportio i'r heddlu |
Does dim ffordd gywir o deimlo nac ymddwyn os ydy rhywun wedi eich sbeicio. Chi sy'n penderfynu beth i’w wneud. Ond dyma rai o’r pethau efallai y byddwch am eu gwneud neu feddwl amdanynt yn gyntaf.
Os ydy rhywun wedi sbeicio eich ffrind, dilynwch y camau uchod iddyn nhw. Arhoswch gyda nhw. Daliwch ati i siarad â nhw nes bydd cymorth meddygol brys yn cyrraedd neu nes byddwch wedi mynd â nhw i rywle diogel.
Mae rhai lleoliadau’n cymryd rhan mewn cynllun o’r enw ‘Ask for Angela’. Gallwch ofyn am Angela wrth y bar os ydych chi’n teimlo’n anniogel, yn agored i niwed neu dan fygythiad ac angen ffordd ddisylw o ofyn am gymorth.
Os ydych chi neu eich ffrind yn teimlo’n sâl, dylech gael sylw meddygol brys a dweud wrthynt fod rhywun wedi eich sbeicio chi neu eich ffrind. Galwch am ambiwlans os bydd y symptomau’n gwaethygu.
Dod o hyd i wasanaethau brys y GIG:
Os ydych chi’n credu bod rhywun wedi eich sbeicio â nodwydd, efallai y byddwch am gael prawf am HIV, hepatitis a heintiau posibl eraill.
Os ydych chi’n credu bod ymosodiad rhywiol wedi digwydd, ewch i’ch canolfan atgyfeirio ymosodiadau rhywiol (SARC) agosaf i gael cymorth a gofal arbenigol.
Dod o hyd i'ch SARC agosaf:
Riportio i’r heddlu cyn gynted â phosibl. Mae rhai cyffuriau’n gadael y corff o fewn 12 awr, felly mae’n bwysig eich bod yn cael prawf cyn gynted â phosibl.
Rydyn ni’n gwybod y gall fod yn frawychus rhoi gwybod am gael eich sbeicio, ond mae’r heddlu yma i’ch helpu. Byddwn yn gwrando arnoch ac yn eich cymryd o ddifrif.
Cyn gynted ag y byddwch yn ddigon da i riportio i’r heddlu, rydyn ni eisiau clywed gennych chi. Mae eich adroddiad yn golygu y gallwn ymchwilio i'r mater a’i atal rhag digwydd i bobl eraill.
Rhagor o wybodaeth am sut mae riportio sbeicio
Os oes tystiolaeth arall o bosibl, byddwn yn gofyn i chi ei diogelu os oes modd.
Gall tystiolaeth gynnwys rhywbeth y gallai’r troseddwr fod wedi’i adael ar ei ôl ar y safle a allai ein helpu i brofi beth ddigwyddodd. Er enghraifft, gwydr neu nodwydd.
Rydyn ni’n deall efallai na fyddwch chi mewn cyflwr addas i feddwl am ddiogelu tystiolaeth. Gall fod yn ddefnyddiol gofyn i ffrind neu aelod o staff, os yw’n bosibl.
Ar ôl i chi riportio digwyddiad sbeicio, efallai y byddwn yn gofyn i chi roi sampl wrin neu sampl gwaed i ni ar gyfer prawf fforensig. Gall hyn ganfod a yw rhywun wedi eich sbeicio. Os ydych chi'n credu bod rhywun wedi ymosod arnoch chi'n rhywiol, gall canolfan atgyfeirio ymosodiadau rhywiol (SARC) wneud y profion fforensig hyn hefyd, yn ogystal â rhoi cymorth arbenigol i chi.
Mae rhai cyffuriau’n gadael y corff o fewn 12 awr neu’n llawer cynt. Mae'n bwysig riportio achos sbeicio i ni cyn gynted â phosibl, fel ein bod yn gallu cymryd sampl y gellid ei ddefnyddio ar gyfer prawf.
Ond mae llawer o gyffuriau eraill yn aros yn y corff am lawer hirach, felly efallai y byddwn yn gallu gwneud prawf hyd at saith diwrnod ar ôl y digwyddiad. Hyd yn oed ar ôl saith diwrnod, efallai y byddwn yn dal i allu ymchwilio a chasglu tystiolaeth.
Os oes rhywun wedi eich sbeicio ag alcohol, mae ffyrdd eraill y gallwn ymchwilio i’r hyn a ddigwyddodd i chi.
Ond er bod profion fforensig yn gallu dweud wrthych chi a ni a yw rhywun wedi eich sbeicio, chi sy’n rheoli pethau. Os nad ydych chi eisiau rhoi sampl gwaed neu wrin ar gyfer profion fforensig, mae hynny'n iawn. Gallwch ddweud wrthym beth ddigwyddodd i chi heb gymryd rhan mewn prawf a'r ymchwiliad.
Rhagor o wybodaeth am gasglu tystiolaeth