Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
1. GIG |
2. Canolfannau atgyfeirio ymysodiadau rhywiol |
3. Sefydliadau cymorth eraill |
4. Prifysgolion |
Os ydy rhywun wedi eich sbeicio, rydyn ni yma i chi. Os ydych chi’n barod, gallwch riportio sbeicio i ni ar-lein.
Ond os nad ydych chi eisiau siarad â ni, neu os oes angen cymorth ychwanegol arnoch, mae llawer o bobl a all helpu.
Chi sy’n rheoli pethau, a chi sy’n penderfynu gyda phwy rydych chi’n siarad a pha help rydych chi’n ei gael.
Eich iechyd a lles ydy’r peth pwysicaf i ni. Os ydych chi’n teimlo’n sâl, dylech gael sylw meddygol brys a dweud wrthynt eich bod yn credu bod rhywun wedi eich sbeicio.
Galwch am ambiwlans os bydd y symptomau’n gwaethygu.
Dod o hyd i wasanaethau brys y GIG:
Dod o hyd i gymorth iechyd meddwl:
Gwybodaeth a chymorth iechyd meddwl
Mae Canolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol (SARC) yn rhywle y gallwch chi fynd ar ôl trais neu ymosodiad rhywiol i gael cymorth meddygol, ymarferol ac emosiynol yn gyfrinachol gan feddygon, nyrsys a gweithwyr cymorth arbenigol.
Gallwn ni eich cyfeirio at SARC neu fe allwch chi gyfeirio eich hun heb ein cynnwys ni o gwbl. Os yw’n well gennych, gallwch ofyn i staff mewn SARC roi gwybod i’r heddlu ynghylch yr hyn a ddigwyddodd i chi ar eich rhan.
Dod o hyd i’ch SARC agosaf:
Elusen annibynnol sy’n helpu dioddefwyr troseddau, eu teuluoedd neu eu ffrindiau.
Gwasanaeth Tystion Cyngor ar Bopeth
Elusen genedlaethol a rhwydwaith o elusennau lleol sy’n cynnig cyngor cyfrinachol am ddim ar-lein, dros y ffôn, ac wyneb yn wyneb.
Os ydych chi’n dyst mewn llys troseddol yng Nghymru neu Loegr, gallwch gael cymorth annibynnol yn rhad ac am ddim gan Wasanaeth Tystion Cyngor ar Bopeth. Does dim ots i bwy rydych chi’n dyst, gallwch gael cymorth.
Gwybodaeth i ddioddefwyr a thystion
Gwefan sy’n helpu dioddefwyr a thystion troseddau yng Nghymru a Lloegr. Mae’n cynnwys gwybodaeth am yr hyn sy’n digwydd ar ôl rhoi gwybod am drosedd, y bobl y gallech chi eu cyfarfod, y cymorth y dylech chi ei gael a sut i gwyno os bydd rhywbeth yn mynd o’i le.
Mae cymdeithasu yn rhan bwysig o fywyd myfyriwr, ac fe ddylai pawb allu mwynhau mynd allan gyda’u ffrindiau a theimlo'n ddiogel wrth wneud hynny.
Mae gan lawer o brifysgolion fentrau a gweithdrefnau ar waith yn ymwneud â sbeicio ar y campws, mewn bariau myfyrwyr ac mewn lleoliadau eraill sy'n boblogaidd ymysg myfyrwyr.
Mae gwefan eich prifysgol neu undeb myfyrwyr yn debygol o gynnwys cyngor a gwybodaeth ynghylch sbeicio, gan gynnwys gwasanaethau cymorth a lles ar gyfer dioddefwyr a thystion sbeicio. Neu gallwch gysylltu â chynghorydd myfyrwyr i gael rhagor o wybodaeth.