Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ar y dudalen hon:
Mae llawer o fythau cyffredin am sbeicio. Efallai y byddant yn gwneud i chi feio eich hun neu gwestiynu a yw’r hyn sydd wedi digwydd yn drosedd.
Nid oes lle i’r mythau hyn yn y gyfraith. Dydyn ni ddim yn eu credu ac ni fyddwn yn eich amau o’u herwydd. Dim ots pwy ydych chi na beth ddigwyddodd, rydyn ni yma i’ch cefnogi chi.
Does dim bai arnoch chi ac mae'n dal i fod yn fath o sbeicio ni waeth:
Ystyrir yn aml fod sbeicio yn rhywbeth sy’n cael ei wneud gan ddieithryn neu rywun rydych chi wedi cwrdd â nhw ar noson allan. Y gwir ydi bod rhai pobl sy’n cyflawni troseddau sbeicio yn adnabod eu dioddefwyr. Mewn rhai achosion, maen nhw’n berthnasau, yn ffrindiau neu’n gydweithwyr.
Er bod modd cysylltu sbeicio â throseddau eraill, fel ymosodiad rhywiol neu ladrad, dydy hyn ddim yn wir am gyfran fawr o achosion.
Weithiau mae troseddwyr yn sbeicio fel jôc (‘pranciau sbeicio’) neu i gael gweld beth sy’n digwydd. Ond gall sbeicio fod yn brofiad dychrynllyd. Gall adael dioddefwyr â phryder parhaol, yn enwedig mewn clybiau, bariau a lleoliadau eraill.
Ac mae sbeicio bob amser yn drosedd, hyd yn oed os nad oes unrhyw beth arall yn digwydd neu os bydd ymgais i ddwyn neu ymosod yn methu.
Mae llawer o ddioddefwyr yn credu’n anghywir nad oes diben riportio sbeicio ar ei ben ei hun. Ond gall sbeicio achosi trawma i ddioddefwyr am amser hir. Hoffem wybod am unrhyw ddigwyddiadau sbeicio, fel bod modd i ni gymryd camau i'w atal rhag digwydd eto.
Gall unrhyw un gael ei sbeicio mewn unrhyw le – ni waeth beth fo’i oedran, ei ryw, ei rywioldeb neu ei ethnigrwydd.
Er mai menywod a genethod oedd y dioddefwyr yn y rhan fwyaf o achosion o sbeicio, mae dynion yn cael eu sbeicio hefyd.
Gall fod yn anodd dweud a gafodd rhywun ei sbeicio neu ormod i'w yfed. Serch hynny, mae’n bwysig gwneud yn siŵr eu bod yn ddiogel. Os oes angen cymorth meddygol brys arnynt, galwch am ambiwlans neu ewch â nhw i’r ysbyty.
O ran faint o alcohol gafodd y dioddefwr, mae hynny’n amherthnasol gan mwyaf. Fyddwn ni ddim yn barnu dioddefwyr am yfed alcohol o’u gwirfodd. Mae’n dal yn bosibl fod rhywun wedi rhoi mwy o alcohol iddynt nag yr oedden nhw’n ei ddisgwyl. Er enghraifft, drwy roi siot ddwbl iddyn nhw yn lle siot sengl.
Mae hefyd yn wir fod hyd yn oed ychydig bach o alcohol yn gallu gwneud i chi deimlo fel bod rhywun wedi eich sbeicio. Gall eich corff ymateb yn wahanol i ychydig bach o alcohol, er enghraifft yn dibynnu a ydych chi wedi cael unrhyw beth i’w fwyta neu os ydych chi wedi blino.
Ond mae sbeicio’n digwydd ni waeth a oedd y dioddefwr wedi yfed mymryn o'i wirfodd neu wedi cymryd cyffuriau anghyfreithlon ar noson allan – neu ddim o gwbl. Dydy’r dioddefwr byth ar fai.
Mae sbeicio â nodwydd yn anghyffredin. Mae bron yn amhosibl chwistrellu cyffuriau i mewn i gorff rhywun heb iddo ef/hi sylwi. Byddai’n cymryd llawer mwy na phigiad cyflym i chwistrellu digon i effeithio ar y dioddefwr.
Dydy hynny ddim yn golygu nad yw sbeicio â nodwydd yn digwydd. Rydyn ni eisiau clywed am unrhyw ddigwyddiadau yn ymwneud â sbeicio â nodwydd. Gallwn roi’r gefnogaeth sydd ei hangen ar y dioddefwr, diogelu eraill a chael gwell syniad o nifer y digwyddiadau sbeicio â nodwydd.
Os yw rhywun wedi sbeicio eich diod, mae’n annhebygol y byddwch yn gallu arogli, blasu neu weld unrhyw wahaniaeth. Ond mae rhai cyffuriau’n gwneud i ddiod flasu’n fwy hallt neu bydd mymryn o oglau arno.
Os yw eich diod yn blasu’n wahanol i sut yr oedd yn flaenorol, mae’n bosibl bod rhywun wedi’i sbeicio. Os ydych chi’n sylwi ar flas hallt neu chwerw ar eich diod, mae’n bosibl bod rhywun wedi ychwanegu cyffuriau. Os yw eich diod yn blasu’n rhyfedd, peidiwch â’i yfed. Dywedwch wrth aelod o staff.
Os ydych chi’n teimlo’n sâl ac yn credu bod rhywun wedi eich sbeicio, dylech ddweud wrth y staff yn y bar, y clwb neu’r lleoliad arall lle rydych chi.
Rydyn ni’n gweithio gyda bariau, clybiau a lleoliadau eraill i hyfforddi staff i adnabod symptomau sbeicio. Mae hyn yn eu helpu i gefnogi dioddefwyr sbeicio yn well.
Mae eich adroddiad yn ein helpu i ganfod lleoliadau a allai fod angen mwy o gymorth i atal sbeicio.
Nod cynlluniau amrywiol yw codi safonau bariau, clybiau a lleoliadau eraill. Mae hyn yn cynnwys gwella’r ymateb i ddigwyddiadau sbeicio.
Weithiau mae ‘cyffuriau treisio ar ddêt’ yn cael eu defnyddio i sbeicio diod dioddefwr. Gall fod yn unrhyw gyffur sy’n analluogi dioddefwr. Mae hyn yn golygu eu bod yn agored i ymosodiad rhywiol, er enghraifft.
Ond gellir defnyddio llawer o gyffuriau eraill i sbeicio rhywun. Gall ein prawf fforensig ganfod dros gan math o gyffur, gan gynnwys y rhai y mae rhai pobl yn eu cymryd o’u gwirfodd fel ‘cyffuriau adloniadol’. Fyddwn ni ddim yn eich barnu os oeddech chi wedi cymryd cyffuriau anghyfreithlon cyn i rywun eich sbeicio, ond mae'n ein helpu os ydych chi’n dweud hynny wrthym fel ein bod yn gallu canfod pa gyffuriau a allai fod wedi cael eu defnyddio i'ch sbeicio.
Gellid defnyddio alcohol mewn ymgais i’ch gwneud yn fwy agored i ymosodiad rhywiol. Gall sbeicio gynnwys rhoi alcohol i rywun heb iddynt wybod neu roi mwy o alcohol iddynt nag yr oedden nhw’n ei ddisgwyl.
Rydyn ni’n deall efallai eich bod wedi cael ychydig i’w yfed neu wedi cymryd cyffuriau anghyfreithlon o’ch gwirfodd ar noson allan. Fyddwn ni ddim yn eich beirniadu ac ni fyddwn yn eich chwilio. Nid yw’n anghyfreithlon cael cyffuriau yn eich llif gwaed oni bai eich bod wedi bod yn gyrru.
Byddwn yn gofyn i chi ddweud wrthym pa gyffuriau rydych chi wedi’u cymryd o’ch gwirfodd. Mae hyn yn ein helpu i ganfod pa gyffuriau allai fod wedi cael eu defnyddio i’ch sbeicio. Ond os nad ydych chi eisiau dweud wrthym, mae hynny'n iawn.
Mae’n bosibl y bydd dioddefwyr sbeicio yn amharod i'w riportio. Gallai hynny fod oherwydd eu bod yn teimlo nad oes tystiolaeth. Maen nhw’n credu’n anghywir na fydd yr heddlu’n ymchwilio i’r mater. Neu eu bod wedi’i gadael yn rhy hwyr i riportio. O ganlyniad, rydyn ni’n credu bod llawer o ddioddefwyr heb ddod ymlaen i ofyn am gymorth a chefnogaeth.
Gallwch riportio i'r heddlu am sbeicio ar-lein. Rydyn ni eisiau clywed am unrhyw ddigwyddiad yn ymwneud â sbeicio. Does dim ots faint o amser sydd wedi mynd heibio ers y digwyddodd, hyd yn oed os oes wythnosau, misoedd neu flynyddoedd.
Mae eich adroddiad yn bwysig i ni. Rydyn ni’n hyfforddi ein swyddogion i ddeall a chefnogi dioddefwyr y drosedd ofnadwy hon, ac rydyn ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i ddod o hyd i’r unigolion sy’n gyfrifol.
Os byddwch chi’n riportio sbeicio, rydych chi hefyd yn ein helpu i gael gwell syniad o nifer y digwyddiadau sbeicio.