Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Os ydych chi neu rywun arall wedi cael anaf, mewn perygl uniongyrchol neu os oes arnoch chi angen cymorth ar unwaith, ffoniwch 999 nawr.
Os oes gennych chi nam ar eich clyw neu eich lleferydd, defnyddiwch ein gwasanaeth ffôn testun 18000 neu anfonwch neges destun aton ni ar 999 os ydych chi wedi cofrestru ymlaen llaw gyda'r gwasanaeth SMSbrys.
Os ydych chi mewn perygl ond yn methu siarad ar y ffôn, gallwch ffonio 999, wedyn dilyn y cyfarwyddiadau hyn.
1. Beth yw sbeicio? |
2. Mathau o sbeicio |
3. Sut i ddweud a oes rhywun wedi'ch sbeicio chi |
4. Sbeicio a'r gyfraith |
5. Riportio sbeicio |
6. Riportio ymgais i sbeicio |
7. Nid chi sydd ar fai |
Sbeicio yw rhoi alcohol neu gyffuriau i rywun heb iddyn nhw wybod na chytuno. Er enghraifft, yn eu diod neu â nodwydd.
Gall sbeicio ddigwydd i unrhyw un unrhyw le - waeth beth fo'u hoedran, eu rhywedd, eu rhywioldeb neu eu hethnigrwydd. Gall sbeicio gael ei wneud gan ddieithriaid neu bobl rydych chi'n eu nabod.
Rhagor o wybodaeth am sut i riportio sbeicio
Fydd y rhan fwyaf o achosion o sbeicio ddim yn arwain at ymosodiad rhywiol neu ladrad. Ond mae sbeicio’n gallu peri trallod difrifol, niwed emosiynol a phryder. Gall gymryd amser hir i wella ar ôl i rywun eich sbeicio.
Gall sbeicio olygu eich bod yn wynebu mwy o risg o anaf, lladrad neu ymosodiad. Mae hefyd yn beryglus gyrru pan fydd rhywun wedi’ch sbeicio. Dyma pam rydyn ni’n trin adroddiadau am sbeicio yr un mor ddifrifol ag adroddiadau am ymosodiadau corfforol treisgar.
Sbeicio yw rhoi alcohol neu gyffuriau i rywun heb iddyn nhw wybod na chytuno. Er enghraifft:
Mae rhoi mwy o alcohol neu gyffuriau i rywun nag oedden nhw’n ei ddisgwyl a heb eu cydsyniad nhw hefyd yn sbeicio. Er enghraifft, rhoi siot ddwbl i rywun yn hytrach na siot sengl.
Mae'n synhwyrol peidio â derbyn diod gan ddieithryn neu adael eich diod heb neb i ofalu amdani. Ond weithiau mae pobl yn cael eu sbeicio gan bobl maen nhw'n eu nabod ac yn ymddiried ynddyn nhw hefyd.
Gall fod yn anodd gwybod a oes rhywun wedi’ch sbeicio. Mae'r symptomau'n amrywio gan ddibynnu beth mae rhywun wedi’i ddefnyddio i’ch sbeicio. Gall y symptomau fod yn debyg i yfed gormod o alcohol. Os dechreuwch chi deimlo'n rhyfedd neu'n fwy meddw nag oeddech chi'n meddwl y dylech chi fod, gofynnwch am help ar unwaith. Os ydych chi'n teimlo'n ddifrifol wael, ffoniwch 999 neu gofynnwch i rywun gael cymorth meddygol brys ichi.
Does dim ffordd gywir nac anghywir o deimlo. Mae rhai dioddefwyr angen cymorth meddygol brys, ond dyw eraill ddim. Beth bynnag yw’ch sefyllfa chi, rydyn ni yma i chi.
Rhagor o wybodaeth am sut gall sbeicio wneud ichi deimlo
Mae sbeicio’n anghyfreithlon ac mae yna ddedfryd o hyd at ddeng mlynedd yn y carchar. Os oes lladrad, ymosodiad rhywiol neu drosedd arall wedi bod hefyd, gall y ddedfryd fod hyd yn oed yn hirach.
Mae troseddau sbeicio yn dod o dan fwy nag un gyfraith. Mae'r rhan fwyaf o achosion o sbeicio yn droseddau o dan Ddeddf Troseddau yn Erbyn y Person 1861. Mae hyn yn cynnwys defnyddio sylweddau niweidiol. Deddf Troseddau Rhywiol 2003 sy’n ymdrin ag achosion lle mae rhywun yn sbeicio dioddefwr er mwyn ymosod arnyn nhw’n rhywiol.
Mae sbeicio’n drosedd sy’n creu effaith fawr ac sydd – yn briodol ddigon – yn cael llawer o gyhoeddusrwydd. Mae'n debyg bod y siawns y bydd rhywun yn eich sbeicio ar noson allan neu mewn gŵyl yn isel. Ond nid pob dioddefwr sy’n riportio sbeicio i'r heddlu. Oherwydd hyn allwn ni ddim bod yn siŵr faint o ddioddefwyr sydd yna mewn gwirionedd.
Fe hoffen ni wybod am unrhyw ddigwyddiad sbeicio, waeth pa mor bell yn ôl y digwyddodd. Ein prif gonsýrn ni yw sicrhau bod y dioddefwr yn cael y cymorth angenrheidiol. Unwaith y bydd y dioddefwr yn ddigon iach, rydyn ni yma i gefnogi ac i ymchwilio i beth ddigwyddodd.
Drwy riportio sbeicio rydych chi’n ein galluogi i lansio'r ymchwiliad yma ac atal pobl eraill rhag cael eu sbeicio. Ond hyd yn oed os oes rhywun wedi’ch sbeicio chi fwy na saith diwrnod yn ôl, mae hefyd yn ein helpu i greu darlun gwell o faint o sbeicio sy'n mynd ymlaen mewn gwirionedd a ble, hyd yn oed os na fyddwn ni bob amser yn gallu nabod a chanfod y person wnaeth eich sbeicio.
Rhagor o wybodaeth am sut i riportio sbeicio
Mae rhai cyffuriau’n gadael y corff o fewn 12 awr neu'n llawer cynt. Os byddwch yn riportio inni cyn gynted â phosibl, gallwn ni gymryd sampl a allai gael ei defnyddio i gael ei phrofi.
Mae cyffuriau eraill yn aros yn y corff yn hirach, felly mae’n bosibl y gallwn ni eich profi hyd at saith diwrnod ar ôl y digwyddiad. Ond os oes rhywun wedi’ch sbeicio fwy na saith diwrnod yn ôl, fe fydden ni’n dal yn hoffi ichi riportio’r peth. Efallai y byddwn yn dal yn gallu ymchwilio a chasglu tystiolaeth.
Os oes rhywun wedi’ch sbeicio ag alcohol, mae yna ffyrdd eraill inni ymchwilio i beth ddigwyddodd i chi.
Gallwch ddweud wrthon ni am sbeicio hyd yn oed os nad ydych chi am fynd drwy brofion fforensig ac ymchwiliad.
Os nad ydych chi’n siŵr a ydych chi’n barod i riportio sbeicio, rydyn ni wedi llunio gwybodaeth a allai'ch helpu i benderfynu ai riportio yw'r peth cywir i chi.
Gallwch riportio ymgais i sbeicio inni, lle cafodd yr ymgais i sbeicio ei rwystro cyn i unrhyw un ddioddef. Er enghraifft:
Os bydd unrhyw un yn cael ei weld â chyffuriau anghyfreithlon allai gael eu defnyddio i sbeicio rhywun, gallwch riportio'r peth.
Os byddwch chi’n sylwi bod rhywun yn ymddwyn yn amheus o amgylch grŵp a’i bod hi’n amlwg nad ydyn nhw’n nabod y grŵp, gallwch ddweud wrth y staff diogelwch neu aelod o staff. Gallwch hefyd ein ffonio ni ar 999 mewn argyfwng neu riportio'r peth i roi gwybodaeth inni am rywun allai fod yn ceisio sbeicio pobl.
Weithiau mae ofn ar bobl siarad â'r heddlu, er enghraifft am eu bod nhw wedi bod yn cymryd cyffuriau anghyfreithlon neu'n yfed alcohol cyn i rywun eu sbeicio. Weithiau fyddan nhw ddim yn cofio fawr ddim am beth ddigwyddodd. Efallai fod ganddyn nhw hanes troseddol a’u bod nhw'n poeni na fydd yr awdurdodau'n eu trin nhw’n deg. Efallai eu bod yn poeni na fydd neb yn eu credu.
Does dim ots pwy ydych chi, pa mor bell yn ôl y digwyddodd y sbeicio neu beth ddigwyddodd, ein prif gonsýrn ni yw rhoi'r gefnogaeth mae arnoch chi ei hangen. Rydyn ni’n gwrando, yn deall ac yn eich arwain drwy'r broses ymchwilio.