Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dwyn peiriannau trwm yn broblem sylweddol a gall weithiau fod yn gysylltiedig â throseddu trefnedig.
Mae’r lladradau hyn yn aml ar ffermydd, coetir a lleoliadau gwledig domestig yn ogystal â safleoedd adeiladu, ac maen nhw’n amrywio o beiriannau torri gwair y gallwch eistedd arnyn nhw a beiciau cwad hyd at beiriannau mawr iawn ar safleoedd adeiladu.
Os yw’r lladrad wedi digwydd yn barod, galwch yr heddlu cyn gynted â phosibl gyda chymaint o fanylion ag y gallwch. Ffoniwch 999 os yw’n digwydd ar hyn o bryd. Os yw wedi digwydd yn barod, riportiwch hynny ar-lein.
Mae peiriannau sy’n cael eu dwyn yn cael eu hychwanegu at gronfa ddata genedlaethol sy’n cael ei monitro gan swyddogion heddlu arbenigol.
Mae cryn dipyn y gallwch ei wneud i atal lladron, atal eich eiddo rhag cael ei gymryd a'i ddychwelyd yn ddiogel os ydyw.
Gallwch ddiogelu eich eiddo drwy ddefnyddio:
Dylech ystyried gosod teclyn olrhain ar beiriannau a cherbydau a/neu system dagio.
Mae eitemau fel beiciau cwad, peiriannau torri gwair y gallwch eistedd arnyn nhw a pheiriannau palu yn apelgar iawn i ladron. Dylech ystyried gwneud yr eitemau hyn yn anodd i’w symud drwy:
Dylech gloi neu lonyddu cerbydau ac offer pan nad ydyn nhw’n cael eu defnyddio. Tynnwch yr allweddi o geir, tractors ac unrhyw gerbydau eraill rydych chi'n eu gadael heb oruchwyliaeth
Os ydych yn defnyddio cwmni olrhain, rhaid i chi gysylltu â'r heddlu o hyd i greu rhif adroddiad trosedd.
Gan amlaf (ond ddim wastad) mae’r rhif adroddiad trosedd yn cynnwys saith digid a dyddiad heddiw. Bydd y cwmni olrhain angen hwn er mwyn galw am gymorth yr heddlu.
Gallwch roi unrhyw fath o farc ar eich eiddo i'w wneud yn unigryw ac felly byddwch chi wastad yn gwybod pa eitem sy'n eiddo i chi.
Un opsiwn yw ei farcio gyda rhif eich cyfeiriad a’ch cod post i ddilyn, ee 63 WR6 2BB.
Mae'r rhan fwyaf o sefydliadau yn cydnabod codau post, fel y gallan nhw adnabod eich eiddo a'i ddychwelyd i chi. Os mai dim ond enw neu symbol rydych chi'n ei farcio, nid yw'n dweud wrth yr heddlu pwy sy'n berchen arno nac o ble y daeth.
Cofiwch farcio a chofnodi atodiadau peiriannau fel driliau, bwcedi ac erydr.
Gwnewch restr o’ch eitemau gwerthfawr, sy’n rhoi manylion:
Cymerwch luniau o’ch holl eitemau gwerthfawr a nodwch unrhyw farciau unigryw, gan gynnwys ble a sut y gwnaethoch eu marcio.
I ddiogelu eich lluniau, gallwch:
Drwy gadw’r cofnodion hyn, os yw eich eiddo yn cael eu dwyn, bydd gennych gymaint o wybodaeth â phosibl i'w rhoi i'r heddlu a’i throsglwyddo i fanwerthwyr a sefydliadau eraill i helpu i ddod o hyd i'ch eiddo.
Ffoniwch yr heddlu cyn gynted â phosibl, gyda chymaint o fanylion ag y gallwch. Ffoniwch 999 os yw’n digwydd nawr. Riportiwch ar-lein os yw wedi digwydd yn barod.
O ran yr hyn sydd wedi’i ddwyn, ceisiwch gael y manylion canlynol yn barod:
Gofynnir i chi hefyd:
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw cofnod o gyfeirnod y drosedd; bydd ei angen ar:
Diogelu Drwy Ddylunio – prosiectau’r heddlu sy’n canolbwyntio ar gynlluniau diogelwch eiddo
Datatag – y system farcio fforensig sy’n cael ei chefnogi gan yr heddlu
Cynllun CESAR – cynllun offer a chofrestru swyddogol ar gyfer adeiladu ac amaethyddiaeth
Crimestoppers – riportio troseddau yn ddienw
Action Fraud – cyngor ar atal twyll a riportio