Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae troseddau gwledig yn broblem i rannau mawr o’r wlad, ond mae pobl yn dueddol o beidio â’u riportio. Gall effeithio ar bremiymau yswiriant, prisiau bwyd a niweidio cymunedau lleol.
Gall fod yn anodd gwybod os yw’n drosedd neu beidio ac a ddylid cysylltu â'r heddlu neu elusen neu sefydliad arall.
Mae troseddau gwledig yn dueddol o berthyn i un o bedwar categori:
Gall hefyd fod yn drosedd amgylchedd, sy’n cwmpasu dympio gwastraff anghyfreithlon, tipio anghyfreithlon, llygru cyrsiau dŵr a thir.
Mae troseddau amaethyddol yn cynnwys ffermydd gweithredol, peiriannau fferm ac adeiladau fferm a thyddynnod. Mae troseddau’n cynnwys dwyn offer neu danwydd, niweidio eiddo a phoeni da byw.
Mae troseddau ceffylau yn cynnwys stablau sy’n weithredol a chanolfannau ceffylau, ac yn cynnwys troseddau fel dwyn cyfarpar a phoeni da byw.
Mae troseddau bywyd gwyllt yn cynnwys hela sgwarnogod, potsio ac ymyrryd â rhywogaethau gwarchodedig. Gallwch ddod o hyd i fwy am droseddau bywyd gwyllt ar ein tudalennau troseddau bywyd gwyllt.
Mae troseddau treftadaeth yn cael eu disgrifio fel ‘unrhyw drosedd sy’n niweidio gwerth asedau treftadaeth Prydain a’u safleoedd ar gyfer y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau’r dyfodol’.
Gall hynny gynnwys troseddau fel dwyn plwm o eglwysi, difrod i henebion a chwilio am fetel yn anghyfreithlon.
Os ydych chi'n credu bod trosedd wedi ei chyflawni, neu ar fin cael ei chyflawni, rhowch wybod i ni. Gallwch riportio trosedd ar-lein.
Os nad ydych yn siŵr os yw’n drosedd ai peidio, byddai'n well gennym glywed wrthych a dod i benderfyniad ein hunain.
Gallwch ddefnyddio ein cynlluniau gwarchod i dderbyn a riportio gwybodaeth am droseddau yn eich ardal leol.