Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Trosedd bywyd gwyllt yw unrhyw weithgaredd sy'n groes i’r ddeddfwriaeth sy'n amddiffyn anifeiliaid a phlanhigion gwyllt y Deyrnas Unedig. Gall achosi poen a dioddefaint i anifeiliaid, gwthio rhywogaethau yn nes at ddifodiant a gall fod yn gysylltiedig â throseddau difrifol eraill fel troseddau arfau tanio a throseddu cyfundrefnol.
Mae’r gyfraith bywyd gwyllt yn gymhleth a gall fod yn anodd gwybod a yw rhywbeth yn drosedd ac a ddylech chi gynnwys yr heddlu, neu pryd i wneud hynny.
Os ydych yn credu bod trosedd bywyd gwyllt yn cael ei chyflawni cysylltwch â ni drwy riportio’r drosedd ar-lein.
Os oes trosedd wrthi’n digwydd neu os oes rhywun mewn perygl, ffoniwch 999. Os oes gennych nam ar eich clyw neu’ch lleferydd, defnyddiwch ein gwasanaeth ffôn testun ar 18000 neu anfonwch neges destun at 999 os ydych wedi cofrestru ymlaen llaw gyda’r gwasanaeth SMSbrys.
Byddai'n well gennym pe byddech yn cysylltu â ni er mwyn i ni ymchwilio, na pheidio â chlywed wrthych.
Gallwch hefyd riportio troseddau bywyd gwyllt drwy alw Crimestoppers yn ddienw, ffoniwch 0800 555 111.
Mae taro anifail gwyllt yn fwriadol yn drosedd o dan Ddeddf Mamaliaid Gwyllt (Amddiffyn).
Os dewch chi ar draws anifeiliaid yn rhydd ar y ffordd a bod perygl i draffig, ffoniwch 999. Os oes gennych nam ar eich clyw neu’ch lleferydd, defnyddiwch ein gwasanaeth ffôn testun ar 18000 neu anfonwch neges destun at 999 os ydych wedi cofrestru ymlaen llaw gyda’r gwasanaeth SMSbrys.
Rhaid ichi ddweud wrth yr heddlu ar unwaith os byddwch chi'n taro:
Dylech chi ddweud wrth yr heddlu hefyd os byddwch chi’n taro carw.
Ffoniwch 999 os oes rhywun wedi’i anafu neu os yw'r anifail ar y ffordd.
Ffoniwch 101 os nad oes perygl. Os oes gennych chi nam ar eich clyw neu eich lleferydd, defnyddiwch ein gwasanaeth ffôn testun ar 18001 101.
Os byddwch chi’n taro ac yn lladd anifail gwyllt, rhaid ichi ei adael yn ddiogel wrth ochr y ffordd a rhoi gwybod i’r cyngor lleol er mwyn iddyn nhw waredu’r gweddillion Mae rhai anifeiliaid gwyllt wedi’u hamddiffyn ac mae'n drosedd bod ag un yn eich meddiant, byw neu farw.
Os byddwch yn taro ac yn anafu anifail gwyllt ac na allwch fynd ag ef at filfeddyg ar unwaith neu'n ddiogel, mae angen ichi gysylltu â ni ar 101, gan fod caniatáu i anifail gwyllt ddioddef yn drosedd. Os oes gennych chi nam ar eich clyw neu eich lleferydd, defnyddiwch ein gwasanaeth ffôn testun ar 18001 101.
Rydym yn gweithio gyda’r RSPCA i archwilio creulondeb i anifeiliaid. I riportio creulondeb, esgeulustod neu gamdriniaeth, gallwch fynd i wefan yr RSPCA neu ffonio 0300 1234 999 (llinellau ar agor 24 awr y dydd).
Mae dwyn da byw yn drosedd a rhaid riportio'r peth i ni. Gallwch wneud hynny drwy riportio trosedd ar-lein.
Rhaid i ddigwyddiadau sy'n cynnwys cŵn, naill ai ci sydd allan o reolaeth mewn man cyhoeddus, brîd o gi sydd wedi'i wahardd neu ymladd cŵn, gael eu riportio i ni ar-lein.