Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae bygythiad terfysgaeth yn y DU yn un gwirioneddol, ond gydag ychydig o wybodaeth gallwch wella eich diogelwch a helpu i warchod eich hun rhag ymosodiad terfysgol. Isod fe welwch sut i gadw’n ddiogel pan fyddwch yn mynd o amgylch y lle a sut i riportio am unrhyw ymddygiad amheus a allai fod yn gysylltiedig â therfysgaeth.
Noder: Cynhyrchwyd y fideo hwn gan yr Heddlu Gwrthderfysgaeth ac mae yn Saesneg yn unig. Gweler y trawsgrifiad am gyfieithiad Cymraeg.
Cymunedau sy’n trechu terfysgaeth. Rydym angen cymorth a chefnogaeth unigolion, busnesau a chymunedau ledled y DU i fod yn wyliadwrus a chadw’r mannau yr ydym yn byw, gweithio a chymdeithasu ynddynt yn ddiogel.
Os byddwch yn gweld neu’n clywed rhywbeth annisgwyl neu amheus, gwrandewch ar eich greddf a gweithredwch (ACT - Action Counters Terrorism) drwy riportio am weithgarwch terfysgol posibl yn gyfrinachol. Gallai unrhyw ddarn o wybodaeth fod yn bwysig, felly mae’n well bod yn saff ac riportio am unrhyw beth yr ydych yn ei weld. Gallwch helpu’r heddlu i atal terfysgaeth ac arbed bywydau.
Rhai enghreifftiau o leoliadau a allai fod yn dargedau posibl ar gyfer terfysgwyr yw mannau poblog, digwyddiadau, trafnidiaeth gyhoeddus a lleoliadau eiconig ar draws y wlad.
Rydych yn gyfarwydd â’ch gweithle a’r ardal o’i gwmpas, felly rydych mewn sefyllfa ddelfrydol i weld os oes rhywbeth o’i le. Yn y cyfnod hwn mae’n hollbwysig aros yn wyliadwrus, gwrando ar eich greddf ac riportio am weithgarwch terfysgol posibl wrth yr heddlu.
Cadwch lygad am unrhyw beth sy’n edrych yn wahanol i’r arfer, megis:
Os ydych wedi bod yn dyst i unrhyw un o’r sefyllfaoedd uchod, gwrandewch ar eich greddf ac riportiwch amdano, yn gyfrinachol, gan ddefnyddio ein hofferyn ar-lein i riportio am weithgarwch terfysgol posibl neu ffoniwch y llinell frys gwrthderfysgaeth ar 0800 789 321. Bydd ein swyddogion sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig yn delio â’r mater wedi hynny.
Mae Plismona Gwrthderfysgaeth yn cynghori tri cham allweddol i aros yn ddiogel yn ystod ymosodiad â drylliau neu arfau. Rhedeg Cuddio Dweud.
Mae’r cyngor hwn yn gweithio mewn llawer o wahanol leoedd a sefyllfaoedd. Gwyddom o astudiaethau achos a thystiolaeth pobl sydd wedi goroesi ymosodiadau y gall y cyngor hwn achub bywydau.
Os bydd ymosodiad â drylliau neu arfau:
Mae’r fideo hwn gan Plismona Gwrthderfysgaeth yn dangos y tri cham allweddol i’ch helpu i aros yn ddiogel yn ystod ymosodiad â drylliau neu arfau.
Os bydd ymosodiad â drylliau neu arfau:
Rhedwch, Cuddiwch, Dywedwch
Rhedeg, Cuddio, Dweud
Gweithredu yn Erbyn Terfysgaeth
Mae'r canllaw Guide Shelter Report (GSR) ar ProtectUK yn rhoi cyngor diogelwch i fusnesau, perchnogion safleoedd a staff ar beth i’w wneud os bydd ymosodiad terfysgol.
Gallwch hefyd ddysgu mwy am amddiffyn eich busnes neu eiddo cyhoeddus rhag terfysgaeth.