Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae nifer o gamau y gallwch eu cymryd i amddiffyn eich gweithwyr a’ch busnes rhag bygythiad terfysgaeth.
Yn gyntaf, mae’n werth gofyn i’ch staff ac unrhyw rai eraill sy’n defnyddio’ch safle i ymgyfarwyddo â’n cyngor ar Gadw'n ddiogel rhag terfysgaeth.
Yn ail, darllenwch y canllaw Guide Shelter Report (GSR) ar ProtectUK. Mae’r canllaw hwn yn esbonio i fusnesau, sefydliadau a staff beth i’w wneud os bydd ymosodiad terfysgol. Mae’n egluro egwyddorion GSR, yn dangos sut y gallant weithio mewn sefyllfaoedd go iawn, ac yn rhoi cyngor ar sut i’w hymgorffori yn eich busnes neu sefydliad.
Yn drydydd, gallwch ddarllen canllaw lleoliadau hygyrch i'r cyhoedd gan Protect UK. Mae’n dweud wrthych, ymhlith pethau eraill, am reoli risg, parhad busnes, cyfathrebu a sut i ddelio â bygythiadau bom. Darllenwch hefyd y Also read cyngor i reolwyr diogelwch yn ystod lefel bygythiad uwch er mwyn gwella gweithdrefnau diogelwch eich busnes.
Fe all fod angen ichi gymryd camau ychwanegol i ddiogelu rhag ymosodiadau terfysgol os ydych chi'n rheoli mangreoedd neu ddigwyddiadau penodol. Mae'r rhain wedi'u nodi o dan Ddeddf Terfysgaeth (Diogelu Mangreoedd) 2025, sydd hefyd yn cael ei nabod fel Cyfraith Martyn.
Yn olaf, gallwch chi a’ch staff gwblhau pecyn e-ddysgu Ymwybyddiaeth ACT a hefyd gysylltu â’ch cynghorydd diogelwch gwrthderfysgaeth lleol i gael cyngor arbenigol wedi’i deilwra ar gyfer eich busnes. Gallwch gael rhagor o wybodaeth a gweld sut i gysylltu isod.
Cynllun cenedlaethol yw Ymwybyddiaeth ACT (Action Counters Terrorism) i ddiogelu adeiladau, ardaloedd busnes a’u cymdogaethau cyffiniol rhag bygythiad terfysgaeth.
Gallwch chi ac aelodau’ch staff gwblhau cwrs e-ddysgu Ymwybyddiaeth ACT, sydd wedi’i gynllunio ar gyfer pob busnes a sefydliad yn y DU gan y Swyddfa Diogelwch Gwrthderfysgaeth Genedlaethol.
Bydd y cwrs yn cymryd llai nag awr i’w gwblhau ac mae’n ymdrin â’r canlynol:
Fel rhan o Ymwybyddiaeth ACT, bydd cynghorwyr diogelwch gwrthderfysgaeth lleol yn gweithio’n agos gyda busnesau, cynrychiolwyr sefydliadau masnach a chyrff proffesiynol ar draws y DU, gan wneud yn siŵr bod eu mesurau a’u cynlluniau diogelwch amddiffynnol yn gyfredol gyda’r cyngor diogelwch gwrthderfysgaeth diweddaraf.
Mae cynghorwyr diogelwch gwrthderfysgaeth wedi cael hyfforddiant arbenigol, cynhwysfawr mewn meysydd megis:
Os hoffech wneud cais am gyngor gan eich cynghorydd diogelwch gwrthderfysgaeth lleol neu holi ynglŷn â rhywbeth arall sy’n ymwneud â diogelu eich busnes rhag terfysgaeth, cliciwch ‘Dechrau’ isod i lenwi ein ffurflen ar-lein gyflym a syml.