Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yma gallwch weld sut i hawlio cerbyd sydd wedi’i atafaelu yn ôl o dan Adran 165A Deddf Traffig y Ffyrdd 1998. Golyga hyn bod gan swyddog sail resymol i gredu nad oedd gan y gyrrwr yswiriant neu nad oedd yn gyrru’n unol â’i drwydded yrru.
Os yw eich cerbyd mewn pownd am reswm arall, ewch i’n tudalen cerbydau wedi'u powndio.
Os rhoddodd y gyrrwr gyfeiriad e-bost i’r swyddog pan atafaelwyd eich cerbyd, bydd hysbysiad atafaelu wedi cael ei anfon i’r cyfeiriad hwnnw. Fe welwch fanylion sut i hawlio eich cerbyd yn ôl, a’r dogfennau adnabod y mae angen i chi eu dangos yn yr orsaf heddlu ar yr hysbysiad atafaelu.
Os na roddodd y gyrrwr gyfeiriad e-bost, byddai’r swyddog wedi dweud wrtho/wrthi i ba orsaf heddlu i fynd a pha ddogfennau adnabod sydd angen eu dangos yno.
Mae gennych saith diwrnod gwaith i fynd i’r orsaf heddlu berthnasol a phrofi pwy ydych chi ac yna gallwch gasglu eich cerbyd o garej y cwmni achub cerbydau.
Gallwch ddod o hyd i fanylion llawn y taliadau statudol y bydd yn rhaid i chi eu talu yn Rheoliadau Symud Ymaith, Storio a Gwaredu Cerbydau (Diwygio) 2023.
Ar gyfer cerbydau a atafaelwyd cyn 6 Ebrill 2023 bydd yn rhaid i chi dalu’r taliadau a restrir yn Rheoliadau (Cadw a Gwaredu Cerbydau Modur a Atafaelir) (Diwygio) 2008 Deddf Traffig Ffyrdd 1988.
Pennir y taliadau hyn gan y llywodraeth, nid yr heddlu, ac maent yn amrywio yn dibynnu ar bwysau a chyflwr y cerbyd.
A fyddech cystal â nodi, mae’r taliadau storio dyddiol yn dechrau o hanner dydd ar y diwrnod wedi i’r cerbyd gael ei atafaelu.
Os yw eich cerbyd dros dair blwydd oed ac nad oes ganddo dystysgrif MOT gyfredol gallwch ond ei yrru ar ffordd gyhoeddus o’r depo adfer i ganolfan brofi MOT. Rhaid i chi:
Os rhoddwyd hysbysiad gwahardd PG9 i’ch cerbyd, os nad yw’n addas ar gyfer y ffordd neu os nad yw’n tanio, bydd angen i chi drefnu i weithredwr achub cerbydau wedi’i yswirio a’i hyfforddi’n llawn ac sydd â’r offer priodol i’w gasglu a chi fydd yn gyfrifol am gost.
Os ydych yn gyrru gyda thrwydded dros dro rhaid i chi ddod â pherson gyda chi, sydd:
Gwnewch yn siŵr bod gennych blatiau D neu L ar y cerbyd.
Dewch â set o allweddi, rhag ofn na adawodd y gyrrwr (os nad chi oedd yn gyrru) yr allweddi yn y cerbyd.
Os nad oes gan eich cerbyd y platiau cofrestru cywir a’ch bod yn bwriadu ei yrru, rhaid i chi roi platiau dilys ar y cerbyd pan fyddwch yn ei gasglu.