Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rhywbeth mae’r heddlu’n ei wneud i atal cerbyd rhag symud er budd cyfiawnder a diogelwch ar y ffyrdd yw llonyddu cerbydau.
Mae gan swyddogion heddlu’r pŵer i lonyddu’ch cerbyd pan maen nhw’n eich stopio. Mae ganddynt y pŵer hefyd i symud y cerbyd, neu ddweud wrthych chi am ei symud fel eu bod nhw’n medru gosod dyfais lonyddu.
Gall cerbydau gael eu llonyddu am nifer o resymau:
Nid yw’r rheoliadau’n berthnasol mewn perthynas â cherbyd os oes bathodyn unigolyn anabl cyfredol neu fathodyn cydnabyddedig cyfredol yn cael ei arddangos ar y cerbyd hwnnw.
Os yw’ch cerbyd wedi’i atafaelu am fod heb yswiriant a/neu drwydded, dylai’r gyrrwr fod wedi derbyn hysbysiad atafaelu ffurflen 3708.
Os yw’ch cerbyd wedi’i bowndio am reswm arall, ewch i’n tudalen Cerbydau Wedi'u Powndio.
Er mwyn cael dyfais lonyddu wedi’i thynnu i ffwrdd:
Rhaid ichi dalu er mwyn cael y ddyfais lonyddu wedi’i thynnu i ffwrdd. Mae’n costio £80 ac mae’n rhaid ichi dalu drwy Iwyfan dalu GOV.UK.
Ar ôl talu, galwch 101 i drefnu bod y ddyfais yn cael ei thynnu i ffwrdd. Bydd angen ichi roi’r cyfeirnod o’r hysbysiad llonyddu.
Cytunir ar ddyddiad ac amser ar gyfer tynnu’r ddyfais lonyddu i ffwrdd. Bydd angen ichi gyflwyno copi digidol neu gopi papur o’r cadarnhad tâl i’r swyddog cyn y gall y ddyfais lonyddu gael ei thynnu i ffwrdd.
Noder: Mae’n anghyfreithlon tynnu dyfais lonyddu i ffwrdd eich hun.
Os nad ydych chi wedi talu’r ffi lonyddu ac adfer y cerbyd o fewn 5 diwrnod, ynghyd ag unrhyw atgyweiriadau gofynnol, ystyrir bod y cerbyd wedi’i adael. Yna, bydd yn cael ei adfer (ei symud ymaith) gan Heddlu Dyfed-Powys.
Mae unrhyw gerbydau sy’n cael eu hadfer gan Heddlu Dyfed-Powys yna’n dod o dan y cynllun adennill cerbydau, lle y mae ffioedd gwahanol yn berthnasol.
Os ydych chi eisiau cwyno am yr heddlu’n llonyddu cerbyd, cewch wneud hynny gan ddefnyddio ein ffurflen gwyno ar-lein.
Cewch gysylltu â ni drwy’r post hefyd.
Adran Safonau Proffesiynol
Pencadlys Heddlu Dyfed-Powys
Llangynnwr
Caerfyrddin
Sir Gaerfyrddin
SA31 2PF
Cyfeiriad postio yn unig yw hwn. Peidiwch â dod i’r swyddfa hon yn bersonol. Os fyddwch chi’n gwneud hyn, ni chewch eich gweld.
Noder: os ydych chi’n bwriadu dadlau yn erbyn y drosedd a arweiniodd at y cerbyd yn cael ei lonyddu, mae’n rhaid ichi dal dalu’r ffi ar gyfer ei ryddhau. Os yw’ch her yn llwyddiannus, byddwn yn trefnu bod y ffi’n cael ei had-dalu.
Mater sifil yw cost ffi lonyddu, sy’n fater ar wahân i’r erlyniad ar gyfer unrhyw droseddau moduro.
Os ydych chi wedi cael eich adrodd am drosedd, bydd yr heddlu wedi cyhoeddi Hysbysiad Cosb Benodedig neu Adnau Ymyl Ffordd ichi. Bydd yr hysbysiad hwnnw’n cynnwys gwybodaeth ynglŷn â sut i wneud cais ar gyfer gwrandawiad llys. Rhaid ichi beidio â cheisio talu unrhyw Hysbysiadau Cosb Benodedig neu Adneuon Ymyl Ffordd drwy’r wefan lonyddu ar y dudalen hon.
Os yw’ch cwyn yn ymwneud â swyddog heddlu neu aelod o staff yr heddlu, cewch wneud cwyn ar-lein, at the Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu or at any orsaf heddlu.