Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 700/2024
Cais:
1. Darparwch y data canlynol (rhifau) mewn perthynas â Gorchmynion Diogelu Rhag Stelcio ar gyfer y cyfnod 01/01/2022 – 31/01/2022 A 01/01/2023 – 31/01/2023 os gwelwch chi’n dda.
Mae yna dri rhif rwy’n gofyn amdanynt.
a) Cyfanswm y ceisiadau Gorchymyn Diogelu Rhag Stelcio (a wnaed i’r llys)
b) Cyfanswm y Gorchmynion Diogelu Rhag Stelcio a ganiatawyd (Gorchmynion Diogelu Rhag Stelcio llawn a gorchmynion Diogelu Rhag Stelcio Dros Dro)
c) Cyfanswm y Gorchmynion Diogelu Rhag Stelcio a wrthodwyd. (Y ddau – Gorchmynion Diogelu Rhag Stelcio llawn a gorchmynion Diogelu Rhag Stelcio Dros Dro)
2. Darparwch y data canlynol (rhifau) ar gyfer y cyfnodau rhwng a chan gynnwys 01/01/2022 – 31/01/2022 A 01/01/2023 – 31/01/2023 yn eich heddlu.
Mae hyn yn cyfeirio at nifer y troseddau stelcio a gofnodwyd a nifer y rhai a orchmynnwyd i ymddangos gerbron llys.
a) Nifer y troseddau stelcio yr adroddwyd amdanynt
b) Nifer yr euogfarnau ar gyfer troseddau stelcio
Cwestiwn Eglurhad:
Eglurhad A:
Ymateb 1a:
Medraf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn dal y wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
2022 = 6
2023 = 1
Ymateb 1b:
Medraf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn dal y wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
2022 = 6 llawn, 2 dros dro
2023 = 1 llawn, 1 dros dro
Ymateb 1c:
Medraf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn dal y wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
2022 = 0
2023 = 0
Ymateb 2a:
Medraf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn dal y wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod. Mae rhai o’r rhain yn ymchwiliadau sy’n mynd rhagddynt.
2022 = 1252
2023 = 968
Ymateb 2b:
Medraf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn dal y wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
2022 = 19
2023 = 12
Ym mis Mai 2023, newidiodd Heddlu Dyfed-Powys eu System Rheoli Cofnodion, fodd bynnag, nid yw hyn yn effeithio ar y ffordd y mae cofnodion gorchmynion sifil megis Gorchmynion Amddiffyn Rhag Stelcio’n cael eu cadw.
Dylid nodi, oherwydd y systemau a fabwysiadwyd gan Heddlu Dyfed-Powys mewn perthynas â chofnodi materion o'r fath, y gallai'r wybodaeth a ddarperir fod yn gywir neu beidio.
Mae’n ofynnol fel mater o drefn i Heddluoedd yn y Deyrnas Unedig ddarparu ystadegau troseddu i gyrff llywodraethol a bod y meini prawf cofnodi wedi'u pennu'n genedlaethol. Fodd bynnag, nid yw'r systemau a ddefnyddir i gofnodi'r ffigurau hyn yn rhai generig, ac nid yw'r gweithdrefnau'n cael eu defnyddio'n lleol i gipio'r data. Dylid nodi, am y rhesymau hyn, na ddylid defnyddio ymateb yr Heddlu hwn i'ch cwestiynau at ddibenion cymharu ag unrhyw ymateb arall y gallech ei dderbyn.
(Dyma ymateb o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a ddatgelwyd ar 12/08/2024)