Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 716/2024
Cais:
1 – Pa sefyllfaoedd sy’n galw ar yr heddlu i gyflawni asesiad risg cyn-mynychu yn awtomatig?
2 – A yw pob gwiriad lles yn cynnwys asesiad risg (h.y. unrhyw wybodaeth bwysig sydd ar gael) ynghylch unigolyn, a gyflawnir cyn ymweld â chartref unigolyn agored i niwed (h.y. bygythiad o hunanladdiad) er mwyn dad-ddwysáu/tawelu’r sefyllfa ac atal unrhyw broblemau, peryglon ac ymatebion gwrthwynebus tebygol gan yr unigolyn?
3 – Beth yw gweithdrefnau’r heddlu wrth gynllunio gwiriad lles yng nghartref unigolyn agored i niwed (h.y. y credir fod ganddynt deimladau hunanladdol) er mwyn atal unrhyw ymatebion dieisiau/peryglus gan yr unigolyn?
Ymateb 1:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed Powys yn dal y wybodaeth a geisir, fel yr amlinellir isod.
Mae Canolfan Reoli’r Heddlu’n asesu risg pob digwyddiad sy’n dod i’r Ystafell Reoli’n awtomatig ar sail ei rinweddau ei hun.
Bydd y digwyddiad yn cael effaith ar y mathau o wiriadau a gyflawnir cyn anfon swyddogion.
Gall y rhain gynnwys galwadau blaenorol, os yw’r preswylwyr yn agored i niwed, gwiriadau Cyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu, gwiriadau cudd-wybodaeth, gwiriadau systemau cyfrifiadurol yr Heddlu lleol ac ati.
Ond bydd POB galwad yn cael asesiad risg.
Ymateb 2 a 3:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed Powys yn dal y wybodaeth a geisir, gweler y Ddogfen Ymateb Terfynol 421/2024 ynghlwm sy’n cynnwys y wybodaeth a geisir.
(Dyma ymateb o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a ddatgelwyd ar 16/08/2024)