Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 695/2024
Cais:
A allwch chi ddarparu’r wybodaeth ganlynol mewn perthynas â gweithdrefnau fetio’r heddlu yn dilyn honiadau camymddwyn os gwelwch chi’n dda. Mae’r data hwn yn gymesur ac ar gael yn hawdd, ac mae ei ddarparu o fudd i’r cyhoedd.
1) Sawl hysbysiad Rheoliad 13 a ddefnyddiwyd rhwng 1 Ionawr 2021 - 31 Rhagfyr 2021?
2) Sawl hysbysiad Rheoliad 13 a ddefnyddiwyd rhwng 1 Ionawr 2022 - 31 Rhagfyr 2022?
3) Sawl hysbysiad Rheoliad 13 a ddefnyddiwyd rhwng 1 Ionawr 2023 - 31 Rhagfyr 2023?
4) Sawl hysbysiad Rheoliad 13 a ddefnyddiwyd rhwng 1 Ionawr 2024 – dyddiad yr adolygiad?
5) Sawl gwrandawiad Anallu Difrifol a gynhaliwyd rhwng 1 Ionawr 2021 - 31 Rhagfyr 2021?
6) Sawl gwrandawiad Anallu Difrifol a gynhaliwyd rhwng 1 Ionawr 2022 - 31 Rhagfyr 2022?
7) Sawl gwrandawiad Anallu Difrifol a gynhaliwyd rhwng 1 Ionawr 2023 - 31 Rhagfyr 2023?
8) Sawl gwrandawiad Anallu Difrifol a gynhaliwyd rhwng 1 Ionawr 2024 – dyddiad yr adolygiad?
9) Faint o swyddogion a gafodd eu diswyddo o ganlyniad i adolygiad fetio rhwng 1 Ionawr 2021 - 31 Rhagfyr 2021?
10) Faint o swyddogion a gafodd eu diswyddo o ganlyniad i adolygiad fetio rhwng 1 Ionawr 2022 - 31 Rhagfyr 2022?
11) Faint o swyddogion a gafodd eu diswyddo o ganlyniad i adolygiad fetio rhwng 1 Ionawr 2023 - 31 Rhagfyr 2023?
12) Faint o swyddogion a gafodd eu diswyddo o ganlyniad i adolygiad fetio rhwng 1 Ionawr 2024 – dyddiad yr adolygiad?
Gofynnwyd am Eglurhad:
Mae terminoleg o fewn Dyfed-Powys yn wahanol i’r hyn sydd yn y cais mewn perthynas â darparu hysbysiadau. A fedrwch chi egluro pa un ai a ydych chi’n gofyn pa un ai a oedd swyddogion wedi’u datblygu drwy’r prosesau ffurfiol Rheoliad 13?
Eglurhad:
Mae gennyf ddiddordeb penodol yn y rhai sy’n destun gwrandawiad anallu difrifol Gweithdrefnau Perfformiad a Phresenoldeb Anfoddhaol cam 3 yn dilyn proses camymddwyn ac adolygiad o fetio waeth pa beth bynnag yw’r lefel, ac angen gwybodaeth am hyn.
Ymateb 1-4:
Medraf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn dal y wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Fe’ch cynghorir bod Rheoliad 13 ond yn berthnasol ar gyfer swyddogion ar brawf. Proses ffurfiol ydyw i asesu pa un ai a ydynt yn addas, yn gorfforol neu’n feddyliol, i gyflawni dyletswyddau eu swydd, neu eu bod yn annhebygol o ddod yn gwnstabl effeithiol sy’n ymddwyn yn dda.
Nid yw Heddlu Dyfed-Powys yn cyflwyno ‘hysbysiadau’ o dan Reoliad 13 yn unol â chais y ceisydd. Os bydd unrhyw bryderon yn codi yn ystod y cyfnod prawf, gwahoddir y swyddog i fynychu ‘cynhadledd achos ffurfiol’ o dan reoliad 13. Gall fod sawl canlyniad gwahanol, gan ddibynnu ar lefel y pryder - o ddim gweithredu pellach, i ddarparu cynllun gwella/datblygu hyd at y mwyaf difrifol, sef ‘hepgor’, lle mae’n ofynnol iddynt adael y swydd.
Mae’r ffigurau a ddarperir yn ymwneud â nifer y swyddogion sy’n fyfyrwyr sydd wedi’u gwahodd i fynychu Cynhadledd Achos Rheoliad 13 yn ystod y ffrâm amser a nodwyd.
C1 |
Sawl hysbysiad Rheoliad 13 a ddefnyddiwyd rhwng 1 Ionawr 2021 - 31 Rhagfyr 2021? |
6 |
C2 |
Sawl hysbysiad Rheoliad 13 a ddefnyddiwyd rhwng 1 Ionawr 2022 - 31 Rhagfyr 2022? |
4 |
C3 |
Sawl hysbysiad Rheoliad 13 a ddefnyddiwyd rhwng 1 Ionawr 2023 - 31 Rhagfyr 2023? |
4 |
C4 |
Sawl hysbysiad Rheoliad 13 a ddefnyddiwyd rhwng 1 Ionawr 2024 – dyddiad yr adolygiad? |
2 |
Ymateb 5-12:
Medraf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn dal y wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Dim.
(Dyma ymateb o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a ddatgelwyd ar 09/08/2024)