Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 235/2024
Cais:
Ymateb 1–7:
Mae adran 1 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn gosod dwy ddyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus. Oni bai fod esemptiadau’n gymwys, y ddyletswydd gyntaf yn adran 1(1)(a) yw cadarnhau neu wadu a ydyw’r wybodaeth a bennir mewn cais yn cael ei chadw. Yr ail ddyletswydd yn adran 1(1)(b) yw datgelu gwybodaeth y cadarnhawyd ei bod yn cael ei chadw. Pan ddibynnir ar esemptiadau, mae adran 17 o’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn ei gwneud yn ofynnol i ni roi hysbysiad i’r ceisydd, sydd:
a) yn datgan y ffaith honno,
b) yn pennu’r esemptiad(au) dan sylw, ac
c) yn datgan (os na fyddai hynny’n amlwg fel arall) pam fod yr esemptiad yn gymwys.
Ni all Heddlu Dyfed-Powys gadarnhau na gwadu bod gwybodaeth yn cael ei chadw sy’n berthnasol i’ch cais gan nad yw’r ddyletswydd yn adran 1(1)(a) o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn gymwys yn rhinwedd yr esemptiadau canlynol:
Adran 24(2) – Diogelwch Gwladol
Adran 31(3) – Gorfodi'r Gyfraith
Adran 38(2) – Iechyd a Diogelwch
Adran 40(5) – Gwybodaeth Bersonol
Mae adrannau 24, 31 a 38 yn esemptiadau amodol ac felly mae gofyniad i fynegi'r niwed a chynnal prawf budd y cyhoedd wrth gadarnhau neu wadu. Mae adran 40 yn esemptiad absoliwt ar sail dosbarth ac nid oes gofyniad i ystyried budd y cyhoedd yn yr achos hwn.
Adran 24(2) – Diogelwch Gwladol
Niwed wrth gydymffurfio ag adran 1(1)(a) – cadarnhau a oes gwybodaeth yn cael ei chadw ai peidio
Byddai cadarnhau neu wadu bod gwybodaeth yn cael ei chadw mewn perthynas â’r cais hwn yn arwain at niwed i ddiogelwch gwladol y Deyrnas Unedig. Byddai cadarnhau neu wadu bod gwybodaeth yn cael ei chadw sy’n ymwneud â’r amddiffyniad y gellir ei roi i aelodau o’r Teulu Brenhinol yn rhoi i’r rhai sy’n bwriadu cyflawni gweithredoedd terfysgol wybodaeth werthfawr ynghylch lefel y gwrthwynebiad y gallent ddisgwyl ei wynebu wrth ymgymryd â gweithred o’r fath. Byddai cadarnhau neu wadu bod gwybodaeth yn cael ei chadw hefyd yn rhoi gwybodaeth dactegol werthfawr i'r rhai sy'n ceisio niweidio ffigurau o'r fath.
Gallai cadarnhau neu wadu bod gwybodaeth yn cael ei chadw helpu terfysgwr posibl i gynllunio ymosodiad ar aelod o’r Teulu Brenhinol. Byddai hyn yn bygwth prif sefydliad trefniadau cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig, ac felly diogelwch y genedl.
Ffactorau o blaid cydymffurfio ag adran 1(1)(a) trwy gadarnhau bod gwybodaeth yn cael ei chadw
Gall cadarnhau a oes gwybodaeth yn bodoli ynghylch costau/gwariant gan yr heddlu ar ran y trethdalwr wella atebolrwydd y gwasanaeth a’i safle o fewn cymdeithas agored a democrataidd. Er ei fod yn fater sensitif, gall didwylledd o'r fath hefyd wella dealltwriaeth o faterion diogelwch gwladol. Mae gan y cyhoedd hawl a diddordeb mewn cymryd rhan yn y dadleuon ynghylch materion diogelwch gwladol, a byddai gwybodaeth am ble mae arian yn cael ei wario yn gwella eu gallu i gymryd rhan mewn trafodaethau o'r fath mewn ffordd ystyrlon.
Ffactorau yn erbyn cydymffurfio ag adran 1(1)(a) trwy beidio â chadarnhau na gwadu bod gwybodaeth yn cael ei chadw
Mae’r ffaith bod yna nifer o grwpiau a fyddai’n ceisio niweidio diogelwch gwladol y Deyrnas Unedig yn cael ei dderbyn yn gyffredinol, nid yn unig gan y gwasanaethau cudd-wybodaeth a diogelwch, ond hefyd gan y cyfryngau a’r cyhoedd. Mae unigolion fel aelodau o'r Teulu Brenhinol, sy'n ymgymryd â dyletswyddau cyfansoddiadol a chynrychioliadol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, felly'n rhoi targed ar gyfer unigolion o'r fath. Mae'n hysbys bod grwpiau sy'n cynllunio ymosodiadau o'r fath yn cynnal ymchwil helaeth i'r gwrthwynebiad y gallent ei wynebu. Gallai cadarnhau neu wadu bod gwybodaeth yn bodoli wella eu gallu. Yn ogystal, gallai arwain at yr angen i adolygu tactegau, darparu staff ychwanegol a chostau ychwanegol. Byddai cadarnhau neu wadu bod gwybodaeth yn bodoli felly yn niweidiol o safbwynt diogelwch gwladol.
Prawf cydbwysedd
Wrth ystyried cadarnhau neu wadu bod gwybodaeth yn cael ei chadw mewn perthynas â’r cais hwn, rhaid inni bwyso a mesur budd y cyhoedd o ganiatáu mynediad i wybodaeth o’r fath yn erbyn y niwed a allai gael ei achosi gan ei chyflenwi. Byddai cadarnhau neu wadu bod gwybodaeth yn cael ei chadw yn caniatáu i eithafwyr i fesur lefel yr amddiffyniad y gellir ei rhoi i aelodau o’r Teulu Brenhinol, gan roi gwybodaeth o ran lefel y gwrthwynebiad y gallent ei wynebu gan yr heddlu i unrhyw un sy’n bwriadu cyflawni gweithredoedd terfysgol. Byddai hyn yn llesteirio gallu cyrff gorfodi’r gyfraith i amddiffyn yr unigolion hyn ac yn amlwg ni fyddai er budd y cyhoedd.
Mae’n amlwg yn ddymunol bod Heddlu Dyfed-Powys yn rhoi cyfrif am sut y mae’n gwario arian cyhoeddus, yn enwedig ar adeg o gyfyngiadau ar wariant cyhoeddus. Mae erthyglau yn y cyfryngau a sylwadau a briodolir i aelodau'r cyhoedd yn dangos diddordeb/pryder cynyddol yn y maes pwnc hwn.
Fodd bynnag, mae'r bygythiad i ddiogelwch gwladol gan grwpiau terfysgol yn wirioneddol ac yn bresennol drwy’r amser a byddai’n fwy tebygol o gael ei wireddu pe bai'n cael ei gadarnhau neu ei wadu bod gwybodaeth yn cael ei chadw am gostau trefniadau amddiffyn. Mae yna debygolrwydd cryf hefyd y byddai cadarnhau neu wadu bod gwybodaeth yn cael ei chadw yn datgelu pa awdurdodau gorfodi’r gyfraith unigol y credir sydd fwyaf mewn perygl o ymosodiad terfysgol. Mae’n amlwg na fyddai’r gallu i nodi unrhyw fathau o gudd-wybodaeth y gallai awdurdodau gorfodi’r gyfraith ddibynnu arnynt er budd ehangach y cyhoedd.
Mae gan holl heddluoedd y DU ddyletswydd i gyflawni eu swyddogaethau diogelwch gwladol. Byddai cadarnhau neu wadu bod gwybodaeth yn cael ei chadw yn cynyddu’r risg i ddiogelwch aelodau o’r Teulu Brenhinol ac mae cysylltiad anorfod rhwng hynny â diogelwch gwladol gan y byddai unrhyw ymosodiadau ar yr unigolion hyn yn ymosodiad ar sofraniaeth y Deyrnas Unedig a’i threfniadau cyfansoddiadol. Felly, yn ein barn ni, ar gyfer y materion hyn, mae’r prawf cydbwysedd ar gyfer peidio â chadarnhau na gwadu bod gwybodaeth yn cael ei chadw yn briodol. Ni ellir dod i unrhyw gasgliad o'r gwrthodiad hwn i ddatgan bod gwybodaeth yn bodoli neu nad yw'n bodoli.
Adran 31(3) Gorfodi'r Gyfraith
Niwed wrth gydymffurfio ag adran 1(1)(a) – cadarnhau a oes gwybodaeth yn cael ei chadw ai peidio
Gall cadarnhau neu wadu bod gwybodaeth yn cael ei chadw niweidio atal a chanfod trosedd. Mae aelodau o'r Teulu Brenhinol ar adegau yn darged elfennau troseddol ac obsesedig a bygythiadau terfysgol unigolion sy'n dymuno achosi niwed i rai unigolion.Mae’n anochel y byddai cadarnhau neu wadu bod gwybodaeth yn cael ei chadw yn peryglu diogelwch y rhai sy'n cael eu targedu trwy alluogi asesiad i gael ei wneud i weld a oes unrhyw drefniadau diogelwch ar waith. Gallai hefyd ddatgelu tactegau plismona ar gyfer unigolion pwysig iawn eraill, rhywbeth a allai danseilio trefniadau amddiffyn yn gyffredinol.
Mae'n hysbys bod y rhai sy'n cynllunio ymosodiadau yn defnyddio ystod eang o adnoddau, gan gynnwys adroddiadau yn y wasg a rhagchwilio ffisegol. Mae lleihau'r wybodaeth sydd ar gael neu ei gwneud yn anoddach ei chaffael yn amlwg yn ddymunol.
Mae’n dilyn hefyd bod unrhyw risg uwch i unigolion, p’un a ydynt yn derbyn trefniadau diogelwch amddiffynnol ai peidio, yn cynrychioli risg debyg i aelod o unrhyw sefydliad (e.e. yr heddlu) sy’n darparu amddiffyniad. Mae unrhyw ymosodiad corfforol ar unrhyw unigolyn, p’un a yw’n aelod o’r Teulu Brenhinol ai peidio, yn drosedd ac felly byddai cadarnhau neu wadu bod gwybodaeth yn cael ei chadw yn niweidio eu diogelwch (neu ddiogelwch unrhyw unigolyn arall). Mae adran 31(3) felly yn berthnasol.
Ffactorau o blaid cydymffurfio ag adran 1(1)(a) trwy gadarnhau bod gwybodaeth yn cael ei chadw
Mae gan y cyhoedd ddiddordeb gwirioneddol yn yr hyn y mae'r heddlu yn ei wneud a sut maent yn ei wneud. Mae eu diddordeb yn ddilys ac i'w annog o fewn cymdeithas ddemocrataidd lle mae plismona yn digwydd drwy gydsyniad.
Mae atebolrwydd cyhoeddus o ran y defnydd o adnoddau ac arian trethdalwyr, a pharodrwydd i fod yn dryloyw ac agored, yn nodweddion dymunol ym mhob awdurdod cyhoeddus.
Mae diddordeb felly mewn cadarnhau neu wadu bod gwybodaeth yn cael ei chadw ynglŷn â chostau amddiffyniad i'w ddisgwyl, yn enwedig pan fo peth pryder a yw gwariant o'r fath yn briodol ac yn gyfiawn.
Ffactorau yn erbyn cydymffurfio ag adran 1(1)(a) trwy beidio â chadarnhau na gwadu bod gwybodaeth yn cael ei chadw
Byddai cadarnhau neu wadu bod gwybodaeth yn cael ei chadw yn rhoi gwybodaeth i derfysgwyr, troseddwyr neu unigolion obsesedig am y lefelau o amddiffyniad y gellir eu rhoi i aelodau o’r Teulu Brenhinol. Ni fyddai hyn yn ddymunol gan y byddai'n rhoi cudd-wybodaeth hanfodol i unrhyw un sy'n bwriadu cyflawni gweithred o derfysgaeth ynghylch lefel y gwrthwynebiad y gallent ei hwynebu. Byddai cadarnhau neu wadu bod gwybodaeth yn cael ei chadw yn ychwanegu at yr hyn sydd eisoes ar gael, gan wneud y dasg amddiffyn yn fwy anodd a'r siawns o ymosodiad yn fwy tebygol. Byddai hyn yn llesteirio gallu’r cyrff gorfodi’r gyfraith i gyflawni eu rôl o ddiogelu’r cyhoedd ac yn amlwg ni fyddai er budd y cyhoedd.
Un o brif amcanion Heddlu Dyfed–Powys yw atal trosedd. Gallai cadarnhau neu wadu bod gwybodaeth yn cael ei chadw gynyddu'r tebygolrwydd y bydd trosedd yn cael ei chyflawni, ac nid yw hynny er budd y cyhoedd.
Prawf cydbwysedd
Wrth ystyried a ddylid cadarnhau neu wadu bod gwybodaeth yn cael ei chadw mewn perthynas â’r cais hwn, mae’n rhaid i Heddlu Dyfed-Powys bwyso a mesur y manteision posibl yn erbyn y niwed a allai gael ei achosi.
Yn yr achos hwn, mae cydbwyso hawl y cyhoedd i wybod a dyletswydd Heddlu Dyfed–Powys i amcangyfrif y difrod posibl i’w allu gweithredol ar hyn o bryd ac yn y dyfodol o blaid peidio â chadarnhau na gwadu bod gwybodaeth yn cael ei chadw. Mae'r bygythiadau terfysgol, obsesedig a throseddol yn rhai go iawn. Byddai cadarnhau neu wadu bod gwybodaeth yn cael ei chadw yn cynyddu’r tebygolrwydd o derfysgaeth neu unrhyw weithgaredd troseddol arall, gan bergylu’r cyhoedd, yn ogystal ag aelodau’r cyrff gorfodi’r gyfraith ac aelodau o’r Teulu Brenhinol. Nid oes unrhyw fudd cyhoeddus mewn cadarnhau neu wadu bod gwybodaeth yn cael ei chadw lle byddai’n cynyddu’r risg i ddiogelwch y cyhoedd.
Adran 38(2) – Iechyd a Diogelwch
Niwed wrth gydymffurfio ag adran 1(1)(a) – cadarnhau a oes gwybodaeth yn cael ei chadw ai peidio
Byddai cadarnhau neu wadu bod gwybodaeth yn cael ei chadw yn peryglu iechyd a diogelwch corfforol aelodau o’r Teulu Brenhinol a’u cartrefi, yr heddlu ac aelodau’r cyhoedd.
Mae'r posibilrwydd o sefydlu effaith fosaig, lle gallai gwybodaeth sydd eisoes wedi'i datgelu gael ei chyfateb â gwybodaeth answyddogol i lunio asesiadau o fesurau diogelwch posibl, yn berygl gwirioneddol. Gallai cadarnhau neu wadu bod gwybodaeth yn cael ei chadw hefyd ddatgelu tactegau plismona ynghylch aelodau o’r Teulu Brenhinol, a gellid ei ddefnyddio fel rhan o asesiad ehangach o lefelau’r amddiffyniad a roddir i eraill nad ydynt yn destun y cais hwn. Byddai cadarnhau neu wadu bod gwybodaeth yn cael ei chadw felly ar draul rhywun arall nad yw o bosibl yn derbyn lefelau tebyg o amddiffyniad hefyd.
Mae cyllidebau yn gyfyngedig ac mae lefelau staffio yn uniongyrchol gysylltiedig â'r arian a ddarperir. Dros amser, mae'n bosibl darganfod o ddarnau o wybodaeth, a ryddhawyd yn gyfreithlon neu'n anfwriadol, dactegau diogelu tebygol yr heddlu.
Ffactorau o blaid cydymffurfio ag adran 1(1)(a) trwy gadarnhau bod gwybodaeth yn cael ei chadw
Byddai cadarnhau neu wadu bod gwybodaeth yn cael ei chadw yn rhoi cipolwg ar sut mae’r Swyddfa Gartref a’r heddlu yn gweithio a byddai’n gwella dealltwriaeth y cyhoedd o benderfyniadau plismona. Byddai'n galluogi'r cyhoedd i benderfynu a yw trefniadau plismona yn briodol a byddai'n helpu gyda chraffu cyhoeddus ar awdurdod cyhoeddus pwysig. Gall helpu i gael gwared ar ddyfalu, sïon a thybio.
Ffactorau yn erbyn cydymffurfio ag adran 1(1)(a) trwy beidio â chadarnhau neu wadu bod gwybodaeth yn cael ei chadw
Byddai cadarnhau neu wadu bod gwybodaeth yn cael ei chadw yn debygol o wneud aelodau o’r Teulu Brenhinol, y cyhoedd a’n swyddogion yn fwy agored i niwed a/neu fyddai’n effeithio’n anffafriol ar ein gallu i ddarparu amgylchedd diogel. Byddai cadarnhau neu wadu bod gwybodaeth yn cael ei chadw hefyd yn cynyddu'r risg i'r heddlu o fod yn ddifrod cyfochrog pe bai ymosodiad. Mae gan bawb hawl i fyw a gweithio heb fygythiad o drais yn eu herbyn. Nid yw er budd y cyhoedd i aelodau’r cyhoedd gael eu rhoi mewn sefyllfa lle maent yn agored i niwed drwy gadarnhau neu wadu bod gwybodaeth yn cael ei chadw mewn perthynas ag unigolion penodol.
Gallai cadarnhau neu wadu bod gwybodaeth yn cael ei chadw arwain at orfod newid tactegau plismona, cynyddu lefelau staffio a chostau’n codi, sy’n effeithiau anffafriol nad ydynt yn bendant er budd y cyhoedd.
Prawf cydbwysedd
Ar ôl pwyso a mesur y buddiannau sy’n cystadlu, penderfynwyd na fyddai cadarnhau neu wadu bod gwybodaeth yn cael ei chadw er budd y cyhoedd. Hefyd, nid yw'r budd a fyddai'n deillio o gadarnhau neu wadu bod gwybodaeth yn cael ei chadw yn drech na pheidio â chadarnhau na gwadu bod gwybodaeth yn cael ei chadw. Felly, yn ein barn ni, ar gyfer y materion hyn, mae’r prawf cydbwysedd ar gyfer peidio â chadarnhau na gwadu bod gwybodaeth yn cael ei chadw yn briodol. Ni ellir dod i unrhyw gasgliad o'r gwrthodiad hwn i ddatgan bod gwybodaeth yn bodoli neu nad yw'n bodoli.
Adran 40(5) – Gwybodaeth Bersonol:
Mae’r ddyletswydd i beidio â chadarnhau na gwadu o dan yr adran hon o’r Ddeddf yn codi os byddai cadarnhad ynghylch a ydyw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani yn cael ei chadw ai peidio yn torri unrhyw un o’r egwyddorion diogelu data a gynhwysir yn Rhan 3, Pennod 2 o Ddeddf Diogelu Data 2018. O dan adran 34 ym Mhennod 2, “Mae’r rheolydd mewn perthynas â data personol yn gyfrifol am gydymffurfedd â Phennod 2, a rhaid iddo allu dangos cydymffurfedd â hi.” Ni fyddai gwybodaeth o’r fath yn cael ei chadarnhau fel gwybodaeth a gedwir o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 oni bai fod elfen gref o ran budd y cyhoedd. Un o’r prif wahaniaethau rhwng Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Deddf Diogelu Data 2018 yw bod unrhyw wybodaeth sy’n cael ei rhyddhau o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn cael ei rhyddhau i’r parth cyhoeddus, nid dim ond i’r unigolyn sy’n gwneud cais am yr wybodaeth, ac mae’n rhaid cofio hynny wrth ddatgelu gwybodaeth o dan y Ddeddf. O’r herwydd, mae unrhyw wybodaeth a ryddheir sy’n dynodi unigolyn trwy ryddhau ei ddata personol, hyd yn oed data personol trydydd parti, yn esempt.
Diffinnir data personol o dan adran 3 o Ddeddf Diogelu Data 2018 fel a ganlyn:
“(2) Ystyr ‘data personol’ yw unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud ag unigolyn byw adnabyddedig neu adnabyddadwy (yn ddarostyngedig i is-adran (14)(c)).
(3) Ystyr ‘unigolyn byw adnabyddadwy’ yw unigolyn byw y gellir ei adnabod, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, yn benodol wrth gyfeirio at—
(a) Dynodwr fel enw, rhif adnabod, data lleoliad neu ddynodwr ar-lein, neu
(b) Un neu ragor o ffactorau sy’n benodol i hunaniaeth gorfforol, ffisiolegol, enetig, feddyliol, economaidd, ddiwylliannol neu gymdeithasol yr unigolyn.”
Mae gan bob aelod o’r cyhoedd, gan gynnwys y rhai a gyflogir gan yr heddlu, hawl gynhenid i breifatrwydd, ac mae’r hawliau hyn wedi’u diogelu yn rhinwedd y Ddeddf Hawliau Dynol, Deddf Diogelu Data 2018 a’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) ac ni ddylai awdurdod cyhoeddus ymyrryd â’r hawl honno. Mae rhyddhau unrhyw wybodaeth sy’n destun yr esemptiad yn debygol o beryglu’r hawliau hynny.
Deddf Diogelu Data 2018
Rhan 3 – Gorfodi’r Gyfraith – Pennod 2 Egwyddorion Adran 35
Yr egwyddor diogelu data gyntaf:
“(1) Yr egwyddor diogelu data gyntaf yw bod yn rhaid i brosesu data personol at unrhyw un o’r dibenion gorfodi’r gyfraith fod yn gyfreithlon ac yn deg.”
Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR)
Mae Erthygl 5 o’r GDPR – ‘Egwyddorion sy’n ymwneud â phrosesu data personol’ – yn darparu fel a ganlyn:
“1. Caiff data personol:
(a) ei brosesu’n gyfreithlon, yn deg ac mewn modd tryloyw mewn perthynas â thestun y data (‘cyfreithlondeb, tegwch a thryloywder’);
(b) ei gasglu at ddibenion penodol, eglur a chyfreithlon a heb ei brosesu ymhellach mewn modd sy’n anghydnaws â’r dibenion hynny; ni fydd prosesu pellach at ddibenion archifo er budd y cyhoedd…
2. Bydd y rheolydd yn gyfrifol am baragraff 1 (‘atebolrwydd’) ac yn gallu dangos ei fod yn cydymffurfio ag ef.”
Ni fyddai Heddlu Dyfed-Powys am gadarnhau na gwadu a oes unrhyw wybodaeth yn cael ei chadw sy’n berthnasol i’r cais os gallai cadarnhau/gwadu o bosibl nodi unigolyn. Yn yr achos hwn, gallai unrhyw wybodaeth a allai fod yn berthnasol i’r cais neu beidio gynnwys data personol unigolyn/unigolion adnabyddadwy, a byddai unrhyw ddatgeliad, drwy nodi esemptiad neu ddatgan nad oes unrhyw wybodaeth yn cael ei chadw, yn amlwg yn torri’r Ddeddf Diogelu Data ac, o ganlyniad, rwyf yn fodlon bod esemptiad gwybodaeth bersonol adran 40(5) yn berthnasol. Yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, mae hyn yn cynrychioli hysbysiad gwrthod ar gyfer y cais penodol hwn. Ni ellir dod i unrhyw gasgliad o’r gwrthodiad hwn fod yr wybodaeth y gofynnoch amdani yn bodoli neu ddim yn bodoli.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 3 Ebrill 2024)