Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 48/2024
Cais:
1) Os oes gan eich heddlu eiriolwr stelcio ar waith
2) Sawl eiriolwr stelcio sydd gan yr heddlu, os oes mwy nag un.
3) Os mai ‘oes’ yw’r ateb i (1), pryd y cafodd yr eiriolwr/eiriolwyr ei roi ar waith
Eglurhad:
Cwestiwn:
Pan fyddwch yn cyfeirio at eiriolwr stelcio, a ydych yn golygu hyrwyddwyr atal stelcio yr heddlu?
Ateb:
Diolch i chi am eich neges, am eglurhad. Rwy’n edrych am wybodaeth ynghylch a oes gan yr heddlu eiriolwr stelcio annibynnol i ddarparu cymorth i ddioddefwyr sy’n adrodd am droseddau stelcio.
Mae Ymddiriedolaeth Suzy Lamplugh yn diffinio eiriolwyr stelcio fel: “arbenigwyr hyfforddedig sy’n rhoi cyngor a chymorth arbenigol i ddioddefwyr yn ystod cyfnod o argyfwng, yn aml pan fydd ymateb y system cyfiawnder troseddol neu asiantaethau eraill yn methu â mynd i’r afael ag ef. Mae eiriolwyr stelcio yn cefnogi dioddefwyr mewn ffordd gyfannol i'w helpu i reoli ac ymdopi â'u sefyllfa ac i wella ar ôl cael eu cam-drin. Maen nhw’n cynnal asesiadau risg ac yn sicrhau bod cynlluniau diogelwch yn cael eu rhoi ar waith i amddiffyn dioddefwyr a’r rhai o’u cwmpas, gan gynnwys unrhyw ddibynyddion, rhag niwed pellach.”
Ymateb:
Gallaf gadarnhau nad oes unrhyw wybodaeth yn cael ei chadw gan Heddlu Dyfed-Powys oherwydd nad oes gan Heddlu Dyfed-Powys unrhyw eiriolwyr stelcio annibynnol ar waith. Felly nid yw cwestiynau 2 a 3 yn berthnasol oherwydd yr ymateb i gwestiwn 1.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 19 Ebrill 2024)