Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 306/2024
Cais:
Hoffwn gael yr wybodaeth isod ar gyfer y flwyddyn 2023, neu’r data 12 mis diweddaraf sydd ar gael:
a) Cyfanswm y lladradau offer yn eich ardal
b) Cyfanswm y lladradau offer o gerbydau modur yn eich ardal.
Ymateb:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, ac mae’r manylion fel a ganlyn:
Darparwyd data ar gyfer 1 Ionawr 2023 – 31 Rhagfyr 2023.
a) 22
Sylwer: Mae’r ffigurau canlynol yn nodi nifer y lladradau yn ymwneud ag eitemau eiddo: ‘Offeryn pŵer’, ‘Bag offer’, ‘Blwch offer’, ‘Offer’ a/neu ‘Offeryn’.
Mae’n bosibl y bydd lladradau ychwanegol wedi’u cofnodi yn sôn am offer ag enwau penodol sydd wedi’u methu gan y chwiliad hwn. Oni bai y darperir rhestr o offer penodol, e.e. morthwyl, ni allwn ganfod a oes unrhyw ladradau o fathau eraill o offer.
b) 9
Sylwer: Mae’r ffigurau canlynol yn nodi nifer y lladradau o gerbyd yn ymwneud ag eitemau eiddo: ‘Offeryn pŵer’, ‘Bag offer’, ‘Blwch offer’, ‘Offer’ a/neu ‘Offeryn’.
Mae’n bosibl y bydd lladradau ychwanegol wedi’u cofnodi yn sôn am offer ag enwau penodol sydd wedi’u methu gan y chwiliad hwn. Oni bai y darperir rhestr o offer penodol, e.e. morthwyl, ni allwn ganfod a oes unrhyw ladradau o fathau eraill o offer o gerbydau modur.
Dylid nodi, o ganlyniad i’r systemau a fabwysiadwyd gan Heddlu Dyfed-Powys mewn perthynas â chofnodi gwybodaeth o’r fath, y gallai’r wybodaeth a ryddheir fod yn gywir neu beidio.
Mae’n ofynnol i heddluoedd y Deyrnas Unedig ddarparu ystadegau trosedd i gyrff y llywodraeth yn rheolaidd, a gosodir y meini prawf cofnodi yn genedlaethol. Fodd bynnag, nid yw’r systemau a ddefnyddir ar gyfer cofnodi’r ffigurau hyn yn rhai generig, nac ychwaith y gweithdrefnau a ddefnyddir yn lleol i gasglu’r data. Dylid nodi, am y rhesymau hyn, na ddylid defnyddio ymateb yr heddlu hwn i’ch cwestiynau at ddibenion cymharu ag unrhyw ymateb arall a gewch.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 2 Ebrill 2024)