Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 289/2024
Cais:
1) A ydyw eich heddlu yn sicrhau bod gwybodaeth a chanllawiau am wydnwch personol ar gael am ddim i swyddogion a staff? Ydyw/Nac ydyw.
a) Os ydyw – rhowch enghreifftiau (e.e. gwefannau, mewnrwyd, gwasanaethau llesiant).
2) A ydyw eich heddlu yn darparu hyfforddiant penodol ar wydnwch personol i swyddogion a staff? Ydyw/Nac ydyw.
a) Os ydyw – rhowch enghreifftiau.
b) Os nac ydyw – a ydyw’n cael ei gynnwys mewn hyfforddiant llesiant ehangach?
c) A ydyw eich heddlu yn bwriadu cynnig hyfforddiant o’r fath yn y dyfodol?
3) A oes gan eich heddlu dîm/gwasanaeth llesiant penodol ar gyfer staff? Oes / nac oes.
a) Os oes – rhowch fanylion cryno am hyn.
b) Os nad oes – pa ddarpariaeth llesiant sydd ar gael ar hyn o bryd?
4) A oes gan eich heddlu fewnrwyd/gwefan llesiant benodol ar gyfer staff? Oes / nac oes.
a) Os oes – rhowch fanylion cryno am hyn.
b) Os nad oes – pa ddarpariaeth llesiant sydd ar gael ar hyn o bryd?
Ymateb:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod:
1) Ydyw. Rydym yn cyfeirio swyddogion at y gwefannau canlynol:
Oscar Kilo (Gwasanaeth Llesiant Cenedlaethol yr Heddlu | Oscar Kilo
BLWF (Fframwaith Llesiant y Golau Glas (BLWF) | Oscar Kilo)
Rydym hefyd yn cyfeirio swyddogion at wasanaethau cwnsela, os yw’n briodol.
2) Ydyw. Mae myfyrwyr yr heddlu yn cael diwrnod cyfan o hyfforddiant ar wydnwch personol, llesiant a rheoli straen. Mae’r hanner diwrnod cyntaf yn cynnwys cyfraniadau gan yr uned iechyd galwedigaethol, cwnselydd yr heddlu, a Ffederasiwn yr Heddlu.
Mae’r ail hanner diwrnod yn cynnwys addysg seicolegol ynghylch rheoli straen ac ymateb i drawma, gan gynnwys cyfraniadau profiad bywyd go iawn gan aelod o staff sydd wedi ymddeol am resymau meddygol sydd ag anhwylder straen wedi trawma (PTSD). Rhoddir gwybodaeth iddynt am sut i adnabod adweithiau straen a thrawma, deall arwyddion a symptomau, a phryd a sut i gael cymorth.
Darperir hyfforddiant llesiant ehangach i dditectifs sy’n rhan o’r Rhaglen Datblygu Sgiliau Ymchwilio mewn Perthynas â Threisio a Throseddau Rhyw Difrifol, Rhaglen Broffesiynoli Ymchwilio Lefel 2, a’r Rhaglen Datblygu Ymchwiliadau Arbenigol i Gam-drin Plant.
Mae’r cyfraniadau’n cynnwys adnabod arwyddion a symptomau posibl o straen a gorflinder, yn ogystal â gwybodaeth am y gwasanaethau sy’n cael eu cynnig gan yr uned iechyd galwedigaethol a’r gwasanaethau a sefydliadau cymorth amrywiol sydd ar gael.
3) Yn gyffredinol, yr uned iechyd galwedigaethol sy’n cynnig y gwasanaeth hwn ynghyd â gwasanaethau eraill hefyd. Mae’n defnyddio ffeiriau llesiant gyda fan Oscar Kilo a diwrnodau pan fo cŵn OK9, cwnselwyr, ac ymgynghorydd iechyd galwedigaethol yn galw heibio i orsafoedd. Mae Ffederasiwn yr Heddlu, caplaniaeth gilyddol yr heddlu ac Unsain hefyd yn cymryd rhan yn y dyddiau hyn.
4) Oes. Rydym yn rhoi gwybod am y digwyddiadau sy’n mynd rhagddynt ar y pryd ac mae gennym eitemau misol ar bynciau llesiant.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 5 Ebrill 2024)