Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 247/2024
Cais:
Er eglurder, mewn perthynas â 4. bydd hyn yn ymwneud â'u gallu i gynnal chwiliadau ar bobl o’r rhyw arall.
Ymateb 1 - 4:
Mae adran 1 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn gosod dwy ddyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus. Oni bai bod eithriadau’n berthnasol, y ddyletswydd gyntaf yn Adran 1(1)(a) yw cadarnhau neu wadu a yw’r wybodaeth a nodir mewn cais yn cael ei chadw. Yr ail ddyletswydd yn adran 1(1)(b) yw datgelu gwybodaeth y cadarnhawyd ei bod yn cael ei chadw.
Pan ddibynnir ar esemptiadau, mae adran 17 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn ei gwneud yn ofynnol i Heddlu Dyfed-Powys, wrth wrthod darparu gwybodaeth o’r fath (gan fod yr wybodaeth yn esempt), roi hysbysiad i chi i’r ceisydd sydd:
(a) yn datgan y ffaith honno,
(b) yn pennu'r esemptiad o dan sylw, ac
(c) yn datgan (os na fyddai hynny’n amlwg fel arall) pam fod yr esemptiad yn gymwys.
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, ond mae’r eithriadau canlynol wedi’u cymhwyso i’r holl wybodaeth yr ydych wedi gofyn amdani:
Adran 21 – Gwybodaeth sy’n rhesymol hygyrch drwy ddulliau eraill:
(1) Mae gwybodaeth sy’n rhesymol hygyrch i’r ceisydd ac eithrio o dan adran 1 yn wybodaeth esempt.
(2) At ddibenion isadran (1)-
(a) gall gwybodaeth fod yn rhesymol hygyrch i’r ceisydd er mai dim ond am dâl y mae’n hygyrch, a
(b) bernir bod gwybodaeth yn rhesymol hygyrch i’r ceisydd os yw’n wybodaeth y mae’n ofynnol i’r awdurdod cyhoeddus neu unrhyw berson arall gan, neu o dan unrhyw ddeddfiad i’w chyfleu (ac eithrio drwy drefnu bod yr wybodaeth ar gael i’w harchwilio) i aelodau o’r cyhoedd ar gais, boed am ddim neu am dâl.
(3) At ddibenion isadran (1), nid yw gwybodaeth a gedwir gan awdurdod cyhoeddus ac nad yw’n dod o fewn isadran (2)(b) i’w hystyried yn rhesymol hygyrch i’r ceisydd dim ond oherwydd bod yr wybodaeth ar gael oddi wrth yr awdurdod cyhoeddus ei hun ar gais, oni bai bod yr wybodaeth ar gael yn unol â chynllun cyhoeddi’r awdurdod a bod unrhyw dâl sy’n ofynnol wedi’i bennu yn y cynllun, neu’n cael ei benderfynu yn unol ag ef.”
Gellir cyrchu gwybodaeth sy'n berthnasol i'ch cais trwy'r hyperddolenni canlynol –
Polisi Cynnwys Pobl Draws | Heddlu Dyfed-Powys
Cydraddoldeb ac anghenion unigol | Coleg Plismona
Polisi ailbennu rhywedd 118/2022 | Heddlu Dyfed-Powys
Ymateb 5
Gallaf gadarnhau nad oes unrhyw wybodaeth yn cael ei chadw. Mae hyn oherwydd bod yr Uned Rhyddid Gwybodaeth wedi cael gwybod nad yw dogfennaeth yn cael ei darparu i swyddogion dan hyfforddiant.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 26 Ebrill 2024)