Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 294/2024
Cais:
Yn y blynyddoedd diwethaf, mae safonau plismona wedi gostwng yn ddifrifol, o ran lifrai ac ymlyniad at bolisi.
Flynyddoedd lawer yn ôl, roedd arolygwyr yr heddlu ym mhob gorsaf yn cynnal trefn a safonau da trwy arolygu swyddogion yn rheolaidd ar ddechrau pob shifft.
O dan ddarpariaethau Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, a fyddech cystal â darparu unrhyw ddogfennaeth sydd wedi’i chofnodi a fyddai’n esbonio pam nad yw’r nodwedd angenrheidiol hon o ddisgyblaeth a threfn dda’r heddlu yn digwydd mwyach, a datgelu’r hyn y mae Arolygydd yr Heddlu yn ei archwilio mewn gwirionedd.
Rwyf wedi darllen y drafft a gyhoeddwyd gan y Coleg Plismona, ond nid yw’n ateb fy nghais.
Ymateb:
Gallaf gadarnhau nad oes unrhyw wybodaeth yn cael ei chadw na’i chofnodi gan Heddlu Dyfed-Powys mewn perthynas â’ch cais uchod.
Dylid nodi, o ganlyniad i’r systemau a fabwysiadwyd gan Heddlu Dyfed-Powys mewn perthynas â chofnodi gwybodaeth o’r fath, y gallai’r wybodaeth a ddarperir fod yn gywir neu beidio. Dylid nodi, am y rhesymau hyn, na ddylid defnyddio ymateb yr heddlu hwn i’ch cwestiynau at ddibenion cymharu ag unrhyw ymateb arall a gewch.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 8 Ebrill 2024)